Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Mehefin 2019.
Llywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau yna ac am y modd â chafeat y dyfynnodd yr hyn yr oedd y cwmni wedi ei ddweud. Roedd yn iawn yn yr hyn a ddywedodd, ein bod ni wedi cyhoeddi cynllun drafft, bod ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y cynllun drafft hwnnw, a gwn y bydd yr Aelodau yn edrych ymlaen at weld y ffordd y bydd y cynllun terfynol, yr ydym yn bwriadu ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni, yn cymryd i ystyriaeth safbwyntiau a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad a datblygiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser.