Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 4 Mehefin 2019.
Llywydd, nid oes gan Lywodraeth Cymru bolisi presennol o werthu rhan o'n cyfran yn y maes awyr. Rwy'n deall y pwyntiau y mae'r maes awyr yn eu gwneud am yr angen am gyfalaf i'w gynorthwyo i ehangu a datblygu ymhellach, a hyd yma rydym ni bob amser wedi gallu cefnogi'r maes awyr yn ei uchelgeisiau trwy Fanc Datblygu Cymru ac offerynnau eraill sydd gennym ni yn ein dwylo ein hunain. Credaf fod hynny wedi gwasanaethu'r maes awyr yn dda, ac ni welaf unrhyw reswm dros wyro oddi wrth y model hwnnw.