3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
3. A wnaiff y Comisiwn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo ar gyfer danfoniadau i'r Cynulliad? OAQ53888
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, pan ystyriais y cwestiwn hwn am y tro cyntaf, cefais ddelwedd syfrdanol o lynges gyfan o feiciau Granville yn ymddangos y tu allan gyda'u basgedi’n llawn, ond wrth gwrs, mae'r rhain yn gerbydau pwrpasol. Mae'r Comisiwn yn cytuno bod ganddynt botensial i leihau effaith cerbydau dosbarthu mewn amgylchedd trefol, yn enwedig ar gyfer y 'filltir olaf' o daith ddosbarthu. Yn unol â hyn, rwy'n falch o adrodd ein bod eisoes yn defnyddio cludwyr ar feiciau i gludo dogfennau ar draws Caerdydd. Yn ogystal â hyn, gallaf gadarnhau ein bod wedi siarad am y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo gyda’r cludwyr rydym yn eu defnyddio amlaf, ond o ystyried y pellter o'u depo a'r ffaith eu bod angen parhau i fod yn gystadleuol yn economaidd, nid yw hwn yn opsiwn ymarferol iddynt ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon gyda hwy a'n holl gyflenwyr.
Rwy'n croesawu'r ateb hwnnw a'r optimistiaeth sydd ynddo. Fel y gwyddoch, David, nid yw'r beiciau cargo hyn yn bethau arbenigol, rhyfedd, maent i'w gweld yn llawer o brifddinasoedd Ewrop bellach. Maent wedi dod yn rhan sylfaenol o ddosbarthu 'milltir olaf' mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â thocynnau parcio. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â phroblemau tagfeydd. Cyhyd â bod seilwaith beicio da, gallant gyrraedd lleoedd yn gyflymach na faniau dosbarthu ac ati. Felly, gyda'r nodyn anogol hwnnw rwyf newydd ei glywed, tybed a gaf fi ofyn i'r Comisiwn weithio gyda Llywodraeth Cymru—a sylwaf fod ein Gweinidog teithio llesol yma hefyd—i edrych ar botensial cyfunol y Comisiwn a Llywodraeth Cymru i gefnogi cynnydd mewn dosbarthiadau beiciau cargo ledled Caerdydd—Parc Cathays i’r lle hwn, i'r pumed llawr, a gwaith y Comisiwn hefyd—a gweld a allwn adeiladu'r achos economaidd a fydd yn ysbrydoli darparwr annibynnol neu'r cwmni beiciau cargo cydweithredol cyntaf yng Nghymru, efallai, yma yng Nghaerdydd, i sbarduno'r mecanwaith dosbarthu hwnnw yn ein prifddinas.
Wel, nodais yn y papurau ac yn y cefndir i hyn eich bod wedi sôn am lori'n cyrraedd y tu allan i gatiau'r lle hwn gydag un parsel yn y cefn, a drwy gyd-ddigwyddiad, roeddwn yn dyst i hynny fy hun a gallaf eich sicrhau ei fod yn barsel unig iawn mewn lori enfawr. Ond wrth gwrs, mae’n fwy na thebyg mai hwnnw oedd y parsel olaf oedd gan y lori honno yn ei hamserlen ddosbarthu. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn archwilio pob ffordd o annog cludwyr a chwmnïau dosbarthu i roi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o ddosbarthu, yn enwedig, fel y dywedasom, y filltir olaf honno, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym mewn cysylltiad cyson â'r rheini sy'n dosbarthu i'r ystâd ac rydym wedi dweud wrthynt, pe baent yn ystyried cychwyn gwasanaeth o'r fath yn y dyfodol, y byddai gennym ddiddordeb mawr mewn bod yn rhan o wasanaeth o'r fath.
Nid yn unig un parsel yn troi i fyny mewn fan, ond yn aml iawn mae yna un aelod o staff neu un—
Maddeuwch i mi, Llyr. Collais y rhan gyntaf o’r hyn a ddywedoch chi.
Nid dim ond un parsel yn troi i fyny mewn cerbyd, ond yn aml iawn mae yna unigolion yn troi i fyny mewn cerbydau, boed yn staff neu Aelodau yma hefyd. A gaf i ofyn, felly, yng ngoleuni'r ffaith bod y Cynulliad yma wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, fod y Comisiwn yn edrych ar bolisïau cludiant ehangach yn y lle yma ac yn gwneud mwy i annog mentrau sydd nid yn unig yn annog Aelodau i ddefnyddio dulliau mwy amgylcheddol-gyfeillgar o drafnidiaeth ond hefyd mwy o ymdrech i sicrhau ein bod ni'n rhannu cerbydau pan fo cyfle i wneud hynny?
Ie, mewn cwestiynau yn y gorffennol, rwy'n siŵr ein bod wedi nodi bod y Comisiwn o ddifrif ynghylch y materion hyn. Yn amlwg, gyda darpariaeth parcio ar gyfer beiciau ac ati, mae hwnnw’n un o'r pethau y buom yn edrych arnynt ac wrth gwrs, unwaith eto, rydym yn edrych ar osod pwyntiau gwefru trydanol; cyn gynted ag y bydd y lleoedd ar gael, byddwn yn manteisio ar hynny hefyd. Felly, mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n gadarn i leihau ôl-troed carbon y Cynulliad hwn yn gyffredinol.
Diolch. A chwestiwn 4—Helen Mary Jones—a fydd yn cael ei ateb gan y Llywydd.