– Senedd Cymru am 7:11 pm ar 5 Mehefin 2019.
Symudwn yn awr at eitem 9, sef y ddadl fer, a galwaf yn awr ar Joyce Watson i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddi. Joyce.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o arwain y ddadl fer heddiw ac wrth fy modd yn rhoi amser i fy nghyd-Aelodau, John Griffiths a Llyr Gruffydd. Edrychaf ymlaen at eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, at ymateb y Gweinidog. Heddiw yw Diwrnod Amgylchedd y Byd, ac eleni yn arbennig mae'n teimlo fel pe bai'n dod ar adeg bwysig. Rydym wedi gweld protest Extinction Rebellion a'r streiciau ysgol a ysbrydolwyd gan Greta Thunberg. Protestiodd cannoedd o bobl ifanc y tu allan i'r Cynulliad hwn ym mis Chwefror fel rhan o fudiad ieuenctid byd-eang y streiciau hinsawdd. Ar yr un pryd, mae pobl wedi bod yn gwylio cyfres newydd David Attenborough ar y BBC ar y newid hinsawdd ac yn mynnu camau gwleidyddol ledled Ewrop. Mae'n ymddangos bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad. Mae wedi datgan argyfwng hinsawdd. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd y datganiad yn sbarduno ton o weithredu. Ddoe gwelsom hynny pan gyhoeddodd y Prif Weinidog na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen oherwydd bod yn rhaid inni roi mwy o bwyslais ar y ddadl amgylcheddol. Mae'r hyn a ddywedodd John Prescott yn enwog:
Cyflawniad Llafur yw'r llain las, a bwriadwn adeiladu arno.
Wel, mae datgan argyfwng hinsawdd yn un o bolisïau mawr Llafur Cymru, a heddiw rwyf am adeiladu ar hynny drwy siarad am ddad-ddofi.
Mae dad-ddofi'n bwnc llosg, ac yn un dadleuol. A siarad yn fras, mae'n ymwneud ag adfer tirweddau i'w cyflwr naturiol, a thrwy hynny greu cynefinoedd mwy gwyllt a bioamrywiol. Mae'n tueddu i fachu'r penawdau pan fydd anifeiliaid rheibus yn cael eu hailgyflwyno, anifeiliaid fel eirth a bleiddiaid. Yma yng Nghymru, mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn arwain prosiect afancod Cymru, sy'n ymchwilio i ddichonoldeb ailgyflwyno afancod gwyllt. Mae'r Alban eisoes wedi cydnabod bod afancod yn rhywogaeth frodorol, ac wedi sefydlu rhaglen reoli ac amddiffyniadau cyfreithiol. Y cynllun i Gymru, a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Ymddiriedolaeth Bevis yn 2015, yw sefydlu 10 pâr ar hyd afon Cowyn a Nant Cennin yn Sir Gaerfyrddin. Hyd yn hyn, mae 50 o ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd yr afon wedi cytuno i gefnogi rhyddhau afancod neu ganiatáu monitro. Ond wrth gwrs, gall ildio mwy o dir i natur, yn hytrach na'i ddefnyddio i dyfu cnydau neu fagu da byw, fod yr un mor ddadleuol ag ailgyflwyno anifeiliaid.
Ond yn ôl adroddiad newydd gan y sefydliad Rewilding Britain, gallai cymaint â chwarter tir y DU gael ei adfer i natur heb ostyngiad canlyniadol i gynhyrchiant bwyd nac incwm ffermydd. Ac mae'r grŵp yn galw am wario biliynau o bunnoedd mewn cymorthdaliadau fferm ar greu coetiroedd a dolydd brodorol, ac ar ddiogelu mawnogydd a morfeydd heli. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt, maent yn honni y gallai'r cynllun ostwng allyriadau carbon ein gwlad i sero.
Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ymateb polisi Llywodraeth Cymru i'w hymgynghoriad 'Brexit a'n tir', ac wrth ei wraidd mae'r egwyddor fod yn rhaid i arian cyhoeddus gefnogi nwydd cyhoeddus, nid budd preifat. Y peth pwysicaf yw diffinio beth yw nwydd cyhoeddus. Cynllun Rewilding Britain yw gosod dal a storio carbon yn ganolog fel model o daliadau sy'n gweld gwerth dal a storio carbon mewn gwahanol ecosystemau a adferwyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd yn hirdymor. Mewn geiriau eraill, golyga hynny ddad-ddofi wedi'i reoli, nid esgeuluso rhannau o'n cefn gwlad. Roedd tua hanner y 12,000 a ymatebodd i 'Brexit a'n tir' yn cefnogi argymhellion y Llywodraeth ar gyfer taliadau yn seiliedig ar ganlyniadau ac ar gyfer mwy o bwyslais ar ganlyniadau amgylcheddol. Nid oedd yr hanner arall, ffermwyr yn bennaf, yn eu cefnogi. Mae angen inni eu hargyhoeddi â'r dadleuon hynny.
O ran yr ucheldiroedd, roedd rhai'n cydnabod y peryglon o ddadstocio, tra bod eraill yn tynnu sylw at y manteision amgylcheddol enfawr posibl. Roedd un ymatebydd yn bryderus y byddai Cymru, mewn 20 mlynedd, yn 'genedl o geidwaid parciau'. Ni allwch blesio pawb drwy'r amser, a nododd un ymatebydd fod angen ewyllys wleidyddol a dewrder enfawr i ddarparu cynllun nwyddau cyhoeddus beiddgar. Rydym eisoes wedi cael model o'r hyn y gallai hynny ei olygu yng nghanolbarth Cymru. Bydd prosiect O'r Mynydd i'r Môr yn dwyn ynghyd un ardal sy'n gyfoethog o ran ei natur, yn ymestyn o fasiff Pumlumon—yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru—i lawr drwy gymoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. O fewn pum mlynedd, bydd yn cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr. Rwy'n crwydro oddi ar y testun braidd, ond mae'n ymddangos i mi mai llwyddiant mawr prosiect llwybr arfordir Cymru oedd dod o hyd i ffordd o gysylltu'r holl hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau caniataol a negodi mynediad newydd i dir preifat. Drwy wneud hynny, erbyn hyn gall pobl fwynhau 870 o filltiroedd di-dor o gerdded o Gas-gwent i Queensferry, os yw'r stamina ganddynt.
Pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg ar gyfer bywyd gwyllt? Rhowch ryddid iddo grwydro, nid ei ynysu mewn pocedi. Mae O'r Mynydd i'r Môr yn profi sut y byddai'r partneriaethau hynny rhwng amryfal ddaliadau tir a thaliadau am nwyddau cyhoeddus yn gweithio ar raddfa fawr. Beth bynnag yw'r strategaeth, rhaid inni wneud rhywbeth a rhaid inni wneud hynny yn awr. Mae Prydain yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dihysbyddu fwyaf yn y byd. Rydym yn fwy ffodus na'r rhan fwyaf yn y wlad hon—mae Cymru'n cynnal cyfran fawr o boblogaeth y DU o lawer o rywogaethau adar sy'n magu ac yn gaeafu, er enghraifft, ac yn wahanol i Loegr, nid ydym yn lladd un o'n hychydig famaliaid brodorol en masse, sef moch daear. Fodd bynnag, rydym wedi gweld dirywiad dramatig hefyd. Dengys adroddiad 2016 ar gyflwr byd natur fod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu a bod niferoedd bron i draean o'r adar yma yn lleihau'n sylweddol. Ar draws y DU, mae 56 y cant o rywogaethau wedi dirywio ers 1970.
