1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion sydd wedi eu heithrio o'r ysgol? OAQ53939
Mae ein neges yn glir: dylid defnyddio gwahardd fel dewis olaf. Lle na ellir osgoi gwahardd, mae ein canllawiau gwahardd yn nodi'r cymorth y mae'n rhaid i ysgolion ac awdurdodau lleol ei roi ar waith ar gyfer pob plentyn sydd wedi'u gwahardd o'r ysgol ac o unedau cyfeirio disgyblion.
Diolch. Fis Awst diwethaf, fe'i gwnaed yn glir am y tro cyntaf mewn dyfarniad llys nodedig mewn achos o wahardd o'r ysgol fod yn rhaid i bob ysgol sicrhau eu bod wedi gwneud addasiadau priodol ar gyfer plant awtistig neu blant ag anableddau eraill cyn y gallant droi at wahardd. Yn ddiweddar, yn ystod y pythefnos diwethaf, cefais lythyr gan etholwr, tad y bûm yn gweithio gydag ef ers rhai misoedd ar ôl i'w fab awtistig ifanc gael ei wahardd o'r ysgol, yn cynnwys llythyr penderfyniad ynghylch eu hachos Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, a ddyfarnodd na chafwyd unrhyw dystiolaeth fod addasiadau rhesymol wedi'u gwneud. Dywedai fod yr ysgol wedi cael ei gorfodi i gyfaddef bod y gwaharddiad ei hun yn wahaniaethol, ac roedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r ysgol ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig, i gynnwys ymddiheuriad am hyd anghymesur y gwaharddiad, ymddiheuriad am beidio â darparu digon o gefnogaeth i fynd i'r afael ag anghenion dysgu ychwanegol eu mab, ac i esbonio sut y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn y penderfyniad hwn. Roedd hefyd yn eu cyfarwyddo i drefnu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer staff a llywodraethwyr mewn perthynas â chyflyrau'r sbectrwm awtistig ac ADY yn fwy cyffredinol ar lefel uwch na lefel ragarweiniol.
Nid dyma'r unig achos o'r math hwn sydd gennyf; mae gennyf lawer ohonynt. Ar adeg pan ddylai awdurdodau lleol ac ysgolion fod yn gwbl ymwybodol o'r Ddeddf ADY a'r newidiadau sylweddol sydd ar y gweill, sut ar y ddaear y bwriadwch sicrhau ar lawr gwlad nad yw plant fel hyn yn parhau i gael eu cosbi am fod yn hwy eu hunain, a'u bod yn ymgysylltu â staff sy'n deall yn iawn beth yw eu hanghenion er mwyn iddynt allu byw bywydau hapus, iach a bodlon?
Diolch, Mark. Bydd cyfran sylweddol o'r £20 miliwn o gyllid y rhaglen drawsnewid ADY yn cael ei defnyddio i gefnogi gweithgarwch i uwchsgilio'r gweithlu er mwyn iddynt allu adnabod a diwallu anghenion yr holl ddysgwyr sydd ag ADY ac awtistiaeth yn well. A dyna un o'r rhesymau pam ein bod wedi cyflwyno ein deddfwriaeth ADY a pham ein bod wedi ymrwymo i'w diwygio. O dan y system newydd, bydd y dysgwr wrth wraidd y broses, a bydd cydweithredu gwell rhwng asiantaethau yn cael ei annog, er mwyn sicrhau bod anghenion dysgwyr yn cael eu nodi'n gynnar a bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi ar waith iddynt fel y gellir cyflawni eu cyfleoedd addysgol a'u dyheadau yn briodol.
Rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ynglŷn â'r angen i waharddiadau fod yn ddewis olaf. Yn anffodus, maent weithiau'n angenrheidiol, ac yn ogystal â phlant efallai'n cael eu haddysgu gartref wedyn, mewn termau academaidd, am gyfnod byr, mae'r plant hynny'n colli ystod eang o gyfleoedd cymdeithasol sy'n gysylltiedig â bod yn yr ysgol, a phob math o ddysgu arall a mynediad at chwaraeon. Beth y mae'r Gweinidog yn ei ddisgwyl gan awdurdodau lleol o ran sut y mae plant o'r fath, sydd efallai'n cael eu haddysgu gartref dros dro yn unig, ond sy'n cael eu haddysgu gartref, yn methu cymryd rhan mewn gweithgareddau fel chwaraeon, fel celf, cerddoriaeth, drama—rhai o'r gweithgareddau cyfoethogi sy'n mynd y tu hwnt i'r cwricwlwm academaidd pur?
