3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd? 318
Gwnaf, wrth gwrs. Yn gynharach heddiw, cyhoeddais ddatganiad yn rhoi gwybod i'r Aelodau am y comisiwn arbenigol, gan gynnwys y cylch gorchwyl.
A gaf fi ddiolch i chi, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn? A byddai wedi bod o gymorth, rwy'n credu, pe bai'r Gweinidog wedi cyflwyno datganiad llafar yn hytrach na datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn. Wrth gwrs, darllenais eich datganiad heddiw, Weinidog, ac o'm safbwynt i, o ddarllen y datganiad, rydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn, gyda chomisiwn arbenigol arall wedi'i benodi i edrych ar gynigion eraill yn lle cynigion Llywodraeth Cymru ei hun ar ôl i £114 miliwn, fel y clywsom o'r datganiad heddiw, o arian cyhoeddus gael ei wario neu ei wastraffu ar ddatblygu cynigion ar gyfer ymchwiliad cyhoeddus annibynnol dros gyfnod o ddwy flynedd. Buaswn yn cytuno â'r sylwadau yn eich datganiad heddiw, Weinidog, fod angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ateb yn gyflym, felly mae gennyf nifer o gwestiynau.
Beth fydd yr amserlen i'r comisiwn arbenigol gyflwyno'u hadroddiad? Pa gyllideb y byddwch yn ei dyrannu'n benodol ar gyfer gwaith y comisiwn arbenigol? Pwy fydd yn penodi aelodau'r comisiwn hwn, a faint o amser fydd y broses recriwtio yn ei gymryd? Ac a wnewch chi ymrwymo i lynu at gasgliadau'r comisiwn neu a fydd modd diystyru adroddiadau'r comisiwn arbenigol hwn? Weinidog, rydych wedi dweud wrth y Cynulliad hwn ei bod yn hanfodol ein bod yn cynllunio trafnidiaeth yn gyfannol ac nad ydym yn edrych ar foddau trafnidiaeth ar eu pen eu hunain, ac aethoch ymlaen i ddweud, pe baech yn gwneud y mwyaf o'r capasiti ar y metro, mai'r uchafswm y gallech ei dynnu oddi ar yr M4 oedd 4 y cant yn unig. A ydych yn credu y bydd unrhyw gynigion amgen a wnewch yn tynnu mwy na 4 y cant oddi arni?
Ddoe, dywedodd y Prif Weinidog y bydd cyfres o ymyriadau cyflym wedi'u targedu yn cael eu gwneud yn y cyfamser i liniaru tagfeydd ar y M4, ac mae eich datganiad heddiw wedi cyfeirio at hynny. Os yw'r Gweinidog yn credu bod mesurau tymor byr yn effeithiol, pam nad ydynt wedi cael eu gweithredu yn y gorffennol pan ellid bod wedi eu rhoi ar waith flynyddoedd yn ôl?
Ac yn olaf, Lywydd, mae'r Gweinidog wedi dweud o'r blaen, ac rwy'n dyfynnu yma, fod gwelliannau tameidiog a defnyddiol wedi cael eu gwneud dros amser, ond nid ydynt ond wedi gohirio'r mater—nid ydynt ond wedi gohirio'r mater—mae angen gwaith uwchraddio helaeth ar y darn hwn o seilwaith yn hirdymor. Felly a gaf fi ofyn: a yw'r Gweinidog bellach yn credu na fydd angen gwaith uwchraddio mor helaeth ar seilwaith yr M4 mwyach?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a'i sicrhau nad ydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn? A dyna pam ein bod yn gallu gofyn i'r comisiwn gyflwyno argymhellion o fewn cyfnod o chwe mis o gael ei gynnull. Nid ydym yn mynd yn ôl i'r cychwyn, oherwydd mae pob un o'r modelau llif traffig, yr asesiad cyfan, a'r dadansoddiad cyfan o dros 28 a mwy o gynigion yn bodoli bellach. Mae adroddiad yr arolygydd yn gynhwysfawr ac mae'n cynnwys asesiad o bob un o'r 28 cynnig hwnnw. Fodd bynnag, bydd y comisiwn yn rhydd i ystyried cynigion ychwanegol ac amgen. Bydd y comisiwn yn cael ei sefydlu gydag arbenigedd o'r maes trafnidiaeth er mwyn gwneud hynny. Ac felly, nid yw'r arian wedi'i wastraffu. Yn wir, pan fyddwch yn cymharu cyfran y gost ar gyfer datblygu'r M4 â chyfran y gost ar gyfer cynlluniau ffyrdd mawr eraill, mae'r costau datblygu fel cyfran yn ffafriol iawn mewn gwirionedd—maent yn 6.3 y cant. I gymharu â hynny, Lywydd, roedd ffordd osgoi A487 Caernarfon-Bontnewydd yn 9.4 y cant, adran 3 yr A465 yn 9.8 y cant, a'r A40 yn 11.5 y cant.
