Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 4 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, y llynedd, gwelwyd y cynnydd mwyaf i werth allforion yng Nghymru—£17.2 biliwn, gyda chynnydd o 4.2 y cant o'i gymharu â 2017. Cynyddodd allforion i wledydd yr UE gan 5.6 y cant—ychydig dros £0.5 biliwn—o'i gymharu â chynnydd o ychydig dros 2 y cant i wledydd nad ydynt yn yr UE. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gwmnïau yn Islwyn, ac yng ngweddill Cymru, y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir ar ôl Brexit i fasnachu gyda gweddill y byd?