Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch iddo am y cwestiwn. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel ac amserol i bobl Blaenau Gwent. Ym mis Ebrill eleni, cyrhaeddodd 71.2 y cant o ymatebion brys i alwadau coch yn ardal Aneurin Bevan o fewn y targed wyth munud, gydag amser ymateb canolrifol o ddim ond pum munud a 38 eiliad.