– Senedd Cymru am 5:36 pm ar 4 Mehefin 2019.
Mae eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yn ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar 'Brexit a'n tir'. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Y llynedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru un o'i hymgynghoriadau mwyaf ym maes amaethyddiaeth. Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y drafodaeth. O ystyried pwysigrwydd ffermio yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y drafodaeth yn un sylweddol. Roedd y safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr yn gryf ac yn bellgyrhaeddol. Er gwaethaf hyn, cytunodd y mwyafrif helaeth y dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi ffermwyr a thir Cymru. Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac ymateb polisi Llywodraeth Cymru. Rwyf wedi ystyried y safbwyntiau a fynegwyd yn yr ymatebion yn ofalus ac wedi gwneud nifer o newidiadau i'r cynigion polisi yng ngoleuni'r ymgynghoriad, a byddan nhw'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad arfaethedig ym mis Gorffennaf.
Mae aelodaeth o'r UE yn golygu bod ein ffermwyr a'u cadwyni cyflenwi ar hyn o bryd yn elwa o gael mynediad i farchnad fawr, ddirwystr heb dariffau. Mae cysylltiadau masnachu'r DU yn parhau i fod yn aneglur. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg yw y bydd ffermwyr yn wynebu heriau newydd wrth weithredu y tu allan i'r UE. Bydd angen i fusnesau fferm fod yn fwy cadarn. Ar ôl Brexit, mae gennym ni gyfle i roi system o gymorth a ddyluniwyd yng Nghymru ar waith. Y man cychwyn yw ein rhwymedigaethau sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n rhoi dyletswydd amlochrog ar Lywodraeth Cymru i sicrhau datblygiad cynaliadwy i wella lles amgylchedd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cyflwyno cyfres bellach o egwyddorion a dyletswyddau a gynlluniwyd i gefnogi'r gwaith o reoli adnoddau naturiol a bioamrywiaeth yn gynaliadwy yng Nghymru. Mae'n dilyn y bydd yn rhaid i gynaliadwyedd fod wrth wraidd polisi cefnogi ffermydd Cymru.
Mae'r amcanion llesiant a gaiff eu nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn arbennig o berthnasol i ffermio, o gofio ei swyddogaeth allweddol yn ein hamgylchedd, ein heconomi wledig a'n cymunedau, ein diwylliant a'n hiaith. Nid yw'r cynllun taliadau sylfaenol yn datblygu'r amcanion hyn mewn ffyrdd allweddol. Nid yw'n ddigon i wella'r amgylchedd, nid yw'n dangos cymhelliant i wella ac nid yw wedi'i dargedu'n dda. Drwy gydol yr ymgynghoriad, pwysleisiodd Llywodraeth Cymru nad oedd cynnal y sefyllfa bresennol yn opsiwn, oherwydd bod y DU wedi penderfynu gadael yr UE a'i bolisi amaethyddol cyffredin, a goblygiadau uniongyrchol hynny yw y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru yn dod i ben. Er mwyn penderfynu beth ddylai ei ddisodli, mae angen i ni feddwl am ein rhwymedigaethau a'r cyd-destun economaidd newydd. Ni chaiff unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau'r dyfodol eu gwneud heb ymgynghori pellach ac asesiad o effaith. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu'r ansicrwydd sylweddol a pharhaus ynghylch natur Brexit.
Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad yw cymorth incwm cyffredinol nad yw'n gysylltiedig â chanlyniadau yn ffordd effeithiol o gefnogi ffermwyr. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu troi oddi wrth gynllun cymorth incwm cyffredinol sy'n seiliedig ar dir dan reolaeth i system newydd o daliadau sy'n targedu canlyniadau, a bydd hyn yn destun ymgynghoriad pellach ym mis Gorffennaf.
Ar sail yr adborth i'r ymgynghoriad, ac sy'n dod o fframwaith deddfwriaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd ati i gyflawni amcan o reoli tir yn gynaliadwy, sy'n cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol â'n rhwymedigaethau i'r genhedlaeth nesaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ffermwyr y dyfodol yng Nghymru.
Mae cynhyrchu bwyd yn elfen hanfodol o reoli tir yn gynaliadwy. Bydd dull cynaliadwy yn ei gwneud yn bosibl i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus o ganlyniad i gynhyrchu bwyd. Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn cynnig cyfuno'r cynlluniau ar gyfer cadernid economaidd a nwyddau cyhoeddus a gynigir yn 'Brexit a'n tir' yn un cynllun ffermio cynaliadwy. Byddai un cynllun yn caniatáu i ni archwilio cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu ni i ddod o hyd i sefyllfa lle mae popeth ar eu hennill—pethau sy'n dda i fwyd ac i'r amgylchedd. Rydym yn cynnig y dylai cynllun ffermio cynaliadwy ddarparu taliadau blynyddol i ffermwyr yn gyfnewid am y canlyniadau nwyddau cyhoeddus a gyflawnir ar eu ffermydd. Rydym yn cynnig bod taliadau'n cael eu targedu at ganlyniadau penodol. Gallai hyn fod yn ddull pwerus o lwyddo yn erbyn ein hymrwymiadau amgylcheddol, gan gynnwys gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, cyrraedd ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer glân. Mae'n anodd gweld sut y gallwn fynd i'r afael â'r ymrwymiadau hyn yn ystyrlon ac yn effeithlon heb weithredu ar draws yr 80 y cant o dir Cymru sy'n cael ei reoli gan ffermwyr.
Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym wedi canfod bod cynhyrchu bwyd a chynhyrchu nwyddau cyhoeddus yn atgyfnerthu ei gilydd yn hytrach na'u bod ar wahân. Mewn llawer o achosion, gall yr un weithred, a gaiff ei gwneud yn y ffordd gywir, gyfrannu at gynhyrchu bwyd a chynhyrchu canlyniadau nwyddau cyhoeddus, ac rydym eisiau talu am y canlyniadau hyn. Mae sawl ffordd y gall ffermwr wella ansawdd yr aer drwy gynhyrchu bwyd: rheoli pridd, hwsmonaeth anifeiliaid a defnydd o faethynnau wedi'u targedu yw tair ffordd bosibl o wneud hynny. Drwy gynhyrchu bwyd yn y ffordd hon, gallwn ni sicrhau manteision i'r ffermwr, yr amgylchedd a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Byddai talu am ganlyniadau nwyddau cyhoeddus drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o ffermydd y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol presennol. Yn ogystal â'r taliadau blynyddol, byddem ni'n cynnig darparu buddsoddiad, cyngor a hyfforddiant i gefnogi datblygiad busnesau ffermydd. Amcan y mesurau hyn fyddai gwella proffidioldeb y ffermydd. Mae ein ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol ac rwy'n deall pryderon a godwyd yn llawer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r cynigion diwygiedig hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â llawer o'r pryderon a godwyd.
