9. Dadl Fer: Dad-ddofi Tir Cymru: Yr achos dros anadlu bywyd i'n tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:22 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 7:22, 5 Mehefin 2019

Gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma? Ro'n i'n gwrando'n astud ar y sylwadau ynglŷn ag ailwylltio—os mai dyna yw'r term Cymraeg am rewilding. Yn amlwg, mae ailgyflwyno rhywogaethau yn bwnc sydd yn amserol yng Nghymru, ond dwi yn meddwl bod yna ragor o waith angen ei wneud i berswadio pobl bod ailwylltio ehangach, efallai, yn sicr yn rhywbeth y byddai pobl am ei weld. Dwi'n gwybod bod y cynllun O'r Mynydd i'r Môr wedi cychwyn ar droed anffodus, dwi'n credu, gyda llawer un yn teimlo ei fod e'n rhywbeth sy'n cael ei wneud i'n cymunedau gwledig ni, yn hytrach na rhywbeth—fel y dylai e fod, wrth gwrs—sy'n cael ei wneud ar y cyd â nhw. Felly, byddwn i yn taro'r nodyn yna.

Ond yr hyn yr o'n i eisiau ei ddweud mewn gwirionedd oedd, ro'n i eisiau clywed gan y Gweinidog, i bob pwrpas, ba gyfarwyddyd, neu ba arweiniad, y mae hi nawr yn ei roi i'r cyrff a'r sefydliadau cyhoeddus sydd o dan ei hadain hi, a'i hadran hi, mewn ymateb i'r datganiad argyfwng hinsawdd, sydd hefyd wrth gwrs yn cynnwys yr argyfwng bioamrywiaeth rŷm ni'n ei wynebu. Mi wnes i grybwyll ddoe wrth y Prif Weinidog, er enghraifft, y posibilrwydd o newid llythyrau cylch gorchwyl i gyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen, i adlewyrchu y newid cywair yma rŷm ni'n chwilio amdano fe oddi wrth y Llywodraeth. Ac felly, byddwn i'n awyddus iawn, yn ei hymateb hi, i glywed efallai a oes ganddi hi unrhyw sylwadau i'w hychwanegu at hynny yn benodol.