2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dioddefwyr y sgandal gwaed halogedig? OAQ53972
Iawn, a diolch am y cwestiwn. Drwy gynllun cymorth gwaed heintiedig Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn cynhwysfawr o daliadau ex gratia ynghyd â chymorth cofleidiol helaeth sy'n cynnwys cymorth seicolegol, cyngor a chymorth ar fudd-daliadau a chyfeiriadau at wasanaethau cyhoeddus eraill a ddarparwn ledled Cymru.
Bydd y Gweinidog yn ymwybodol fod y BBC wedi adrodd ar achos Kirk Ellis o Gaerffili, a oedd wedi dal hepatitis C pan oedd yn blentyn bach, ond ni ddaeth yn ymwybodol o hynny nes ei fod yn 13 oed. Mae'n cael £18,500 y flwyddyn o iawndal. Ym mis Ebrill, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cleifion yn Lloegr yn cael £10,000 ychwanegol. Ni fyddai hynny'n berthnasol i gleifion sydd wedi'u heffeithio yng Nghymru. Nid yw'n deg bod y 175 o bobl â haemoffilia yng Nghymru a gafodd eu heintio yn y 1970au a'r 1980au yn cael llai o gymorth ariannol na dioddefwyr yn Lloegr a'r Alban. Iechyd—er ei fod yn fater datganoledig, mae Kirk Ellis yn cydnabod bod hyn wedi digwydd cyn datganoli, dan oruchwyliaeth Llywodraeth y DU, ac mai hwy a ddylai fod yn gyfrifol am wneud taliadau. Ond beth bynnag fydd yn digwydd, mae angen datrys y mater hwn, a hoffwn wybod beth y mae'r Gweinidog yn ei wneud i gael y mater hwn wedi'i ddatrys a sicrhau bod taliadau teg yn digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.
Ie. Gwelais y cyfweliadau gyda'ch etholwr, ac mae'n cydnabod, fel y dywedwch, fod hyn wedi digwydd cyn datganoli, a byddech fel arfer yn disgwyl i Lywodraeth y DU gymryd cyfrifoldeb parhaus dros yr hyn a oedd yn sgandal gwirioneddol, dros nifer o ddegawdau, lle cafodd pobl ddiniwed eu heintio a lle'r effeithiwyd ar eu bywydau cyfan. Roeddwn yn siomedig fod Adran Iechyd y DU, ar y diwrnod y cychwynnodd yr ymchwiliad o'r diwedd, wedi cyhoeddi system daliadau gwbl newydd ar gyfer trigolion Lloegr yn unig, heb unrhyw fath o rybudd na thrafodaeth gyda Chymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, system a aeth yn groes i gytundebau a thrafodaethau blaenorol, oherwydd mae gwahaniaethau yn y cynlluniau cymorth sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig. Credaf y byddai'n synhwyrol pe gallem sicrhau system gymorth a oedd yn gyson ar draws y Deyrnas Unedig. Mae hynny'n golygu bod angen i'r pedair Llywodraeth weithio gyda'i gilydd. Cafodd hynny ei roi i ni cyn i'r ymchwiliad ddechrau, ac wedyn cafwyd cyhoeddiad annisgwyl. Serch hynny, mae ein swyddogion yn parhau i siarad, ac mae cyfarfod i'w gynnal rhwng swyddogion yn ystod yr wythnos nesaf, ac rydym yn gobeithio trefnu dyddiad i Weinidogion y DU allu trafod y materion hyn gyda'i gilydd—Gweinidogion o bob un o'r tair Llywodraeth, a chynrychiolydd o Lywodraeth Gogledd Iwerddon hefyd—cyn diwedd toriad yr haf, oherwydd rwyf eisiau gwneud cynnydd, ac yn sicr nid wyf eisiau gadael i'r mater hwn barhau gyda chystadleuaeth flynyddol rhwng y pedair Llywodraeth, ond yn hytrach, mae angen rhywfaint o synnwyr ac ymwybyddiaeth i gydnabod ein bod angen cefnogi'r bobl yr effeithiwyd arnynt, oherwydd mae ganddynt lawer o'u bywydau i'w byw o hyd.
Diolch i'r Gweinidog.
Pwynt o drefn mewn perthynas â'r cwestiynau, Mark Reckless.
Lywydd, yn y gorffennol, mae grwpiau o bedwar neu fwy o Aelodau wedi cael caniatâd i ofyn yr un nifer o gwestiynau â grwpiau mwy o faint. Pan oedd y Gweinidog addysg yn arwain grŵp o bump a oedd yn rhan o gonsensws Bae Caerdydd, nid oedd unrhyw gwestiwn ynglŷn â chyfyngu ar nifer eu cwestiynau. Gyda Phlaid Brexit, rydych eisiau cyfyngu nifer ein cwestiynau i chwarter y cwestiynau y mae'r grwpiau eraill yn eu gofyn. Lywydd, oni fydd pobl yn dod i'r casgliad eich bod yn rhagfarnllyd fel rhan o'r sefydliad 'aros'?
Roeddwn am ddiolch i chi am roi rhybudd i mi am y pwynt o drefn, ac am ein trafodaethau ar y mater yn gynharach yr wythnos hon, ond mae'n debyg na fyddaf yn diolch i chi ar ôl y cyfraniad hwnnw. Hoffwn ailadrodd, fel y gwneuthum yn ein cyfarfod yn gynharach yr wythnos hon, fod dyraniad cwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn cael ei bennu yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, ac rwyf wedi penderfynu rhoi'r un dyraniad i grŵp newydd Plaid Brexit ag a oedd gan grŵp UKIP yn ddiweddar. Mae'r dyraniadau'n adlewyrchu'r cydbwysedd cyffredinol ac nid ydynt yn wyddor fanwl nac yn gyfrifiad pro-rata. Felly, fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod eich grŵp yn cael dyraniad cyffredinol teg o amser ar draws y cwestiynau. Ond er mwyn gwneud hynny, mae angen i mi dynnu eich sylw at y ffaith na allaf alw ar eich Aelodau os nad ydynt yn gwneud ceisiadau i ofyn cwestiynau, ac er gwybodaeth i'r Aelodau, ni chefais unrhyw geisiadau o'r fath gan Blaid Brexit heddiw.
Fe ddywedoch chi wrthym na chaem wneud hynny—dim ond tri.