Cyn y gallwn fynd yn ein blaenau, mae angen i nifer o bethau ddigwydd. Yn gyntaf, mae angen cyllideb y cytunwyd arni. Er bod Llywodraeth y DU wedi addo cynnal lefelau arian parod cyllid amaethyddol tan 2022, nid oes sicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd wedyn. Mae'n rhaid inni barhau i fynnu bod Cymru'n cael ei chyfran bresennol. Bydd y cyllid hwn yn penderfynu faint o arian y gallwn ei dalu i ffermwyr. Yn ail, mae angen ymgynghoriad pellach ar ein cynigion arnom ni i'n galluogi ni i ystyried elfennau ymarferol cynllun ffermio cynaliadwy a sicrhau bod y weinyddiaeth yn ymarferol i'w gweithredu. Yn drydydd, mae angen inni ymgymryd ag asesiad effaith llawn. Rydym ni'n datblygu gallu a fydd, pan y bydd y gyllideb yn hysbys, yn ein galluogi i amcangyfrif yr effaith ar wahanol fathau o ffermydd ledled Cymru.
Ni allwn symud ymlaen tan bod hyn i gyd ar waith. Mae maint yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'n hymadawiad o'r UE ond wedi cynyddu, ac ni allwn wneud penderfyniadau ar yr amserlen bontio heb wybod mwy yn gyntaf. Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisïau, ffermwyr yn unig a all sicrhau newid gwirioneddol ar ein tir. Felly, rwyf am barhau i weithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid o bob safbwynt ar sut i droi ein cynigion yn realiti ymarferol. Gan adlewyrchu hyn, yn dilyn cyhoeddi'r ymgynghoriad nesaf, rwy'n bwriadu lansio proses i gyd-gynllunio ein cynigion, gan gynnwys ffermwyr ac eraill wrth gynllunio'r agweddau ymarferol, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto am y cyfraniadau ymgynghori a gafwyd. Bydd cynigion polisi yn y dyfodol yn well oherwydd y rhain, a gyda'n gilydd gallwn weithio i helpu ffermwyr i ffynnu, gwireddu gwerth tir Cymru, a sicrhau sector amaethyddol ffyniannus, cadarn yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, a thôn y datganiad yn benodol. Rwy'n cofio ymateb i un o'r datganiadau cynharach, a oedd yn sôn am 'reolwyr tir' a wnaeth, i raddau, ddileu'r gymuned ffermio, ac nid wyf yn credu mai dyna oedd bwriad y Gweinidog, ond mae'r iaith, yn sicr, yn y datganiad y prynhawn yma yn llawer mwy defnyddiol, byddwn yn awgrymu, i roi hyder i sector sy'n amlwg yn poeni am y dyfodol, gyda newid mor radical. Ac, mewn rhai ffyrdd, rwy'n credu bod gennych chi un o'r swyddi mwyaf cyffrous yn y Llywodraeth, wir, oherwydd bod gennych chi y gallu i lunio pecyn o fesurau a fydd yn diffinio cefn gwlad a'r economi wledig am genhedlaeth neu ddwy ac mae hynny'n gyfrifoldeb enfawr ond yn gyfle anferthol hefyd. Am y tro cyntaf mewn dros 45, 50 o flynyddoedd, byddwn ni'n gallu teilwra cefnogaeth amaethyddol a gwledig i anghenion a gofynion Cymru wrth inni gamu ymhellach i'r unfed ganrif ar hugain, ac mae hynny'n gyfle anferthol inni ei ystyried.
Un peth rwy'n credu, yn amlwg, sy'n anffodus yw'r ansicrwydd ynghylch y sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd, ond mae'n ffaith, pe bai'r cytundeb wedi mynd drwodd yn San Steffan, y byddai llawer o'r ansicrwydd hwnnw wedi'i ddileu ac, yn amlwg, mae'n werth nodi bod yr undebau ffermio'n cefnogi'r cytundeb a gyflwynwyd, a gallem yn awr fod yn symud tuag at ymdrin â rhai o'r pryderon yr ydych chi wedi tynnu sylw atynt yn y datganiad hwn, ynghylch modelu, sy'n sylw nad yw'n annheg yn fy marn i. O ystyried y math hwn o newid dramatig mewn cefnogaeth—ac mae'r Gweinidog yn cyffwrdd â'r modelu y mae eisiau ei wneud—ydy hi'n gallu sôn am sut y bydd hi'n bwrw ymlaen â hynny? Rwy'n sylweddoli bod hynny'n anodd, heb wybod cwantwm yr arian sydd ar gael, a bydd hynny'n dibynnu ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, ond mae'n rhaid bod rhywfaint o feddwl yn mynd rhagddo yn yr adran i ddeall sut y caiff yr effeithiau hyn eu hasesu a sut y bydd yr asesiadau effaith yr ydych chi'n sôn amdanyn nhw yn cael eu rhoi ar waith, oherwydd mae'n bwysig iawn pan fo newid mor sylfaenol i'r pecyn cymorth sydd ar gael i amaethyddiaeth yn digwydd eich bod chi'n deall yn gyfan gwbl yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud.
Rwy'n credu bod dod â'r ddau gynllun o dan yr un to yn fuddiol, o bosibl, ond mae yna berygl gwirioneddol, os nad yw wedi ei ddyfeisio'n ofalus ac ar y cyd â'r sector, y bydd gennych chi gynllun sy'n ceisio bod yn bopeth i bawb ac yn methu â chyflawni unrhyw amcanion yr ydych wedi'u pennu. Ac felly, unwaith eto, byddwn yn gwerthfawrogi deall yr hyn a arweiniodd at eich penderfyniad ynghylch dod â'r ddau gynllun hynny i mewn i'r un maes, a gafodd ei gyhoeddi gennych chi y prynhawn yma, oherwydd yn eich datganiad cynharach, roeddech chi'n glir iawn eich bod eisiau creu'r ddwy ffrwd hon ac roedden nhw'n cystadlu i gyflwyno manteision gwahanol er lles y cyhoedd.
A'r pwynt arall yr ydych chi'n ei wneud yn y datganiad, sydd hefyd i'w groesawu y prynhawn yma, yw'r cysylltiad pwysig hwnnw rhwng bwyd a'r amgylchedd. Ni ddylem ni gystadlu yn erbyn y ddau. Mewn gwirionedd, mae'r ddau yn ategu ei gilydd, ac os caiff ei wneud yn gywir, yna mae'n amlwg y gall y ddwy agwedd elwa ar unrhyw gynllun a gyflwynir gennych chi. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad i'w groesawu yn yr hyn yr ydych wedi'i amlinellu yn eich datganiad y prynhawn yma.
