Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolchaf i Joyce Watson am hynna. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu echdynnu a defnyddio pob tanwydd ffosil. Mae ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio a chynhyrchu ynni adnewyddadwy yn gosod tanwyddau ffosil ar waelod yr hierarchaeth ynni yma yng Nghymru. Mae hynny i gyd yn berthnasol i weithgarwch yn sianel San Siôr ac mewn mannau eraill o gwmpas arfordir Cymru.