Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 5 Mehefin 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gydnabyddiaeth o werth gwasanaeth SenCom yn ei ardal? Mae'n achos pryder i mi, yn wir, fod unrhyw fraw neu ddryswch wedi'i achosi yn sgil y broses hon. Gwn ei fod wedi bod yn gyfnod anodd i'r staff ac i'r teuluoedd.
Heb os, fel y dywedoch chi, mae pwysau ar gyllidebau cynghorau. Golyga hynny, mewn gwirionedd, fod arnom angen i gynghorau weithio'n agosach gyda'i gilydd ar fwy o feysydd, yn hytrach na meddwl y gallant ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr drwy weithio ar eu pennau eu hunain. Yn y meysydd arbenigol hyn, drwy gydweithio a chronni adnoddau i greu gwasanaeth rhanbarthol, gallwn ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc sydd ag anghenion penodol iawn o ran cymorth.