Hoffwn ddeall hefyd bod y Prif Weinidog blaenorol, ac rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud bod y Prif Weinidog presennol, wedi nodi y bydd unrhyw arian a gaiff ei ddyrannu i gynlluniau cymorth gwledig a chymorth amaethyddol yn cael ei drosglwyddo i'ch adran chi os daw i lawr o Whitehall. Ai dyna bolisi cyfredol y Llywodraeth? Rwy'n sylweddoli mai tan 2021 yn unig y mae mandad y Llywodraeth hon yn parhau. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo tan 2022, ond yr wyf yn credu y byddai'n ddefnyddiol deall bod yr ymrwymiad hwnnw'n dal i fodoli a'i fod yn dal yn weithredol, o gofio, yn amlwg, am y cyfyngiadau y gallai hynny eu gosod os bydd arian yn mynd i adrannau eraill.
Hoffwn hefyd ddeall, yn y paragraff olaf ond un, am y gweithgor hwn—gallwch ei alw yr hyn y mynnwch—yr ydych chi'n mynd i'w greu i geisio dod â'r rhanddeiliaid at ei gilydd i wireddu'r cynigion o'r cam ymgynghori nesaf. Rwy'n credu mai'r geiriau y gwnaethoch chi eu defnyddio oedd 'cyd-gynllunio ein cynigion'. Nawr, mae hynny'n swnio'n dda iawn wedi'i ysgrifennu yma. Mae'n amlwg eich bod chi wedi rhoi ystyriaeth i hynny, ac mae gennyf ddiddordeb mawr mewn deall sut y byddai'r cyd-gynllun hwnnw'n cyflwyno'r cynigion hynny oherwydd rydym yn edrych ar ddyddiad yn 2021 i'r cynllun presennol i ddod i ben ac i'r cynllun newydd gael ei roi ar waith. Mae hynny, gyda phob ewyllys da yn y byd, tua 18 mis i ffwrdd yn unig. Mae gan yr adran lawer i'w wneud yn yr amserlen dynn honno. Felly, a allwch chi roi dealltwriaeth i ni o'r modd y gwneir y gwaith hwn, pryd fyddech chi'n gobeithio bod mewn sefyllfa i gyflwyno cynigion manwl, fel y gallwn ni ddeall yn union pan fydd y cynigion hynny'n cael eu rhoi ar waith y byddan nhw'n ddichonadwy, yn apelgar, yn bwysig, i ffermwyr ymrwymo iddyn nhw, ac yn anad dim y byddan nhw'n darparu'r sefydlogrwydd hwnnw yr ydych yn sôn amdano yn eich datganiad, sy'n bwysig i'r genhedlaeth bresennol o ffermwyr, ond sy'n bwysig i'r genhedlaeth nesaf o ffermwyr?
Diolch ichi, Andrew, am y cwestiynau a'r sylwadau hynny. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: rwy'n credu bod gennyf i'r swydd fwyaf cyffrous yn y Llywodraeth, ac rydych chi yn llygad eich lle, dyma'r tro cyntaf ers 45 mlynedd inni allu gwneud hyn, a dyna pam mae angen inni gael y polisi amaethyddol a'r polisi cymorth yn hollol gywir. Ni chaf i fy mrysio. Dydw i ddim wedi bod mor gynnar ag y buaswn wedi hoffi gyda'r datganiad hwn. Roeddwn wedi gofyn i'r datganiad hwn gael ei gyflwyno ryw dair neu bedair wythnos yn ôl. Yna, yn amlwg, bu'n rhaid i ni gymryd rhan yn yr etholiadau Ewropeaidd, felly cawsom y cyfnod purdah. Felly, dyma'r tro cyntaf i mi allu ei gyflwyno, a oedd yn bwysig iawn oherwydd fy mod eisiau cyflwyno'r ail ymgynghoriad—rydym yn ei alw'n 'Brexit a'n tir 2'; nid hwnnw fydd y teitl yn y pen draw, ond dyna'r teitl dros dro—cyn Sioe Frenhinol Cymru, i wneud yr un peth ag a wnaethom ni y llynedd gyda 'Brexit a'n tir', pan gawsom ni'r ymgynghoriad hir hwnnw o 16 wythnos. Rwy'n bwriadu gwneud yr un peth gyda'r ail ymgynghoriad, ond ei lansio cyn Sioe Frenhinol Cymru a sioeau amaethyddol yr haf gan mai dyna'r adeg yr wyf yn credu y gallwn ni i gyd gael sgyrsiau dwys ac ystyrlon iawn gyda llawer o'n rhanddeiliaid. Ond rwy'n ymwybodol iawn bod angen i ni gael hyn yn iawn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol hefyd.
Gobeithiaf ei bod yn glir iawn i bawb, i Aelodau yn y Siambr ac i'n rhanddeiliaid, ein bod wedi gwrando ac rydym ni wedi nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Roeddwn i eisiau ei gwneud yn glir iawn y llynedd ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon, a gobeithio y gwerthfawrogir ein bod wedi newid nifer o'r cynigion. Roeddech wedi sôn am beidio â defnyddio'r term 'rheolwr tir' mwyach; ffermwyr yw ffermwyr. Dywedon nhw wrthyf eu bod yn dymuno cael eu galw'n ffermwyr. Mae rhai ffermwyr yn dymuno cael eu galw'n gynhyrchwyr bwyd, ac eraill ddim, ond yn gyffredinol rwy'n credu bod ffermwyr eisiau cael eu galw'n ffermwyr, ac, yn amlwg, mae yna reolwyr tir sy'n cynnwys ein coedwigwyr, ein contractwyr, a byddwn yn defnyddio'r term hwnnw hefyd.
Fe wnaethoch chi ofyn rhai cwestiynau penodol am y ddau gynllun. Felly, yr hyn a ddywedais yn glir iawn y tro diwethaf oedd y byddem ni'n rhoi terfyn ar gynllun y taliad sylfaenol, a byddai gennym y ddau gynllun ac roedd y ffordd y cawsant eu llunio yn rhan o'r ymgynghoriad hwnnw. Unwaith eto, yr hyn a nodwyd oedd yr ystyrir y byddai'n well cael polisi integredig. Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle pan rydych yn sôn am gynhyrchu bwyd, a dywedais hynny yn y datganiad y prynhawn yma: gallan nhw fod yn gefn i'w gilydd, nid oes rhaid i un ohonyn nhw fod ar draul y llall. Ac ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn cynhyrchu bwyd gyda'r nwyddau cyhoeddus hynny ond dydyn nhw ddim yn cael eu talu er lles y cyhoedd, ac rydym ni eisiau newid hynny a sicrhau eu bod nhw yn cael eu talu am hynny.
