Part of the debate – Senedd Cymru am 5:37 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru un o'i hymgynghoriadau mwyaf ym maes amaethyddiaeth. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth. O ystyried pwysigrwydd ffermio yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y drafodaeth yn un sylweddol. Roedd y safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr yn gryf ac yn bellgyrhaeddol. Er gwaethaf hyn, cytunodd y mwyafrif helaeth y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi ffermwyr a thir Cymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymateb polisi Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi ystyried y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn ofalus ac wedi gwneud nifer o newidiadau i'r cynigion polisi yng ngoleuni'r ymgynghoriad, a byddan nhw'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad arfaethedig ym mis Gorffennaf.
Mae aelodaeth o'r UE yn golygu bod ein ffermwyr a'u cadwyni cyflenwi ar hyn o bryd yn elwa o gael mynediad i farchnad fawr, ddirwystr heb dariffau. Mae cysylltiadau masnachu'r DU yn parhau i fod yn aneglur. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg yw y bydd ffermwyr yn wynebu heriau newydd wrth weithredu y tu allan i'r UE. Bydd angen i fusnesau fferm fod yn fwy cadarn. Ar ôl Brexit, mae gennym ni gyfle i roi system o gymorth a ddyluniwyd yng Nghymru ar waith. Y man cychwyn yw ein rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n rhoi dyletswydd amlochrog ar Lywodraeth Cymru i sicrhau datblygiad cynaliadwy i wella lles amgylchedd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cyflwyno cyfres bellach o egwyddorion a dyletswyddau a gynlluniwyd i gefnogi'r gwaith o reoli adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae'n dilyn y bydd yn rhaid i gynaliadwyedd fod wrth wraidd polisi cefnogi ffermydd Cymru.
Mae'r amcanion llesiant a gaiff eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn arbennig o berthnasol i ffermio, o gofio ei swyddogaeth allweddol yn ein hamgylchedd, ein heconomi wledig a'n cymunedau, ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw'r cynllun taliadau sylfaenol yn datblygu'r amcanion hyn mewn ffyrdd allweddol. Nid yw'n ddigon i wella'r amgylchedd, nid yw'n dangos cymhelliant i wella ac nid yw wedi'i dargedu'n dda. Drwy gydol yr ymgynghoriad, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru nad oedd cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn, oherwydd bod y DU wedi penderfynu gadael yr UE a'i bolisi amaethyddol cyffredin, a goblygiadau uniongyrchol hynny yw y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru yn dod i ben. Er mwyn penderfynu beth ddylai ei ddisodli, mae angen i ni feddwl am ein rhwymedigaethau a'r cyd-destun economaidd newydd. Ni chaiff unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau'r dyfodol eu gwneud heb ymgynghori pellach ac asesiad o effaith. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r ansicrwydd sylweddol a pharhaus ynghylch natur Brexit.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw cymorth incwm cyffredinol nad yw'n gysylltiedig â chanlyniadau yn ffordd effeithiol o gefnogi ffermwyr. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu troi oddi wrth gynllun cymorth incwm cyffredinol sy'n seiliedig ar dir dan reolaeth i system newydd o daliadau sy'n targedu canlyniadau, a bydd hyn yn destun ymgynghoriad pellach ym mis Gorffennaf.