Ni ellir datblygu prosiectau am ddim, ac nid yw ond yn iawn ac yn briodol mewn proses ddemocrataidd fod cyfle llawn yn cael ei roi i'r cyhoedd graffu ar achos y Llywodraeth. Roedd achos y Llywodraeth yn gryf ac yn rymus, fel y dangosodd yr arolygydd, ond mae'r oes wedi symud ymlaen gryn dipyn ers 2016, pan wnaethom addo adeiladu ffordd liniaru, ac rwy'n benderfynol o symud ymlaen yn gyflym yn awr gyda dewisiadau amgen a chyfuniad—nid un ymyriad posibl yn unig, ond cyfuniad o ymyriadau o bosibl, a gallai llawer ohonynt fod ymhlith y 28 a gyflwynwyd i'r arolygydd, ac rwyf am fwrw ymlaen â hwy yn gyflym iawn.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw, ynglŷn â'r amserlen ar gyfer llunio a gwahodd y comisiwn i gyflwyno adroddiad, y byddwn yn gweld aelodau'n cael eu penodi—bydd y cadeirydd a minnau'n cytuno arnynt—cyn toriad yr haf. Bydd eu gwaith yn dechrau cyn gynted ag y bo modd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond byddaf yn cwrdd â'r cadeirydd ddydd Llun i drafod y gwaith ac adroddiad yr arolygydd a'r asesiad a'r dadansoddiad sydd wedi'u cynnal eisoes. Fel y dywedais yn y datganiad, rwy'n disgwyl adroddiad interim o fewn 6 mis, ond rwyf wedi bod yn awyddus ac yn glir iawn wrth ddweud wrth y cadeirydd ac wrth y cyhoedd, os gall y comisiwn gyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflwyno yn y tymor byr, yn syth, o fewn y cyfnod hwnnw o chwe mis, yna dylai wneud hynny heb oedi.
Nawr, gofynnodd Russell George gwestiwn pwysig iawn ynglŷn ag a fydd yr argymhellion yn rhwymol. Byddant yn cael eu hystyried gan y Llywodraeth, ond byddant yn amodol ar eu gallu i ddangos gwerth am arian neu beidio. Nid wyf am wastraffu arian cyhoeddus ar brosiectau na fyddant yn cyflawni. Bydd yn rhaid iddynt hefyd fod yn fforddiadwy, o ystyried, yn arbennig, safbwynt y Prif Weinidog ar lwybr du'r M4, lle barnwyd nad oedd yn fforddiadwy. Ac yna, yn drydydd, mae'n rhaid iddynt fod yn gyflawnadwy. Yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddus, gwelsom fod rhai awgrymiadau wedi cael eu cynnig, gan gynnwys twnnel hir iawn na fyddai wedi bod yn gyflawnadwy. Rydym eisiau gweld atebion cyflawnadwy yn cael eu rhoi ar waith.
Mae Russell George hefyd yn iawn i dynnu sylw at y ffigur o 4 y cant o ran faint o bobl y gallwn eu tynnu oddi ar y M4 a'u cael i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Gallai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhan o'r gymysgedd o ymyriadau, a dyna pam y dywedais nad ydym yn edrych ar un ateb yn unig, un fwled hud; rydym yn edrych ar gyfuniad posibl, a chyfuniad o atebion ac mae'n bosibl y bydd angen eu trefnu mewn ffordd benodol.