Dydw i ddim yn credu i mi ddefnyddio'r term 'gweithgor'. Yr hyn a ddywedais oedd ein bod yn dymuno cynllunio'r polisi ar y cyd wrth symud ymlaen. Ac, unwaith eto, mae undebau'r ffermwyr yn benodol a rhai o'r sefydliadau amgylcheddol wedi datgan yn glir eu bod yn dymuno parhau i gydweithio'n agos â ni ar hynny. Byddwch yn ymwybodol, yn syth ar ôl canlyniad y refferendwm dair blynedd yn ôl, fy mod wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid Brexit y Gweinidog—y grŵp bord gron. Mae hwnnw'n cwrdd yn rheolaidd. Bydd yn parhau i gwrdd. Rwyf wedi ei wneud yn glir iawn iddynt fod yn dal angen eu cyngor arnaf ac iddyn nhw fod yn gyfeillion beirniadol, ac maen nhw'n barod iawn i wneud hynny.
Maes arall lle y byddwn eisiau gweld y cyd-ddylunio hwnnw'n mynd yn ei flaen—. Soniais y bydd yr ymgynghoriad, fwy na thebyg, yn cael ei lansio ddechrau mis Gorffennaf, ac yna, yn fuan wedi hynny, bydd angen inni ystyried sut yr ydym ni am wneud y cyd-gynllunio hwnnw. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio y cawsom ni lawer o sesiynau ymgysylltu â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill y llynedd, pan aeth swyddogion i mewn i ystafell, gofynnwyd llawer o gwestiynau iddyn nhw, ac fe wnaethon nhw glywed llawer o sylwadau. Dydw i ddim eisiau gweld hynny gyda'r ail ymgynghoriad; rwy'n credu y bydd yn llawer mwy o weithdy, lle bydd yn rhaid i bawb weithio'n galed iawn, a bydd gennym ni ddiddordeb mawr yn syniadau pawb. Felly, dyna'r math o syniadau cynnar sydd gennyf ynghylch hynny.
Roeddech chi wedi gofyn am yr amserlen, felly soniais y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal, gobeithio, ddechrau Gorffennaf, yn sicr cyn Sioe Frenhinol Cymru. Bydd yn cael ei gynnal eto am 16 wythnos. Rwy'n hoffi'r cyfnod ymgynghori hir hwnnw, yn enwedig dros yr haf, felly mae'n debyg y bydd yn ddiwedd mis Hydref. Byddwn wedi dechrau edrych ar y cyd-gynllunio yn ystod y cyfnod hwnnw. Unwaith eto, mae gennym ni sefydliad annibynnol yn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad y llynedd. Rwy'n tybio y byddem ni'n gwneud yr un fath eleni, a fydd, mae'n debyg, yn adrodd i ni yn ystod y gwanwyn y flwyddyn nesaf. Felly, dyna'r math o amserlen yr wyf i'n ei hystyried.
Mae wedi bod yn anodd iawn cynnal asesiad effaith am y rhesymau a amlinellais yn y datganiad llafar, ond bydd yr Aelodau heddiw wedi gweld y ddogfen hon, 'Amaethyddiaeth yng Nghymru'. Dyna ddechrau, os mynnwch chi, yr asesiad effaith. Mae hyn yn ychwanegu at y gallu i wneud y gwaith modelu a'r asesiadau effaith wrth symud ymlaen.
Fe wnaethoch chi ofyn am gyllid. Fel y gwyddoch chi, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yr arian gennym tan 2022. Dywedodd y Llywodraeth hon y byddai'n neilltuo—gwnaeth y Prif Weinidog blaenorol a gwnaeth y Prif Weinidog presennol hynny mewn swydd flaenorol hefyd—a hyd y gwn i, nid yw hynny wedi newid, ond nid ydym ni'n gwybod beth yw'r gyllideb. Ar hyn o bryd, mae'n sero, felly nid yw neilltuo dim yn mynd i fod o gymorth mawr i unrhyw un. Ond, yn realistig, mae angen i ni sicrhau nad ydym ni'n colli ceiniog. Dywedwyd wrthym ni na fyddem ni, fel y gwyddoch chi, ac yn sicr rydym ni'n eu dal at hynny ac at yr addewid hwnnw.
Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, mi fydd angen edrych mewn manylder ar y dogfennau atodol sydd hefyd wedi cael eu cyhoeddi heddiw cyn ein bod ni'n gallu dod i gasgliad llawn ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw. Yn amlwg, mi fydd llawer o'r manylion yn yr ymgynghoriad fydd yn ymddangos mis nesaf, felly mi edrychwn ni ymlaen i weld hwnnw.
Ar y wyneb, dwi'n meddwl bod tôn y datganiad yma yn taro cywair tipyn mwy adeiladol na'r hyn rŷm ni wedi'i gael yn y gorffennol. Dwi'n cyfeirio'n benodol at y ffaith eich bod chi'n dweud y byddwch chi'n cyd-gynllunio—yn 'co-design-io'—agweddau ymarferol y cynllun. Mae'n biti ein bod ni ddim wedi cael co-design o'r polisi o'r cychwyn cyntaf efallai, ond mae'r ffaith bod hynny am ddigwydd nawr, rwy'n credu, yn gam i'r cyfeiriad iawn.
Byddwn i yn gwerthfawrogi, efallai, gwell eglurder y prynhawn yma oddi wrthych chi, er enghraifft, ynglŷn ag unrhyw ymrwymiad o safbwynt ffermwyr gweithredol—active farmers. Mae yna ryw linell yn un o'r dogfennau atodol sy'n dweud y bydd mwy o bwyslais arnyn nhw. Allwch chi gadarnhau i ni mai dim ond ffermwyr gweithredol a fydd yn cael mynediad i'r gefnogaeth rŷm ni'n sôn amdani o dan unrhyw gynllun newydd? Mae'r effaith mae hyn yn mynd i'w gael ar denantiaid hefyd, wrth gwrs, wedi bod yn rhywbeth sydd wedi bod yn ganolog i lawer o'r ymatebion, ac mae yna gyfeiriad at hynny hefyd, felly a allwch chi gadarnhau i ni fan hyn y prynhawn yma y bydd tenantiaid yn cael mynediad at bob ffynhonnell o gefnogaeth a fydd yn cael ei darparu gan y cynllun?
