Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 4 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, roeddech chi'n arfer dweud y byddech chi'n parchu canlyniad y refferendwm, ond nid ydych chi'n gwneud hynny nawr, ydych chi? Ar ôl arwain y Blaid Lafur yng Nghymru i'w chrasfa waethaf ers dros 100 mlynedd, rydych chi'n dweud wrth y pleidleiswyr eu bod nhw wedi gwneud camgymeriad. Rydych chi'n arwain sefydliad sy'n dymuno aros yn yr UE ac yn dweud wrth bobl Cymru, yng ngeiriau un AC, eu bod nhw'n anwybodus a bod yn rhaid iddyn nhw bleidleisio eto. Prif Weinidog, pryd wnaethoch chi roi'r gorau i gredu mewn democratiaeth?