Canlyniadau Addysgol yng Nghymoedd y De

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:34, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Fel y gwyddom, caiff cyfleoedd bywyd pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni eu pennu gan lawer o ffactorau, ond yn enwedig eu cyfleoedd addysgol a hyfforddiant. Yn ddiweddar, mae Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru wedi cyhoeddi mynegai cyfle ieuenctid, sy'n dangos mai pobl ifanc yn fy etholaeth, a ledled Cymoedd de Cymru, sydd â’r lleiaf o fynediad at gyfleoedd. I ormod o bobl ifanc, eu man geni sy'n pennu eu cyfleoedd a'u canlyniadau mewn bywyd o hyd, yn hytrach na’u galluoedd eu hunain. Pa gamau pellach y gallwch eu cymryd fel Gweinidog addysg i helpu i ddod â'r annhegwch hwn i ben?