Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 5 Mehefin 2019.
Ie, rwy'n fwy na pharod i ehangu ymhellach gan ei bod yn enghraifft dda o sut rydym yn defnyddio ein system yma yng Nghymru. Mae'r fforwm partneriaeth yn dod â'r Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur ynghyd. Felly, mae'r fforwm partneriaeth eisoes yn cymryd camau i edrych ar yr arferion da hynny, eu dwyn ynghyd, a cheisio sicrhau wedyn fod y polisi a gytunwyd yn ddiweddar ar reoli absenoldeb yn y gweithle sy'n edrych ar atal, a chynorthwyo pobl i ddychwelyd i'r gwaith yn gynharach ac i aros yn eu gwaith os oes modd, yn cael ei gefnogi gan enghreifftiau ymarferol o arferion da, i sicrhau bod pobl yn ymwybodol, ac yna ein bod ni'n deall sut y mae'r arferion da'n cael eu cyflwyno'n briodol ar draws ein gwasanaethau. Felly, mae'n enghraifft dda o edrych ar dystiolaeth, edrych ar arferion gorau, er mwyn dysgu o hynny ar draws y system.