Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 5 Mehefin 2019.
Roeddwn am ddiolch i chi am roi rhybudd i mi am y pwynt o drefn, ac am ein trafodaethau ar y mater yn gynharach yr wythnos hon, ond mae'n debyg na fyddaf yn diolch i chi ar ôl y cyfraniad hwnnw. Hoffwn ailadrodd, fel y gwneuthum yn ein cyfarfod yn gynharach yr wythnos hon, fod dyraniad cwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn cael ei bennu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, ac rwyf wedi penderfynu rhoi'r un dyraniad i grŵp newydd Plaid Brexit ag a oedd gan grŵp UKIP yn ddiweddar. Mae'r dyraniadau'n adlewyrchu'r cydbwysedd cyffredinol ac nid ydynt yn wyddor fanwl nac yn gyfrifiad pro-rata. Felly, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod eich grŵp yn cael dyraniad cyffredinol teg o amser ar draws y cwestiynau. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i mi dynnu eich sylw at y ffaith na allaf alw ar eich Aelodau os nad ydynt yn gwneud ceisiadau i ofyn cwestiynau, ac er gwybodaeth i'r Aelodau, ni chefais unrhyw geisiadau o'r fath gan Blaid Brexit heddiw.