Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 5 Mehefin 2019.
Weinidog, ni allwch wella canlyniadau addysgol heb ddarparu'r nifer angenrheidiol o staff addysgu sydd eu hangen ar yr ysgolion. Mae ffigurau diweddar yn dangos diffyg o 40 y cant rhag gallu cyrraedd eich targed eich hun ar gyfer athrawon dan hyfforddiant newydd mewn ysgolion uwchradd. Rydych hefyd wedi methu cyrraedd eich targed ar gyfer athrawon dan hyfforddiant mewn ysgolion cynradd am y drydedd flwyddyn yn olynol. Weinidog, pa gamau a gymerwch i fynd i'r afael â'r argyfwng recriwtio athrawon yng Nghymru, os gwelwch yn dda?