Rŷch chi'n cydnabod, wrth gwrs, fod yna ansicrwydd yn deillio o beth fydd yn dod yn sgil Brexit, ond rŷch chi ddim ond yn cydnabod hwnna yn eich datganiad mewn perthynas â'r amserlen. Nawr, does bosib bod yr holl ddryswch o gwmpas Brexit yn tanseilio unrhyw waith y byddwch chi'n ei wneud dros y misoedd nesaf, oherwydd tan i ni wybod beth yw canlyniad Brexit, yna dŷn ni ddim yn gwybod, yn ei hanfod, pa fath o dirlun neu ba fath o gyd-destun y bydd y diwydiant amaeth yng Nghymru'n gweithredu oddi fewn iddo fe. Felly, mi fydd hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn, iawn i sicrhau bod unrhyw gynlluniau newydd yn rhai cywir, yn rhai addas, yn rhai a fydd yn ymateb i anghenion y sector. Felly, dwi yn poeni. Rŷch chi'n dweud ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ei gael e'n iawn, ond ar y llaw arall wedyn, rŷch chi'n dweud bod yna gymaint o bethau dydyn ni ddim yn gwybod. Dwi yn stryglo i roi'r ddau beth yna at ei gilydd a chael hyder y bydd y broses yma'n arwain at ganlyniad a fydd yn un a fydd o fudd i'r sector yng Nghymru, oherwydd mae hwn yn newid sydd ddim yn digwydd ar chwarae bach. Un waith rŷm ni'n cael cyfle mewn cenhedlaeth i wneud newid fel hwn, fel rŷch chi wedi cydnabod, ac os ŷm ni'n ei gael e'n anghywir, mae'r canlyniadau'n mynd i fod yn ddifrifol eithriadol.
Ychydig funudau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni o ran penderfyniad yr M4, a dyfynnaf o'i ddatganiad,
Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit.
Nawr, dyma un o'r rhesymau pam y mae wedi penderfynu peidio mynd ar drywydd yr M4. Wel, os yw'n berthnasol i'r M4, siawns ei fod yn fwy perthnasol byth o ran yr effaith y bydd Brexit yn ei chael ar y sector amaethyddol.
Rwyf i wedi dweud hyn o'r blaen ac rwy'n mynd i ddweud hynny eto: mae angen sefydlogrwydd ar ffermwyr Cymru. Mae angen sefydlogrwydd, sicrwydd a chysondeb arnyn nhw, ac mae dechrau, fel yr ydych chi'n bwriadu ei wneud, ar y model hwn nad yw wedi'i dreialu erioed o'r blaen yn risg enfawr. Dim ond chi a Michael Gove sy'n cerdded i ffwrdd gyda'ch gilydd i'r cyfeiriad hwn nawr. Mae Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r 27 gwlad yng ngweddill yr UE, maen nhw i gyd yn aros gyda'r drefn bresennol, dydyn nhw ddim yn cymryd risg â dyfodol ein ffermydd teuluol a dyfodol ein heconomi wledig. Nawr, dydw i ddim yn gwrthwynebu newid, ond mae cyflwyno'r newidiadau hyn ar yr adeg arbennig hon, yn fy marn i, yn ormod o risg.
A fedrwch chi ddweud wrthym ni beth fydd yr amodau masnachu i ffermwyr Cymru ymhen chwe mis? Wn i ddim beth fyddan nhw; dydw i ddim yn credu y gwyddoch chi beth ydyn nhw. A fyddwn ni'n wynebu tariffau andwyol? A fyddwn ni'n wynebu mewnforion enfawr o fwyd rhad? Dydyn ni ddim yn gwybod. Felly, sut y gallwn ni ddylunio rhaglen heb wybod rhai o'r atebion hyn? Dywedoch chi hynny eich hun—nid oes syniad gennych â pha gyllideb y bydd angen i chi weithio, felly sut y gallwch chi gynllunio cynllun heb wybod faint o gyllideb a fydd ar gael ichi? Ydyn, mae pobl wedi gwneud addewidion, ond mae rhai o'r union bobl hynny nawr yn cael eu gwysio gan lysoedd i ddod i ateb cyhuddiadau o gamarwain pobl. Felly, dydw i ddim yn cymryd y bobl hyn ar eu gair.
Felly, dydych chi ddim yn gwybod. Ac, wrth gwrs, os nad yw Michael Gove yn hoffi'ch cynigion, neu o leiaf os na allwch chi gytuno ar gonsensws gydag ef ar rwymedigaethau Sefydliad Masnach y Byd, yna gall ef dynnu'n ôl ei gefnogaeth a gall ef rwystro unrhyw gynigion y dymunwch chi eu gwneud. Felly, gyda'r holl ansicrwydd ac ansefydlogrwydd hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, bod cael gwared ar yr elfen taliad sylfaenol yn golygu, yn y bôn, eich bod yn gwthio amaethyddiaeth Cymru yn ddall, oddi ar glogwyn. Dyna yw fy mhryder, a dyna'r realiti yr ydym ni'n ei wynebu yma.
Oes, mae angen i ni gael pethau'n iawn, felly pam ddylem ni fwrw ymlaen cyn ein bod yn gwybod pa ffurf fydd ar Brexit? Oni ddylai natur Brexit ddylanwadu ar natur y gefnogaeth a gaiff y sector mewn unrhyw gynllun yn y dyfodol. Sut y gallwch chi ymgymryd ag unrhyw asesiadau effaith a modelu ystyrlon pan na allwch chi ateb unrhyw un o'r cwestiynau hynny a ofynnais ichi funudau'n ôl? Bydd y sefyllfa'n newid ymhen chwe mis, ac o bosibl yn newid eto wedi hynny. Mae gormod yn y fantol i weithio'n ddall ar hyn. Bydd penderfyniadau anghywir yn golygu colli bywoliaeth, byddant yn golygu cost gymdeithasol, cost economaidd, ac yn y pen draw bydd colli pobl ar y tir yn cael yr effaith amgylcheddol honno a fydd yn mynd â chi ymhellach o'r lle yr ydych eisiau ei gyrraedd a pheidio â chyflawni rhai o'r nodau yr ydym ni i gyd yn dyheu amdanyn nhw yn y Cynulliad hwn.
Diolch, Llyr. Mae'n debyg y dylwn i ddweud, i baratoi pawb, y bydd yr ymgynghoriad y byddwn ni'n ei gyflwyno ym mis Gorffennaf—dywedasoch chi eich bod yn edrych ymlaen at ei gael—yn fanwl iawn. Mae'n debyg y bydd ddwywaith maint 'Brexit a'n tir', felly rhywfaint o rybudd iechyd yn y fan yna, oherwydd y mae'n mynd i fod mor fanwl.