O ran yr ymyriadau cyflym rwyf wedi'u nodi yn fy natganiad ysgrifenedig, rwy'n falch o ddweud ein bod bellach mewn sefyllfa, ar ôl profi rhai o'r ymyriadau hynny ar yr A55, i fwrw ymlaen â hwy ar unwaith ar yr M4. A lle rydym wedi'u cyflwyno ar yr A55, rwy'n credu eu bod wedi profi'n llwyddiannus iawn yn lleihau tagfeydd yn gynt pan fo digwyddiadau a damweiniau'n digwydd. Ac mewn perthynas â'r cwestiwn ynglŷn ag a fyddai darn mawr o seilwaith ffordd newydd yn cael ei ystyried, wel, rwyf wedi dweud wrth gadeirydd y comisiwn y dylai ei gylch gwaith fod yn eang; dylai allu ystyried atebion sy'n seiliedig ar ffyrdd gyda'r bobl a gaiff eu penodi gydag ef, ond mae'n rhaid iddynt gyrraedd y safon a osodwyd gan y Prif Weinidog. Mae'n rhaid iddynt fod yn fforddiadwy ac mae'n rhaid iddynt beidio â chyfrannu'n sylweddol at newid hinsawdd. Maent yn safbwyntiau sylfaenol ac ni fyddant yn newid yn ystod proses y chwe mis nesaf.
Rwy'n falch o gael y cyfle i ofyn cwpl o gwestiynau. Credaf fod y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r llwybr du yn un cywir. Nid wyf mor argyhoeddedig â'r Gweinidog fod pethau wedi symud ymlaen cymaint ers i'r cynigion gael eu gwneud yn wreiddiol. Mae digonedd o bobl, gan gynnwys fy mhlaid i, wedi bod yn dadlau—a'r Gweinidog sy'n eistedd y tu ôl i chi—ers blynyddoedd lawer y byddai hyn yn debygol o gael ei ystyried, yn y pen draw, yn anghynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol. Ac mewn gwirionedd, buaswn yn falch o weld swm sylweddol o arian yn cael ei wario ar wella'r rhwydwaith ffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru, ond mae'n rhaid i hynny ddigwydd ochr yn ochr ag ymdrech wirioneddol i sicrhau newid moddol yn ne-ddwyrain Cymru, fel mewn mannau eraill. Credaf mai dyna a gollwyd yn llwyr yn yr ymrwymiad i wario cymaint ag a gâi ei argymell ar y llwybr du.
Mae un neu ddau o gwestiynau'n codi ynglŷn â'ch datganiad y bore yma, y datganiad ysgrifenedig. Rydych yn dweud y bydd nifer o gamau tymor byr yn cael eu cymryd—swyddogion traffig ychwanegol, er enghraifft, peidio â chau lonydd yn ystod digwyddiadau mawr, mwy o gerbydau achub ac yn y blaen, er mwyn caniatáu i draffig lifo. Bydd pobl yn gofyn pam ar y ddaear nad oedd y mesurau hyn eisoes ar waith, o ystyried y tagfeydd difrifol ar y rhan honno o'r M4?
O ran y comisiwn, rwyf innau hefyd yn awyddus i weld a chlywed ychydig mwy am amserlen ar gyfer y gwaith rydych yn disgwyl i'r comisiwn ei gyflawni. Credaf y dylem fod yn wyliadwrus iawn o ran edrych am bethau y mae'r comisiwn yn dweud y gellir eu gwneud o fewn chwe mis. Nid wyf yn credu mai dyna'r math o ymateb difeddwl tymor byr sydd ei angen arnom. Os nad yw'n ocsimoron, credaf fod angen edrych ar frys ar atebion strategol hirdymor ar gyfer trafnidiaeth, nid yn y de-ddwyrain yn unig ond golwg ehangach ar yr hyn y gellir ei gyflawni gyda'r arian sydd ar gael.
