Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig ym mis Mehefin 2015. Roedd y pryderon sylweddol ar y pryd yn ymwneud ag arwain a llywodraethu, gwasanaethau mamolaeth, iechyd meddwl, ailgysylltu â'r gwasanaethau cyhoeddus a gofal sylfaenol y tu allan i oriau.
Gwnaed cynnydd ym mhob un o'r meysydd hyn. Cafodd gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau eu his-gyfeirio ac nid ydyn nhw bellach yn destun mesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd wedi bodloni nifer o'r disgwyliadau a nodwyd yn y fframwaith gwella mesurau arbennig sydd i'w gyflawni erbyn mis Ebrill eleni. Bu gwelliannau o ran prosesau llywodraethu ac ansawdd, arweinyddiaeth y bwrdd, gwasanaethau iechyd meddwl, ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth, a sicrhau oriau cynaliadwy mewn ymarfer cyffredinol.
Mae David Jenkins, yr ymgynghorydd annibynnol i'r bwrdd, wedi rhoi sicrwydd bod gwaith y bwrdd yn goruchwylio ac yn craffu ar y ddarpariaeth a'r perfformiad wedi gwella'n sylweddol. Dywed hefyd fod y bwrdd bellach yn gosod disgwyliadau clir ac yn herio'n adeiladol. Mae'r cadeirydd wedi dod â chymhelliant newydd gyda chyfranogiad mwy gweithredol ac adeiladol mewn trefniadau gweithio mewn partneriaeth.
Mae gwella ansawdd wedi bod yn sbardun allweddol i'r bwrdd iechyd dan arweiniad clinigol y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth. Mae data sy'n ymwneud â phryderon bellach ar gael ar gyfer wardiau unigol yn dilyn cyflwyno'r dangosfwrdd niwed ac uwchgynadleddau niwed i hybu dysgu a rennir. Bu gwelliannau sylweddol hefyd yng nghyfraddau heintiau, gan gynnwys gostyngiad o fwy na 50 y cant mewn cyfraddau MRSA.
Roeddwn yn falch o weld bod adroddiadau diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar iechyd meddwl, ynghyd ag adborth gan Emrys Elias, y cynghorydd annibynnol ar wasanaethau iechyd meddwl, wedi rhoi sicrwydd annibynnol bod gwelliannau wedi'u gwneud i ansawdd y gofal a ddarperir, i ymrwymiad y staff, ac i fynediad i gleifion.
Fel pob bwrdd iechyd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio â phartneriaid drwy glystyrau gofal sylfaenol lleol i weddnewid gwasanaethau lleol. Mae'r bwrdd iechyd yn gwneud yn dda gyda llai o ymddiswyddiadau mewn practisau meddygon teulu, practisau meddygon teulu a reolir yn dychwelyd at gontractau gwasanaethau meddygol cyffredinol, ac mae pob swydd dan hyfforddiant i feddygon teulu yn y gogledd yn llawn am y tro cyntaf.
Canfuwyd o'r trosolwg mesurau arbennig, fodd bynnag, bod pryderon eraill drwy'r system gyfan o ran cyflawni'r cynnydd sydd ei angen ym maes cyllid, cynllunio a pherfformiad amser aros. Nid yw'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith yn y meysydd hyn. Mae'r bwrdd iechyd yn wynebu her ariannol sylweddol, ond mae cyfleoedd hefyd i wella ei sefyllfa ariannol. Cefnogwyd hyn gan asesiadau lleol o gyfleoedd ariannol a meincnodi. Yn 2013, canfuwyd o waith meincnodi gan Deloitte bod modd gwneud arbedion effeithlonrwydd o rhwng £85,000,000 a £125,000,000. Amcangyfrifwyd o waith meincnodi mewnol pellach yn 2017 ei bod hi'n bosib arbed mwy fyth. Nid yw'n dderbyniol o gwbl na wnaed fawr ddim cynnydd, os o gwbl, o ran manteisio ar y cyfleoedd hyn.
Er mwyn gwneud y cynnydd gofynnol, rwyf wedi cytuno i roi cymorth i PricewaterhouseCoopers weithio gyda'r bwrdd iechyd yn ystod chwarter cyntaf eleni i wella'r ffordd y mae'n cynllunio ac yn gweithio i sicrhau gwelliant ariannol cynaliadwy. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod gan y bwrdd gynllun mwy cadarn ar gyfer 2019-20 a sail ar gyfer cynllunio ariannol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd yn cydnabod yr angen am arbenigedd ychwanegol o ran newid, a hynny o safon uchel, ac mae swyddogion eisoes yn gweithio gyda chadeirydd y bwrdd iechyd i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn.
Bydd llwyddiant y bwrdd iechyd yn y dyfodol y tu hwnt i fesurau arbennig wrth ddarparu gwasanaethau amserol o ansawdd uchel o fewn yr adnoddau sydd ar gael yn dibynnu ar ei allu i ddatblygu strategaeth glinigol gynaliadwy. Mae angen strategaeth glir i ategu gweledigaeth ehangach y bwrdd i ddarparu gofal yn agosach at y cartref gan ganolbwyntio mwy ar wella iechyd a lles y boblogaeth. Dyma hefyd yw barn glir Swyddfa Archwilio Cymru. Heb strategaeth glinigol briodol, bydd y bwrdd yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael yn gynaliadwy â'i berfformiad gwael o ran gofal wedi'i gynllunio a heb ei drefnu. Mae hefyd yn debygol o barhau'n orddibynnol ar staff locwm ac asiantaeth wrth geisio cynnal gwasanaethau, ac mae ansawdd gwasanaeth cysylltiedig a goblygiadau cost yn gysylltiedig â hynny.
Wrth i'r strategaeth gwasanaethau clinigol gael ei datblygu, byddaf yn darparu cymorth mwy penodol er mwyn sicrhau cynnydd mewn amseroedd aros, yn enwedig ym maes orthopedeg, wroleg, endosgopi a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed. Er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy mewn gwasanaethau orthopedig, rwyf wedi gofyn i brif weithredwr y GIG ymyrryd er mwyn sicrhau y gwneir cynnydd. Rhoddir cymorth i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhyrysgerbydol cymunedol, i gynyddu nifer yr ymgynghorwyr orthopedig gyda chwe swydd arall, ac i gwblhau'r broses ddylunio a chaffael cyfalaf ar gyfer y cynlluniau cyfalaf yn y tri phrif ysbyty.
Mae'r arian rheolaidd ychwanegol a gyhoeddais fis Gorffennaf diwethaf wedi cefnogi mwy o gapasiti, gallu a chydnerthedd yn y tri phrif ysbyty. Disgwyliaf i'r cylchoedd gwella 90 diwrnod mewn gofal heb ei drefnu barhau i wella llif cleifion a dechrau dangos effaith gadarnhaol barhaus ar dargedau eraill gofal heb ei drefnu.
Disgwyliaf weld gweithredu a chynnydd sylweddol o ran y pryderon sy'n weddill er mwyn sicrhau pobl yn y gogledd bod y pwyslais yn parhau ar wneud y gwelliannau y mae eu hangen y tu hwnt i fesurau arbennig.