Rwy'n credu fy mod i wastad wedi cyd-gynllunio. Holl bwynt cynnal y bwrdd crwn Brexit oedd gwneud hynny, ac yn sicr yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir' a gyflwynwyd gennym y llynedd—. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o bobl sy'n eistedd ar y grŵp rhanddeiliaid hwnnw wedi dweud y gallen nhw weld canlyniad ein trafodaethau yn y ddogfen honno. Felly, rwy'n credu fy mod i wastad wedi bod yn awyddus iawn i gyd-gynllunio, ond yn sicr, o'r trafodaethau yr wyf i wedi'u cael gyda'r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill, maen nhw mor awyddus i weithio gyda ni. Fel rwy'n dweud, rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymatebion a gawsom, ac yn sicr y cymorth y maen nhw yn ei roi i ni i wneud hynny. Felly, nodais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies yr amserlen yr ydym yn ei hystyried i wneud hynny.
Fe wnaethoch chi grybwyll dau air perthnasol iawn—ffermwyr gweithredol. Roedd hynny'n amlwg iawn yn y sgwrs a'r ymatebion i'r ymgynghoriad a gawsom. Mae'n ymwneud â defnydd tir; nid yw'n ymwneud â thir sy'n eiddo iddynt, a gallaf gadarnhau'n llwyr mai dyna yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Oherwydd nid dyna a wnaeth y cynllun taliad sylfaenol. Felly, wrth sefydlu'r cynllun newydd a'r polisi cymorth newydd, mae'n rhaid i hynny fod yn ganolog iddo.
Soniasoch chi'n benodol am ffermwyr tenant, ac mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn ffermwyr tenant. Rwyf wedi gwneud ymdrech benodol i ymweld â llawer o ffermwyr tenant yn ystod y tair blynedd yr wyf wedi bod yn y swydd. Rwy'n credu'n gryf na ddylen nhw fod o dan anfantais wrth gael gafael ar gynlluniau am nad ydyn nhw'n berchen ar y tir y maen nhw'n ei ffermio, ac roedd yr ymatebion, rwy'n credu, i 'Brexit a'n tir' yn adleisio'r farn honno'n llwyr. Efallai eich bod yn ymwybodol ein bod yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch diwygio tenantiaethau. Mae hwnnw'n cau ar 2 Gorffennaf, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw'n cynnwys cynigion i alluogi ffermwyr tenant i gael gafael ar gynlluniau amaethyddol a rheoli tir newydd. Felly, bydd gennyf yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw yn ogystal â'r ymgynghoriad sydd ar y gweill, oherwydd rwy'n credu y bydd angen ystyried yr ymatebion i'r ddau yn eu cyfanrwydd, wrth symud ymlaen.
Rydych chi'n sôn am ansicrwydd Brexit, ac roeddwn yn dweud wrth swyddogion y bore yma ei bod yn ymddangos bod popeth a allai fod wedi mynd yn ein herbyn wedi mynd yn ein herbyn ers inni gael yr ymgynghoriad 'Brexit a'n tir'. Ni fydd yr ymgynghoriad yr wyf yn ei gyflwyno ym mis Gorffennaf yn gorffen tan ddiwedd mis Hydref. Gobeithio erbyn hynny y bydd yn llawer cliriach inni. Ond allwn ni ddim eistedd a gwneud dim byd ac aros. Rydym ni'n gwybod ein bod yn ymadael ag Ewrop ac rydym yn gwybod bod yn rhaid i ni fod â'r polisi hwnnw. Fe wnaethoch chi gyfeirio at Lywodraeth y Deyrnas Unedig a ninnau'n cerdded i ffwrdd law yn llaw. Os edrychwch chi, Llywodraeth yr Alban—. Dim ond trefniant dros dro ydyw. Nid yw Gogledd Iwerddon wedi gallu llunio polisi, yn amlwg, oherwydd nad oes ganddyn nhw unrhyw Weinidogion ar hyn o bryd. Os edrychwch chi ar y 27 o wledydd y cyfeiriasoch chi atyn nhw sy'n aros yn y PAC, bydd y PAC yn cael ei ddiwygio. Ac os edrychwch chi ar y cyfeiriad y mae'n ymddangos y mae'n mynd iddo , mae'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud o ran rheoli cynaliadwy, nwyddau cyhoeddus, gwella ansawdd dŵr, i gyd yn rhan o'r diwygiadau i'r PAC. Felly, dydw i ddim yn credu y bydd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn wahanol yn y modd yr ydych chi'n ei awgrymu. Dim ond—rwy'n dweud 'dim ond'—63 y cant o ffermwyr sy'n defnyddio'r cynllun taliad sylfaenol. Efallai na fydd pawb yn dymuno bod yn rhan o'r cynllun hwn. Cynllun gwirfoddol ydyw, yn amlwg, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ei gael yn iawn.
Rydych chi'n iawn—fedrwn ni ddim—. Byddaf yn eu dal at eu haddewid, ond mae'n anodd iawn credu popeth a glywch. Fodd bynnag, ni allaf ddychmygu adeg pan na fyddai Llywodraeth y DU yn dymuno cefnogi ffermwyr ac ni fydden nhw'n dymuno i'r arian hwnnw ddod atom ni er mwyn inni allu penderfynu sut i'w ddefnyddio er lles ein ffermwyr ein hunain yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Gweinidog. Gallwn ni i gyd gytuno bod hwn yn gyfnod anodd iawn i ffermwyr, yn union fel y mae i bob busnes, ond rwy'n synnu bod Llyr Griffiths yn mynnu sefydlogrwydd, cysondeb, a pharhad. Rwy'n credu ei bod yn amhosibl cyflawni hynny yng nghyd-destun adroddiad 'Net Zero' Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, sy'n mynnu ein bod yn mynd am ostyngiad o 95 y cant yn ein hallyriadau. Mae'n rhaid inni weld popeth yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd yr ydym wedi'i ddatgan.
Rwy'n cytuno ei bod yn anodd iawn gwybod am ein perthynas ag Ewrop ac mae'n amhosibl dyfalu beth fydd yn digwydd nesaf, ond rwy'n credu eich bod yn iawn yn eich datganiad i ddweud ei bod yn ddoeth cynllunio ar gyfer yr heriau o weithredu y tu allan i'r UE, p'un a ydym ni ynddo ai peidio, oherwydd rydym ni eisiau i'n ffermwyr fod yn uchelgeisiol ac i fod yn allforio i weddill y byd yn ogystal â chynhyrchu mwy o gynnyrch ffres i bobl Cymru. Felly, dyna'r ffordd y dehonglais i hynny, ac rwy'n credu bod hynny'n sail gadarn iawn.
