Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 4 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, nid yw hynny'n esbonio pam y dywedasoch un peth cyn yr etholiad Ewropeaidd ac un arall ar ôl hynny. Rydych chi'n awgrymu nawr bod cymaint mwy o siawns o gael sefyllfa dim cytundeb fel y bu'n rhaid i chi newid eich polisi a dweud eich bod chi'n cefnogi refferendwm beth bynnag, ond nid dyna'r hyn a ddywedasoch cyn yr etholiad, nage? Rydych chi'n dweud wrthym ni bod cymaint mwy o siawns o ddim cytundeb—daethoch i'r pwyllgor Brexit ar 7 Ionawr ac eto ar 25 Mawrth i siarad am ddim cytundeb; dim ond unwaith yr ydych chi wedi bod yno ers hynny. Daethoch i'r Siambr hon ar 22 Ionawr, 19 Chwefror ac eto ar 19 Mawrth i siarad am ddim cytundeb, ond nid ydych chi wedi dod i'r Siambr hon ers hynny. Ar 5 Mawrth, cawsoch y ddadl honno, i ddiystyru dim cytundeb yn ôl pob sôn. Hyd yn oed ar 21 Ionawr, cawsoch ddiwrnod 'dim cytundeb' a chafodd holl fusnes y Llywodraeth ei ganslo gennych ar gyfer y diwrnod cyfan a rhoesoch ddatganiad eich hunan a chyflwyno pob Gweinidog i ddweud wrthym ni am ddim cytundeb, ond ni fu dim o hynny ers hynny. Oherwydd y gwirionedd yw nad yw pethau wedi newid, ac eithrio'r hyn a ddigwyddodd i'ch plaid chi yn yr etholiad Ewropeaidd hwnnw.
Rydych chi'n sôn am broses etholiad y Ceidwadwyr, y mae gennych chi gymaint o ddiddordeb ynddi, y bydd ethol arweinydd Ceidwadol newydd yn newid hynny i gyd, ei fod yn cael gwared ar y siawns o gytundeb wedi ei gytuno ac yn cynyddu'n aruthrol y siawns o adael 'heb gytundeb'. A yw ef wedi bod yn dilyn yr un ymgyrch arweinyddiaeth Geidwadol â mi? O'r tri ymgeisydd sy'n ffefrynnau, mae un ohonyn nhw, Jeremy Hunt, wedi dweud y byddai dim cytundeb yn hunanladdiad gwleidyddol ac ni fyddai'n mynd ar drywydd hynny. Mae un arall, Michael Gove, wedi dweud ei fod yn gwrthwynebu dim cytundeb gymaint, fel ei fod yn barod i aros yn yr UE tan ddiwedd 2020 o leiaf. Felly, ceir un o'r ymgeiswyr sy'n ffefrynnau, Boris, sydd wedi dweud ei fod yn cefnogi dim cytundeb os na chaiff gytundeb erbyn 31 Hydref. A ydych chi'n credu Boris? Oes gennych chi ffydd ym mhopeth y mae e'n ei ddweud? A ydych chi'n credu bod mwy o wirionedd o gwbl yn yr hyn y mae'n ei ddweud nawr nag a oedd yn yr hyn a ddywedodd Theresa May 100 gwaith ynghylch gadael ar 29 Mawrth? Onid yw'n wir, Prif Weinidog, eich bod chi wedi dweud un peth cyn yr etholiad, un arall wedyn, ac nad yw'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud am ddim cytundeb, yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am barchu canlyniad y refferendwm, yn ddim mwy ystyrlon na'ch ymrwymiad maniffesto i ddarparu ffordd liniaru i'r M4?