2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:42, 4 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae adroddiad yr arolygydd yn hir iawn ac yn fanwl iawn, fel y llythyr penderfyniad, ac mae'n bwysig iawn i'r Aelodau gael cyfle i ddarllen y ddwy ddogfen a'u hystyried yn llawn cyn trefnu dadl yn amser y Llywodraeth. Ond fe fyddwn ni'n cyflwyno dadl yn amser y Llywodraeth yn ystod yr wythnosau nesaf, wedi i'r Aelodau gael cyfle i ystyried yn llawn yr wybodaeth sydd wedi ei chyflwyno heddiw.