Ond nid yw'n ymwneud â'r syniadau mawr; bob dydd, mae newidiadau bach yn hanfodol hefyd. Ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â Pauline Hill, swyddog pobl a bywyd gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn Aberhonddu, a buom yn siarad am dri phrosiect bywyd gwyllt yn Ystradgynlais yn yr ysbyty, y llyfrgell a rhandiroedd Penrhos. Daeth y cynllun swyddogol i ben y llynedd, ond mae eu gwaddol yn parhau yn y gymuned a thrwy ymgysylltu, ac yn cynnig manteision amgylcheddol. Drwy gydol mis Mehefin, mae'r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn annog pobl i wneud rhywbeth gwyllt bob dydd, fel rhan o'i her 30 Diwrnod Gwyllt. Gallwn i gyd wneud ein rhan, yn enwedig yn yr 1.4 y cant o Gymru a ddiffinnir fel mannau trefol gwyrdd, parciau a gerddi. Mae'r ardaloedd hynny'n hanfodol i fywyd gwyllt, nid yn unig er mwyn cynnal bioamrywiaeth, ond fel mannau cysylltu â'r 60 y cant o dir a ffermir, a'r 35 y cant sy'n ofod naturiol—rhosydd, coedwigoedd, llynnoedd, glaswelltiroedd, ac ati. Treuliais y bore yma ar do'r Pierhead, yn ymweld â'r gwenyn. Er enghraifft, maent hwy, yn eu tro, yn bwydo ar yr ardaloedd bywyd gwyllt a blannwyd yn yr ysgolion lleol. Yr un syniad sydd wrth wraidd menter coridorau gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd. Ond fel y dywedais, mae 95 y cant o Gymru yn cynnwys tir fferm a thir naturiol, felly dyna lle gallwn, a lle mae'n rhaid inni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwydd cyhoeddus, mae dad-ddofi'n rhan o'r ateb mawr, beiddgar a dewr sydd ei angen arnom.
Roeddwn yn falch iawn heddiw o noddi digwyddiad Diwrnod Amgylchedd y Byd yma yn y Senedd, i nodi pwysigrwydd gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol sy'n ein hwynebu, er mwyn adfer natur yng Nghymru. Fel y clywsom, mae natur Cymru mewn cyflwr bregus. Mae hanner bywyd gwyllt Cymru yn dirywio, ac mae dyfodol cannoedd o rywogaethau o dan fygythiad. Er mwyn mynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod ein tir a'n moroedd yn cael eu rheoli i gefnogi adferiad natur a bod natur yn cael lle canolog yn y Llywodraeth yma. Ddirprwy Lywydd, mae'n rhaid i bolisïau cywir i fynd i'r afael â hyn gynnwys dad-ddofi, a dylid ei ystyried yn un o'r dulliau rheoli cadwraethol a ddefnyddiwn i fynd i'r afael â'r argyfwng ecolegol hwn. Er enghraifft, adfer mawnogydd neu ganiatáu aildyfiant naturiol coetiroedd. Ond rhaid inni hefyd gydnabod bod rhai cynefinoedd a rhywogaethau, fel y gylfinir—aderyn sy'n nythu ar y ddaear—yn ffafrio cynefin agored, ac felly bod angen ei reoli'n weithredol drwy bori. Dyna'r cydbwysedd y mae'n rhaid inni ei daro.
Gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma? Ro'n i'n gwrando'n astud ar y sylwadau ynglŷn ag ailwylltio—os mai dyna yw'r term Cymraeg am rewilding. Yn amlwg, mae ailgyflwyno rhywogaethau yn bwnc sydd yn amserol yng Nghymru, ond dwi yn meddwl bod yna ragor o waith angen ei wneud i berswadio pobl bod ailwylltio ehangach, efallai, yn sicr yn rhywbeth y byddai pobl am ei weld. Dwi'n gwybod bod y cynllun O'r Mynydd i'r Môr wedi cychwyn ar droed anffodus, dwi'n credu, gyda llawer un yn teimlo ei fod e'n rhywbeth sy'n cael ei wneud i'n cymunedau gwledig ni, yn hytrach na rhywbeth—fel y dylai e fod, wrth gwrs—sy'n cael ei wneud ar y cyd â nhw. Felly, byddwn i yn taro'r nodyn yna.