O ran y datblygiad cynaliadwy y bydd yn rhaid inni ei gael wrth symud ymlaen, rwy'n cefnogi eich taliadau wedi'u targedu at y canlyniadau oherwydd nid oes pwynt talu pobl am gydnerthedd economaidd ar y naill law ac wedyn gorfod eu talu gyda'r llall i unioni'r niwed amgylcheddol y gallen nhw fod wedi'i wneud â'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Felly, rwy'n credu bod dod â nhw at ei gilydd yn syniad rhagorol, ac rwy'n cefnogi hynny'n llwyr.
Yn amlwg, rwyf wedi canolbwyntio'n ddiweddar ar geisio gwella faint o fwyd ffres sy'n dod i'r ysgolion, oherwydd os ydym ni o ddifrif am gyflawni'r rhaglen bwyta'n iach, mae angen inni allu cael gafael ar lysiau a ffrwythau'n lleol. Ni allwn ni wneud hynny os nad oes gennym ni'r ffermwyr i gynhyrchu'r nwyddau i'n galluogi ni i wneud hynny. Rwy'n cofio rhaglen Gareth Wyn Jones ar y teledu lle cafodd drafferth i ddod o hyd i fwyd yn lleol pan oedd yn ceisio cynhyrchu pryd o fwyd i blant yn Nhreganna. Felly, hoffwn wybod beth yw ein strategaeth ar gynyddu garddwriaeth yng Nghymru, a fu'n faes a esgeuluswyd, gan fod garddwriaeth fel arfer yn digwydd ar barseli bach o dir, nad ydynt wedi bod yn gymwys ar gyfer rhaglen y PAC, sy'n gofyn ichi fod ag o leiaf 8 hectar, rwy'n credu. Yn amlwg, gallwch chi fod â busnes llwyddiannus iawn ar lai nag 8 hectar.
Nawr, gan edrych i weld a oes gennym ni'r garddwriaethwyr y mae eu hangen arnom i allu cefnogi ein ffermwyr i ddatblygu mewn meysydd newydd, o ystyried y gallai'r diwydiant cig oen droi'n faes gwael iawn yn y dyfodol os bydd pethau'n mynd o chwith yn ddifrifol gyda Brexit, mae'n ofid imi weld bod StatsCymru yn dweud wrthym mai dim ond 45 o brentisiaethau garddwriaeth a ddechreuwyd yn 2015-16, 40 yn 2016-17, 40 yn 2017-18, a hyd yn hyn eleni—oherwydd bod y flwyddyn yn mynd hyd at 31 Gorffennaf—dim ond 30. Ac oedran cyfartalog garddwriaethwyr yw 55, sydd hyd yn oed yn hŷn nag oedran cyfartalog ffermwyr, yn gyffredinol. Felly, tybed sut y bydd Llywodraeth Cymru, o fewn fframwaith y cynlluniau newydd sydd gennych chi ar gyfer datblygiad cynaliadwy ym maes amaeth, yn gallu annog mwy o bobl i gynhyrchu ar gyfer eu marchnadoedd lleol, nid ar gyfer allforio'n unig, o gofio bod y farchnad allforio yn llawer mwy ansicr.
Diolch. Mae Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn. Roeddwn i'n darllen y diwrnod o'r blaen fod cynnyrch cartref y DU ym maes llysiau wedi cyfrannu 73 y cant i gyfanswm y cyflenwad ym 1995, ac mae bellach wedi gostwng i ryw 54 y cant. Felly, gallwch chi weld bod cyfle gwirioneddol yn y fan honno, ac yn sicr mae arnom ni eisiau i bob math o ffermwr allu manteisio ar y cynllun. Felly, os oes gennym ni ffermwr garddwriaethol sy'n dymuno ymuno, mae hynny'n ardderchog. Hefyd, os oes gennym ni ffermwr da byw sydd am gael cymorth i fynd i faes garddwriaeth, mae hynny hefyd i'w groesawu. Byddem yn cefnogi'r naill a'r llall.
Yn amlwg, mae'r dirywiad a grybwyllais yng nghynhyrchiad y DU wedi cynyddu ein dibyniaeth ar fewnforion. Byddwch wedi fy nghlywed i a'r Prif Weinidog yn dweud, os byddwn yn ymadael 'heb gytundeb', mai un o'r pethau yr effeithir arnyn nhw yw cynnyrch ffres, yn ein tyb ni, yn dod o Ewrop. Felly, rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol yn y fan yna, ac, unwaith eto, rwy'n credu bod caffael yn faes lle gallwn ni sicrhau mewn gwirionedd fod ein gwasanaethau cyhoeddus yn defnyddio cynnyrch o Gymru. Nid yw sector garddwriaethol Cymru ond yn cynrychioli tua 0.1 y cant o'r arwynebedd amaethyddol a ddefnyddir, felly mae yna gapasiti enfawr ar gyfer cynnydd yn fan honno. Rydym yn sicr wedi helpu i gefnogi'r sector.
Fe wnaethoch chi sôn am brentisiaethau, ac mae'r nifer wedi gostwng. Yn sicr, caf drafodaeth gyda Kirsty Williams ynglŷn â hynny. Ond, hefyd, un o'r pethau yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yw gwella ein gallu i fapio dosbarthiad tir amaethyddol, fel y bydd pobl yn gwybod lle y mae'r ardal orau ar gyfer cynnyrch a chnydau penodol. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny hefyd o gymorth i ffermwr da byw os yw am wella'i gynnyrch yn y ffordd honno ar gyfer garddwriaeth.
Mae gennym ni hefyd Cyswllt Ffermio, yr ydych chi'n ymwybodol ohono, sydd hefyd yn hyrwyddo gweithgarwch arallgyfeirio ymarferol i dyfwyr presennol. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y byddwn yn croesawu twf ynddo.
Rwy'n croesawu’r datganiad yma heddiw. Mae ambell beth—. Rwy'n ceisio dewis pethau nad yw eraill wedi sôn amdanynt. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y bydd heriau newydd. Nid ydym yn gwybod beth ydyn nhw—nid oes neb yma'n gwybod beth ydyn nhw—ond yr ydym ni i gyd yn cydnabod y bydd arian yn agwedd allweddol ar gyflawni unrhyw beth, beth bynnag y bydd hwnnw.
