1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Mehefin 2019.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ar gyfer seilwaith rheilffordd yng Nghymru? OAQ53937
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd ac mae cyflawniad y cyfrifoldeb hwnnw yn dal i fod yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae adolygiad Williams o reilffyrdd Prydain yn cynnig cyfle i sicrhau datganoli pwerau a chyllid angenrheidiol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf a hanesyddol pan ddaw hi'n fater o drafnidiaeth trenau yng Nghymru, gan agor rheilffyrdd newydd, agor gorsafoedd newydd, buddsoddi mewn cerbydau, trydaneiddio rhai o'r rheilffyrdd ac, wrth gwrs, y systemau metro—mwy nag un, wrth gwrs—ledled Cymru. Mae hyn yn gwrthgyferbynnu, Prif Weinidog, onid yw, â Llywodraeth y DU, a addawodd drydaneiddio'r brif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe ac yna cefnu ar yr addewid hwnnw? A gawn ni nodi hefyd, Prif Weinidog, er gwaethaf y ffaith ein bod ni'n cael cyfran bitw o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd—1 y cant o'r gyllideb gyfan—bod Llywodraeth y DU wedi methu droeon—droeon—â chydsynio i ddatganoli pwerau a'r gyllideb ar gyfer rheilffyrdd, ac nid oes dim wedi ei gynllunio gan Lywodraeth y DU ar gyfer gorsaf Caerdydd Canolog? Prif Weinidog, onid yw'n wir bod Llywodraeth Cymru wedi dangos ei hymrwymiad i bobl Cymru, tra bod Llywodraeth y DU, trwy fethu â buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, wedi siomi Cymru?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna. Mae ei ddiddordeb eu hun mewn rheilffyrdd yng Nghymru, a'i ymrwymiad iddyn nhw, yn hysbys o amgylch y Siambr ac fe ddangoswyd hyn yn eglur iawn yn ystod y cyfnod yr oedd yn Brif Weinidog yn y fan yma. Mae e'n iawn, wrth gwrs—mae gennym ni 11 y cant o hyd llwybrau Network Rail yma yng Nghymru ac mae gennym ni oddeutu 2 y cant o arian yn cael ei wario ar welliannau i'r rhwydwaith yma. Nawr, dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, Mr Grayling, pan gyhoeddodd na fyddai'n bwrw ymlaen ag ymrwymiad maniffesto ei blaid i drydaneiddio'r rheilffordd yr holl ffordd i Abertawe, bod pum gwahanol achos busnes y byddai'n bwrw ymlaen â nhw erbyn hyn—achos busnes, fel y dywedodd Carwyn Jones, i wella gorsaf reilffordd Caerdydd, i gael gorsafoedd ychwanegol o amgylch Abertawe, i gael amseroedd teithio gwell rhwng de a gogledd Cymru ac ar draws ein ffin i Loegr. Hyd yn hyn, Llywydd, ni welwyd unrhyw un o'r achosion busnes hynny a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar adeg canslo trydaneiddio—mae hynny bron i ddwy flynedd yn ôl—ni welwyd unrhyw un o'r achosion busnes hynny, ni ymrwymwyd yr un geiniog o gyllid ac nid oes unrhyw eglurder o gwbl ynghylch y camau nesaf na'r amserlenni i wireddu'r ail gyfres honno o ymrwymiadau. Does dim rhyfedd bod yr Aelod yn tynnu sylw at y gwrthgyferbyniad rhwng y pethau a wnaed yma yng Nghymru i gefnogi ein rheilffyrdd a'r methiant llwyr ar ran Llywodraeth y DU i gyflawni ei chyfrifoldebau—cyfrifoldebau y mae wedi eu haddo, cyfrifoldebau sy'n ddyledus ganddi i bobl yng Nghymru.
Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, o weld, o ganlyniad i fuddsoddiad Llywodraeth y DU yn y rhwydwaith rheilffyrdd, ailsefydlu cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr trwy dro Halton—[Torri ar draws.] Trwy dro Halton. Mae hyn wedi bod yn rhywbeth yr wyf i wedi ei hyrwyddo ers tro byd yn y Siambr hon, gan godi cwestiynau am y mater yn gyntaf gyda'r Prif Weinidog blaenorol dros ddegawd yn ôl. Nawr, mae'r cysylltiadau rheilffordd hynny'n eithriadol o bwysig i bobl y gogledd, ond un drychineb yw nad oes cyswllt rheilffordd uniongyrchol o hyd ar hyn o bryd ar gyfer morlin gogledd Cymru i mewn i Lerpwl, er gwaethaf y ffaith bod y cyswllt rheilffordd ar gael erbyn hyn. Nawr, rwy'n deall bod cynlluniau i ailgyflwyno un, ond maen nhw gryn amser i ffwrdd ac mae dal i fod angen newid trenau yng Nghaer ar hyn o bryd ac, yn anffodus, nid yw'r amserlenni yn cyfateb yn dda i sicrhau amser rhesymol i bobl allu cymudo yn ôl ac ymlaen i Lerpwl am ba bynnag ddiben y gallai fod arnyn nhw angen gwneud hynny. Felly, a gaf i erfyn arnoch chi i siarad â Trafnidiaeth Cymru er mwyn ystyried eu trefniadau amserlennu, cyn ailgyflwyno'r cyswllt rheilffordd uniongyrchol rhwng morlin y gogledd a Lerpwl, er mwyn cael yr amseroedd cysylltu hynny'n iawn i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd i mewn ac allan o Lerpwl yn gyflym?
A gaf i ymuno â'r aelod i groesawu'r gwasanaethau newydd rhwng gogledd Cymru a Lerpwl—canlyniad y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru trwy Gynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau bod hynny'n digwydd? Wrth gwrs, mae'r Aelod yn iawn i gyfeirio at yr anawsterau amserlennu yng Nghaer, ond nid yw record Chris Grayling ar amserlennu yn un sy'n rhoi llawer iawn o ffydd i ni y bydd y broblem honno'n cael ei datrys yn hawdd drwy apelio iddo. Yn ddiweddar, llofnodwyd memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Trafnidiaeth Cymru a Transport for the North. Bydd hynny'n sicr yn helpu i ddatrys rhai o'r rhwystrau i'r penderfyniad sydd gennym ni i gael teithio uniongyrchol ar y trên rhwng gogledd Cymru a Lerpwl, ac mae'r cerbydau gennym yn barod ar gyfer gwneud hynny. A, phan fydd gennym ni'r cydweithrediad sydd ei angen arnom ni gan Lywodraeth y DU, byddwn yn ceisio datrys y problemau sydd yn eu dwylo nhw sy'n rhwystro hyn rhag cael ei gyflawni.