2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:40, 4 Mehefin 2019

Diolch, Llywydd. Cais sydd gen i am ddadl yn amser y Llywodraeth, a hynny wrth inni aros yn fan hyn am ddatganiad gan y Prif Weinidog ar y penderfyniad ynglŷn â'r M4 yn ardal Casnewydd. Does yna ddim amheuaeth gen i y bydd safbwyntiau cryf yn cael eu gwyntyllu yn ystod y tri chwarter awr neu'r ychydig mwy a fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer hynny heddiw a'r dadleuon ar y ddwy ochr, dwi'n siwr. Ond feiddiwn i awgrymu bod yna ragor i'w ddweud nag all gael ei ddweud mewn ymateb i ddatganiad gan y Llywodraeth heddiw? Felly, mi hoffwn i wneud cais am ddadl, a dadl sylweddol, yn amser y Llywodraeth, o bosib hyd yn oed dros ddau ddiwrnod, ynglŷn â beth yn union ydy goblygiadau'r penderfyniad yma, a beth ydy'r camau sydd angen i ni eu cymryd fel sefydliad, y Llywodraeth yma a ni fel cenedl, wrth inni symud ymlaen o'r pwynt hwn mewn amser. Dwi'n meddwl bod hwn wedi bod yn un o'r testunau gwleidyddol pwysicaf i ni ei drafod mewn blynyddoedd diweddar, ond dwi'n credu yn wyneb hynny fod angen sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo yma yn ein Senedd genedlaethol ni i gael y drafodaeth bwysig yma wrth inni wynebu'r camau nesaf.