Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch am eich cwestiwn. Nodir ein cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda phob cyflwr niwrolegol yn ein cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Y weledigaeth yw i bobl sydd â chyflwr niwrolegol gael mynediad amserol at ofal sylfaenol, cymunedol, eilaidd ac arbenigol cwbl integredig wedi'i gynllunio o amgylch anghenion yr unigolyn.