Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yng nghanol eich ymgodymu â'r penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4 a'i oblygiadau i fuddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, a ydych chi wedi cael eich hysbysu bod First Group sydd wedi'i leoli yn Aberdeen ar fin ymddihatru o'i weithrediadau bysus yn y DU, gan gynnwys yn Abertawe, lle mae ei is-gwmni, First Cymru, yn rhedeg y gwasanaeth bws lleol sydd hefyd yn ymestyn i'r dwyrain i Ben-y-bont ar Ogwr ac i'r gorllewin i Ddinbych-y-pysgod ac, wrth gwrs, yn genedlaethol trwy wasanaeth TrawsCymru hefyd?