Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 5 Mehefin 2019.
Rwy'n falch fod y mater hwn wedi'i godi. Yn amlwg, mae iechyd meddwl yn fater sy'n effeithio ar bob maes, ond mae'n amlwg fod staff ein GIG yn agored i'w effeithiau. Fe sonioch chi—credaf mai yn ardal Abertawe y dywedoch fod yna elfen o arferion da. Mae'n amlwg yn bwysig fod yr arferion da hynny'n cael eu cyflwyno ledled gweddill Cymru cyn gynted â phosibl. Felly, a allech ddweud wrthym pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau, lle ceir arferion da mewn bwrdd iechyd lleol, y gall byrddau iechyd eraill nad ydynt o bosibl yn arddangos arferion da o'r fath elwa o'r gwersi a ddysgwyd?