Felly, un ynghylch yr amserlen, ond yn ail, oni ddylai'r gwaith rydych yn ei ddyrannu i'r comisiwn hwn fod yn cael ei roi i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru? Mae hwnnw'n bodoli eisoes. A gwn eich bod yn dweud bod hwn yn gyfrwng a fydd yn gyfrifol am ddarparu prosiect penodol, ond oni allai hwn fod yn brawf gwirioneddol i'r comisiwn seilwaith newydd hwnnw i Gymru, o gael tasg sydd â chenhadaeth strategol hirdymor? Nid wyf yn deall pam y byddech eisiau creu comisiwn newydd pan fo gennych y corff hwnnw ar waith eisoes.
A gaf fi ddiolch i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau? Credaf fod y cwestiwn olaf yn arbennig o ddilys—ynglŷn ag a ddylai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru wneud y gwaith penodol hwn. Roedd hwnnw'n rhywbeth y bûm yn ei ystyried yn ofalus, a gwneuthum y penderfyniad hwn oherwydd bod Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru eisoes wedi dechrau gweithio mewn amryw o feysydd yn edrych ar fathau eraill o seilwaith— er enghraifft, yn y maes digidol—pe baem wedi gwahodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru i ymgymryd â'r gwaith hwn, byddai'n eu llethu ac yn eu hatal rhag symud ymlaen ar waith arall sy'n rhaid ei ystyried er ein budd hirdymor.
O ran yr amserlen, wel, mae fy natganiad yn glir iawn ar hyn: bydd y comisiwn yn ystyried ymyriadau tymor byr ac atebion mwy hirdymor, gan gynnwys yr ymddygiadau sy'n arwain pobl i deithio mewn ffyrdd penodol a dewis teithio gan ddefnyddio mathau penodol o drafnidiaeth. Roeddem bob amser yn dangos, gyda'n tystiolaeth, fod y llwybr du—fe'i cydnabuwyd yn llawn gan yr arolygydd—wedi'i gynllunio ar y cyd â mathau eraill o drafnidiaeth yn llwyr, yn enwedig gyda metro de Cymru, er mwyn cynllunio rhwydwaith trafnidiaeth modern, cwbl integredig ar draws y rhanbarth. Cafodd y gwaith hwnnw, fel y dywedais, ei gydnabod gan yr arolygydd.
Rydym eisiau gweld newid moddol sylweddol yn digwydd, a dyna pam rydym yn buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen mewn teithio llesol, a pham ein bod, gyda fy nirprwy yn arwain ar deithio llesol, yn benderfynol o weld mwy o bobl yn gadael eu ceir ac yn dewis mathau eraill o drafnidiaeth. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fod un o'r cynlluniau peilot rydym yn eu cyflwyno mewn perthynas â bysiau—teithio sy'n ymateb i'r galw—wedi cael ei brofi mewn mannau eraill yn y DU, lle canfu fod mwy na hanner y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth penodol hwnnw'n defnyddio bysiau am y tro cyntaf. Dyna'r math o newid moddol rydym yn arwain arno yn Llywodraeth Cymru.
Roedd Rhun ap Iorwerth yn cydnabod mai hwn oedd y penderfyniad cywir—rwy'n ddiolchgar iddo am gytuno. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, pan fydd pethau'n newid a phan fydd amgylchiadau'n newid, fod yn rhaid ystyried cynigion newydd a gaiff eu hyrwyddo a'u cyflwyno gan Lywodraeth. Yn yr un modd, mae'n bwysig cydnabod, rwy'n credu, fod un o'r dewisiadau amgen a gynigiwyd gan eraill yn y Siambr—y llwybr glas—wedi cael ei ddifa'n llwyr gan yr arolygydd fel dewis amgen dilys i'r llwybr du. Felly, bydd yn rhaid i'r comisiwn fod yn ddadansoddol yn ogystal â chreadigol iawn wrth edrych ar atebion amgen.