Ond yr hyn yr o'n i eisiau ei ddweud mewn gwirionedd oedd, ro'n i eisiau clywed gan y Gweinidog, i bob pwrpas, ba gyfarwyddyd, neu ba arweiniad, y mae hi nawr yn ei roi i'r cyrff a'r sefydliadau cyhoeddus sydd o dan ei hadain hi, a'i hadran hi, mewn ymateb i'r datganiad argyfwng hinsawdd, sydd hefyd wrth gwrs yn cynnwys yr argyfwng bioamrywiaeth rŷm ni'n ei wynebu. Mi wnes i grybwyll ddoe wrth y Prif Weinidog, er enghraifft, y posibilrwydd o newid llythyrau cylch gorchwyl i gyrff fel Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn y blaen, i adlewyrchu y newid cywair yma rŷm ni'n chwilio amdano fe oddi wrth y Llywodraeth. Ac felly, byddwn i'n awyddus iawn, yn ei hymateb hi, i glywed efallai a oes ganddi hi unrhyw sylwadau i'w hychwanegu at hynny yn benodol.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl? Lesley Griffiths.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am gyflwyno dadl ar y pwnc hwn ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd, a hefyd i John Griffiths am noddi'r digwyddiad amser cinio y cefais y pleser o siarad ynddo?
Credaf fod Joyce wedi gwneud pwynt perthnasol iawn pan ddywedodd ein bod ar adeg dyngedfennol yng nghyswllt yr argyfwng newid yn yr hinsawdd. Ac rwy'n cytuno'n llwyr—mae gennym argyfwng bioamrywiaeth hefyd. Fel Llywodraeth, mae ein polisi adnoddau naturiol yn seiliedig ar ymrwymiad i gynyddu gwytnwch ecosystemau Cymru. Credwn fod gan ddad-ddofi, fel proses a reolir yn ofalus, botensial i fod yn rhan o'r ateb. A chredaf i Llyr gyfeirio at hyn pan—. Credaf fod rhaid i ni ddiffinio ystyr 'dad-ddofi'. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn, oherwydd gall rannu barn, gyda rhai yn cysylltu'r cysyniad â'r arfer o gefnu'n gyffredinol ar dir a arferai gael ei ddefnyddio'n gynhyrchiol, neu ailgyflwyno rhywogaethau eiconig o'r gorffennol pell i ardaloedd gwledig ar hap. Felly, nid yw Llywodraeth Cymru, yn amlwg, yn cefnogi polisi o gefnu ar dir neu anifeiliaid yn y ffordd honno. Fodd bynnag, os yw dad-ddofi'n golygu adfer cadarnhaol neu greu cynefinoedd i gyfrannu at adeiladu rhwydweithiau cydnerth, ecolegol, yna credwn y gall hyn helpu i sicrhau amryw o fanteision amgylcheddol a manteision eraill i les cymunedau yng Nghymru.
Pe baem yn caniatáu i gefn gwlad Cymru ddatblygu drwy olyniaeth naturiol, mae'n debygol y byddai hyn yn troi rhannau helaeth o Gymru yn goetir, ac ar yr wyneb, gallai hyn ymddangos yn syniad deniadol, gan ein helpu i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a phlannu coetiroedd. Fodd bynnag, nid yw llawer o'n cynefinoedd sydd dan fwyaf o fygythiad a'r rhai sy'n cael blaenoriaeth yng Nghymru yn goetir ac maent yn dibynnu ar reoli drwy bori, er enghraifft, i'w cadw mewn cyflwr mwy agored, i ganiatáu i'w rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid nodweddiadol ffynnu.
