Canlyniadau Addysgol yng Nghymoedd y De

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:37, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae recriwtio athrawon yn heriol, nid yn unig yng Nghymru, ond mewn gwirionedd, mae'n broblem ryngwladol. Mae'r ystadegau y cyfeiria’r Aelod atynt yn ymwneud â blwyddyn academaidd 2017-18, ac ers hynny, rydym wedi diwygio addysg gychwynnol i athrawon yn sylweddol. Ac er ein bod wedi methu cyrraedd ein targedau recriwtio gweithwyr amser llawn i'r rhaglenni hyn, rydym wedi cael mwy o geisiadau i'n rhaglen athrawon graddedig am lwybr i gymhwyso fel athro na'r nifer o leoedd sydd ar gael.