A gaf fi gymryd y cyfle hwn i ddweud unwaith eto y dylai gwahardd fod yn ddewis olaf? Rwy'n cydnabod bod mwy gennym i'w wneud i sicrhau bod ysgolion ac addysgwyr unigol yn cael gwell cefnogaeth i ddeall pam fod plant yn cael anawsterau yn yr ysgol a all arwain at ymddygiad sydd, yn y pen draw, mewn rhai achosion, yn arwain at waharddiadau. Yr wythnos hon yn y grŵp 'Cadernid Meddwl', buom yn sôn eto am yr angen i wella cefnogaeth i athrawon mewn perthynas â deall proses y glasoed—yn llythrennol, y newidiadau niwrolegol na ellir eu gweld wrth i blentyn fynd drwy'r glasoed, sy'n golygu, weithiau, nad yw eu hymddygiad yn arbennig o dda—ond gwell dealltwriaeth o'r heriau y mae'r glasoed yn eu hachosi. Rydym yn gwbl glir, lle mae'n rhaid gwahardd plentyn, fod gan yr ysgol a'r awdurdod lleol gyfrifoldeb i sicrhau bod y plentyn hwnnw'n cael mynediad at ystod o gyfleoedd, yn academaidd ac yn gymdeithasol. Rydym yn gweithio ar hyn o bryd ar weithredu ein cynllun gwella addysg heblaw yn yr ysgol, gan y gwyddom fod cyfleoedd cwricwlwm yn gallu cael eu cyfyngu'n ddifrifol ar gyfer y plant y tu allan i'r ysgol. Yn amlwg, nid yw hynny er eu lles gorau mewn llawer o achosion.
Mae llai o lawer o ddisgyblion yn cael eu gwahardd yng Nghymru nag yng nghanol y degawd diwethaf, o dros 450 yn 2004-05 i 150 yn unig yn 2016-17. Felly, Weinidog, a fyddech yn cytuno y dylid croesawu'r ffaith hon, a bod disgyblion yn cael eu gwasanaethu orau mewn amgylcheddau addysg meithringar a chefnogol, a bod canlyniadau cadarnhaol o'r fath yn dilysu'r canllawiau blaengar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2012, a oedd yn nodi sut y dylid defnyddio gwaharddiadau, ac y dylai gwneud hynny'n barhaol, fel y dywedwyd heddiw, fod yn gam olaf yn y broses ddisgyblu? Felly, Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru fonitro pa mor gyson y mae pobl yn deall yr athroniaeth hon ledled Cymru er mwyn sicrhau, lle bynnag y mae plentyn yn byw, y cânt eu trin â'r un penderfyniad i leihau gwaharddiadau, beth bynnag fo'r lleoliad ac anghenion addysgol?
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei lle yn dweud ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer y gwaharddiadau parhaol, a bod hynny i'w groesawu ac yn cynrychioli'r gwaith caled sy'n mynd rhagddo mewn ysgolion. Gofynnodd yr Aelod am enghraifft o'r hyn y gallwn ei wneud i sicrhau ymagwedd genedlaethol at y mater hwn. Fe wyddoch ein bod, fel Llywodraeth, wedi cefnogi'r gwaith o sefydlu canolfan gymorth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod i Gymru, sydd wedi datblygu rhaglen ar gyfer hyfforddiant ymwybyddiaeth profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ar gyfer pob ysgol. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno ledled Cymru ar hyn o bryd er mwyn i staff gael gwell dealltwriaeth eto o rai o'r materion sy'n arwain at blentyn yn ymddwyn mewn ffordd y gellir ei hystyried yn annerbyniol. Erbyn mis Mawrth 2020, bydd pob ysgol yng Nghymru wedi gallu cael mynediad at yr hyfforddiant hwnnw.