Yng Nghymru, mae gennym amrywiaeth ryfeddol o gynefinoedd a rhywogaethau yn ein moroedd ac ar ein tir, ac mae gennym amrywiaeth yr un mor ryfeddol o grwpiau cymunedol lleol a grwpiau ymgyrchu sydd yno o un diwrnod i'r llall i'n helpu i ddeall yn iawn, i werthfawrogi ac i ddiogelu'r asedau naturiol gwerthfawr hyn. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gwaith y grwpiau hynny drwy gynyddu maint a chydlyniant ein safleoedd gwarchodedig, gan wella gwaith monitro, a'u cyflwr yn y pen draw. Y bore yma—a soniais am hyn amser cinio—cyhoeddais £11 miliwn o fuddsoddiad newydd tuag at adfer byd natur drwy ein cynllun grant galluogi adnoddau naturiol a llesiant. Bydd un o'r prosiectau'n arwain at greu 30 o ddolydd cymunedol newydd, ac adfer 22 o safleoedd eraill, drwy weithredu ar y cyd rhwng yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, ein parciau cenedlaethol a 25 o bartneriaid eraill, gan gynnwys llawer o grwpiau cymunedol. Soniais hefyd fod un o'r cynlluniau cydweithredu rhwng y pedwar awdurdod lleol yn ne-ddwyrain Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill a fydd, gyda'i gilydd, yn profi dulliau cydweithredol newydd o leihau effeithiau lleol llygredd, rhywogaethau estron goresgynnol a phwysau amgylcheddol allweddol arall. Mae'r prosiectau hyn yn dangos y math o ddull cydweithredol sydd wedi'i adeiladu ar ffocws ar lesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol y credaf fod ei angen er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiadau sy'n wynebu ein hamgylchedd, gan wneud Cymru'n decach ac yn iachach ar yr un pryd. Ac rwy'n gobeithio gallu cyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer prosiectau llwyddiannus yn yr wythnosau nesaf.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym hefyd wedi darparu £20 miliwn ar gyfer 44 o brosiectau graddfa tirwedd ledled Cymru drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, gyda £3 miliwn arall ar gael drwy'r cylch ariannu nesaf. Mae'n agored i geisiadau ar hyn o bryd. Bydd gwersi pwysig i'w dysgu o'r gweithgarwch hwn, a dylai ein helpu i benderfynu a all dad-ddofi fod yn ddull addas o gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, ac ym mhle. Yn benodol, mae prosiect Coetir Anian, a ariennir drwy ein cynllun rheoli cynaliadwy, wedi cymhwyso egwyddorion dad-ddofi fel elfen greiddiol o'i ddull gweithredu.
Hoffwn sôn am ffermwyr Cymru hefyd sydd, yn fy marn i, â rôl ganolog i'w chwarae yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau amgylcheddol, ac rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan lefel uchelgais ac ymrwymiad llawer o'n ffermwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu polisïau—a chyfeiriodd Joyce at y datganiad a wneuthum yma ddoe—sy'n gwobrwyo ffermwyr yn briodol am y canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol y maent yn eu cynhyrchu ynghyd â bwyd o safon uchel. Ein hegwyddor gyntaf sy'n llywio'r gwaith o ddatblygu ein polisi yw bod yn rhaid inni gadw ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir gweithgar eraill ar y tir. Gwnawn hynny er mwyn diogelu buddiannau ein cymunedau gwledig ac i sicrhau nad ydym yn colli'r wybodaeth leol unigryw nad yw ar gael yn unman arall, a'r sgiliau a'r ymroddiad sy'n bodoli yn y cymunedau hynny, ac yn hyn o beth, rhaid i'n polisi osgoi amddifadu neu gefnu ar ein hardaloedd gwledig.
Cyfeiriodd Llyr at y camau pellach yr oeddem yn eu cymryd mewn perthynas â'r argyfwng newid hinsawdd ac yn amlwg, yr argyfwng bioamrywiaeth. Y bore yma—a soniodd Joyce am hyn yn ei sylwadau agoriadol am y streiciau newid hinsawdd gan bobl ifanc—cyfarfûm â grŵp o bobl ifanc ynghyd â'r comisiynydd plant a chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ac roedd yn ysbrydoliaeth. Roedd rhai ohonynt yn rhai bach o'r ysgol gynradd, eraill yn hŷn, a chlywsom beth y maent yn disgwyl inni ei wneud dros y blynyddoedd nesaf, ac rydym yn gweithio ar gynllun i nodi sut y gallwn sicrhau bod ein polisïau a'n hargymhellion—. Ac nid ydynt yn mynd i adael i mi ddianc oddi ar y bachyn. Maent am wybod pryd y gallant gyfarfod â mi eto, pryd y gallant ysgrifennu ataf i wneud yn siŵr fod y polisïau, yn enwedig y cynllun cyflawni carbon isel—y 100 o bolisïau ac argymhellion a gyflwynwyd gennym ym mis Mawrth—sut y bwriadwn eu gweithredu, ac a ydym yn mynd i'w newid yn sgil cyhoeddi'r argyfwng newid hinsawdd.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rhaid inni achub ar bob cyfle i ddod â bywiogrwydd newydd i'r cymunedau hynny, a chredaf fod gan y syniadau a gyflwynwyd gan Joyce a John a Llyr i'r ddadl heddiw botensial gwych i wneud hynny. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.