Cynorthwyo Pobl sydd â Nam ar y Synhwyrau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:47, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Credaf fod hyn, mae'n debyg, yn croesi nifer o wahanol bortffolios gweinidogol, ond rwy'n hapus i gydnabod y gwelliant a wnaed, yn ogystal â'r gwaith y mae Action on Hearing Loss, yn arbennig, yn ei wneud gyda'u gwobrau rhagoriaeth i amlygu'r meysydd lle mae arferion da i'w cael eisoes a lle gellir gweld enghreifftiau pellach. Mae'r gwobrau diweddar, a gynhaliwyd ym mis Mai eleni, yn enghraifft dda, ac yn wir, fe wnaethant amlygu gwaith nifer o wahanol gyflogwyr. Rwy'n fwy na pharod i siarad ymhellach am hyn gyda fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog cyflogaeth yn ogystal, rwy'n siŵr, â'r Gweinidog sy'n arwain ar gydraddoldeb, sydd yn yr ystafell ac a fydd yn hapus i ymuno â'r sgwrs honno hefyd.