Cyllid ar gyfer Seilwaith Rheilffordd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:00, 4 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf a hanesyddol pan ddaw hi'n fater o drafnidiaeth trenau yng Nghymru, gan agor rheilffyrdd newydd, agor gorsafoedd newydd, buddsoddi mewn cerbydau, trydaneiddio rhai o'r rheilffyrdd ac, wrth gwrs, y systemau metro—mwy nag un, wrth gwrs—ledled Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu, Prif Weinidog, onid yw, â Llywodraeth y DU, a addawodd drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac yna cefnu ar yr addewid hwnnw? A gawn ni nodi hefyd, Prif Weinidog, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n cael cyfran bitw o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd—1 y cant o'r gyllideb gyfan—bod Llywodraeth y DU wedi methu droeon—droeon—â chydsynio i ddatganoli pwerau a'r gyllideb ar gyfer rheilffyrdd, ac nid oes dim wedi ei gynllunio gan Lywodraeth y DU ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog? Prif Weinidog, onid yw'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i bobl Cymru, tra bod Llywodraeth y DU, trwy fethu â buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, wedi siomi Cymru?