Gwyddom hefyd fod newidiadau sy'n digwydd na allwn ni eu rheoli, bod y patrymau tywydd yn newid braidd yn ddramatig ar draws y byd, nid yma yn unig. Felly, mae'r newid yn yr hinsawdd yn digwydd a bydd yr hyn y gallem ni ddefnyddio ein tir ar ei gyfer yn newid hefyd. Rwy'n credu mai'r peth arall sy'n digwydd yw bod diet pobl yn newid, ac nid yw'r hyn y maen nhw'n dewis ei fwyta o reidrwydd yn golygu'r cig coch yr ydym ni'n ei gynhyrchu mwyach. Felly, er bod angen inni ystyried hynny wrth symud ymlaen, byddwn yn gofyn inni archwilio'r hyn yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd gyda'n tir, yn enwedig ym maes amaeth, oherwydd rwy'n sylwi mai un o'r meysydd allweddol yr ydych chi'n bwriadu ei gefnogi yw gwella cynhyrchiant. Hoffwn ddeall beth yn union y mae hynny'n ei olygu, oherwydd os ydym ni'n sôn am gynhyrchu mwy o gig coch, mwy o gynhyrchion llaeth, sy'n golygu ffermio dwys, yna mae hynny hefyd yn mynd i gymryd mwy o dir. Ac fel yr wyf newydd ei ddweud, mae patrymau tywydd yn newid, ac yn barod eleni rydym ni wedi gweld rhai trafferthion o ran bwydo'r nifer fwy o dda byw. Felly, rydym ni'n rhoi, neu gallem ni fod yn rhoi pwysau diangen ar y tir sydd gennym ni os nad ydym ni'n ystyried yr agweddau hynny.
Mae'n ymwneud hefyd â defnydd tir, nid ffermio yn unig. Felly, rwyf eisiau dod â'r ddadl i feysydd eraill, ac yn enwedig pan fyddwn ni'n edrych ar reoli perygl llifogydd. Rwy'n falch iawn o weld bod sôn am hynny yma, ac rwy'n edrych ymlaen at weld mwy o fanylion am hynny. Ond rwy'n credu, unwaith eto, wyddoch chi, mae'n dweud 'ein tir', felly os ydym ni'n sôn am atal llifogydd, ni all fod yn dir amaethyddol yn unig, mae'n rhaid iddo fod yn ddefnydd tir yn gyfan gwbl. Felly, mae'n rhaid osgoi hynny, pan fyddwn yn adeiladu ystadau tai—. Mae'n rhaid bod hynny'n wir am ddefnydd tir. Cyn i ni roi tŷ ar unrhyw dir, byddai wedi bod yn fan gwyrdd. Byddai wedi amsugno a chadw'r holl ddŵr yn ei le. Ac ni allwn ni barhau â'r cyfan drwy ddraenio. Ac rwy'n gwybod bod gennym ni systemau draenio cynaliadwy.
Felly, rwy'n edrych ymlaen at weld y camau nesaf, ond dim ond ceisio ei ehangu yr wyf. Ac felly pan rydym ni'n siarad am ddefnydd tir, fyddwch chi ddim yn synnu fy mod i'n falch iawn o weld bod parthau perygl nitradau i'w cael yma, oherwydd bydd y ffordd yr ydym yn defnyddio'r tir, neu'r ffordd yr ydym yn camddefnyddio'r tir, yn dod i'r afonydd yn y pen draw. Rydym ni wedi gweld yr wythnos hon—yr wythnos hon yn unig— pysgod marw yn arnofio, unwaith eto, ar hyd yr afonydd lle'r wyf i'n byw. Nawr, dyna'r dystiolaeth y gallwn ni ei gweld. Yr hyn na allwn ni ei weld yw eu bod yn llwyr ddinistrio'r afon oddi tano. Os yw'r pysgod yn marw, mae popeth arall yn marw hefyd. Felly, unwaith eto, rwy'n mynd i gysylltu hynny â ffermio dwys. Rwyf eisiau bod yn ofalus nad ydym ni'n symud ymlaen mewn sefyllfa lle (a) ein bod yn defnyddio tir di-ben-draw i gynhyrchu cig coch y mae llai o bobl ei eisiau, ond ein bod ni hefyd yn cynhyrchu mwy o slyri ac nid ydym ni, mae'n ymddangos, mewn rhai achosion, yn ofalus wrth drin hwnnw nac wrth arolygu'r ffordd y caiff ei drin, felly mae'n llygru'r afon mewn gwirionedd.
Diolch, Joyce Watson, am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Nid wyf wedi cwrdd â ffermwr nad yw'n cymryd ei gyfrifoldebau amgylcheddol yn ddifrifol iawn. Yr wythnos hon, mae NFU Cymru yn cynnal cynhadledd, na allaf fynd iddi yn anffodus, i ganolbwyntio ar yr amgylchedd. Ac, yn sicr, cyhoeddodd yr NFU eu bod am fod yn garbon niwtral erbyn 2040, ac rwy'n credu bod gennym ni ein tirweddau prydferth felly yn sgil ffermio. Fodd bynnag, mae gennym ni broblem gyda llygredd amaethyddol, ac unwaith eto, mae ffermwyr yn derbyn bod ganddynt ran i'w chwarae yn hynny, a byddwch chi'n ymwybodol bod y rheoliadau newydd yn dod i rym yn 2020.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnaethoch chi am berygl llifogydd yn wirioneddol bwysig ac, unwaith eto, hoffwn weld llai o gynlluniau llifogydd concrid a defnyddio ein hadnoddau naturiol, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni yn sicr ei ystyried. Coetir, hefyd—mae hynny'n amlwg yn ddefnydd da iawn o dir. Ac er y bydd plannu coed yn elfen wirfoddol o unrhyw gynllun, rwy'n credu, unwaith eto, y bydd plannu coed o fudd economaidd i rai ffermydd. Byddai hynny'n rhoi gwell cysgod, er enghraifft. Yn sicr, gallai roi rhwystrau bioddiogelwch i wella cynhyrchu da byw. Felly, rwy'n credu bod edrych ar sut y gallwn ni eu gwneud yn fwy cynhyrchiol a chydnerth yn rhan o'r cynllun. Nid oes ond yn rhaid edrych ar y llynedd a'r tywydd a gawsom y llynedd. Cawsom wanwyn gwlyb iawn, eira trwm ar brydiau, cawsom haf hir, poeth, cawsom stormydd yn yr hydref a chawsom aeaf mwyn. Felly, gallwch chi weld pam mae angen i ni helpu busnesau fferm i fod yn gydnerth, ac, yn amlwg, nid oedd y cynllun taliad sylfaenol yn gwneud hynny ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y cynllun hwn yn hollol iawn.
Fe wnaethoch chi sôn am systemau draenio cynaliadwy, ac roeddwn yn falch iawn o gyflwyno'r rheoliad hwnnw'n gynharach yn y flwyddyn i'w wneud yn orfodol. Rwy'n credu bod hynny hefyd yn bwysig iawn yn gysylltiedig â'r hyn yr oeddech chi'n sôn amdano: tai.
Diolch yn fawr, Gweinidog.