Fel eraill, roeddwn yn ddiolchgar i chi, Weinidog, am eich datganiad y bore yma ac yn ddiolchgar am rai o'r manylion a oedd ynddo—rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud yn fawr. A gaf fi ddweud bod gan rai pobl yn fy etholaeth fy hun bryderon ynghylch amserlenni a phryderon ynglŷn â'r amser y bydd hyn yn ei gymryd? Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y cylch gorchwyl rydych wedi'i osod ar gyfer y comisiwn, a dylwn ddweud fy mod yn croesawu penodiad Terry Burns hefyd—rwy'n credu y bydd rhywun o'r statws hwnnw'n gallu gyrru'r gwaith hwn yn ei flaen.
Ond nid yw'r amcanion ar gyfer y gwaith yn glir yn y cylch gorchwyl—beth yw diben hyn? Wrth ddarllen drwy'r cylch gorchwyl, gallech yn hawdd iawn gynnig y llwybr du a dechrau eto. Rwy'n siŵr nad dyna'r bwriad, ond mae'r cylch gorchwyl yn eithaf eang, sydd, ar un lefel, yn rhywbeth i'w groesawu. Ond rwy'n credu hefyd fod pobl eisiau gwybod beth y ceisiwch ei gyflawni a beth yw'r amserlen. Hoffwn weld ymrwymiad clir iawn i leihau tagfeydd—ond i ba raddau? Sut y bwriadwch leihau tagfeydd? Beth yw'r targed ar gyfer lleihau tagfeydd? Beth fydd yr effaith ar yr economi ehangach? Rwy'n siŵr y bydd eraill yn trafod y problemau o amgylch Casnewydd ei hun, ond mae hon yn rhan allweddol ac yn sbardun allweddol i'r economi ar draws de-ddwyrain Cymru a chymoedd Gwent, ac felly bydd yna bobl a fydd yn bryderus iawn ac eisiau sicrhau bod yr hyn a wnawn yng Nghasnewydd i leddfu'r anawsterau sy'n gysylltiedig â'r M4 hefyd yn cael effaith economaidd ehangach nag a fyddai wedi bod yn wir yn achos y llwybr du.
Felly, dros yr wythnosau nesaf, pan fyddwch yn gallu dychwelyd atom gyda datganiadau pellach ar y mater hwn, rwy'n gobeithio y gwelwn dargedau clir, amcanion clir ac amserlenni clir. Mae llawer iawn o sinigiaeth, Weinidog; nid yw pobl yn credu y byddwch chi fel Llywodraeth yn cyflawni rhywbeth drwy'r comisiwn hwn mewn gwirionedd. Credaf ein bod angen amserlen glir, uchelgeisiau clir a thargedau clir hefyd er mwyn cyflawni'r amcanion y byddwch yn eu gosod i chi'ch hun, a bod angen gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau bod economi gyfan y rhanbarth yn elwa o'r gwaith hwn.
A gaf fi ddiolch i Alun Davies am ei gwestiynau? Rwy'n cydnabod y rhwystredigaeth y mae llawer o bobl ar draws y rhanbarth yn ei deimlo. Mae hon yn broblem sydd wedi effeithio ar dde-ddwyrain Cymru ers degawdau, ac mae'n broblem rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â hi a'i datrys. Dyna pam rydym wedi penodi'r Arglwydd Burns i gadeirio comisiwn o arbenigwyr. Dyna pam fy mod yn hyderus iawn y bydd y comisiwn yn gallu cynnig atebion a fydd yn arwain at lai o dagfeydd ac yn sicrhau bod traffig yn llifo mor rhydd â phosibl.
Rwyf eisoes wedi nodi'r amserlen ar gyfer y gwaith a fydd yn digwydd, ac rydym wedi hysbysu cadeirydd y comisiwn y byddem yn dymuno gweld ymyriadau brys yn cael eu cynnwys yn eu hadroddiad interim, os nad ynghynt, fel y dywedais wrth Russell George. Ac mae diben gwaith y comisiwn yn gwbl glir: ei nod yw nodi atebion amgen cyflawnadwy yn lle cynllun y llwybr du sy'n cynnig gwerth am arian ac a fydd yn lleihau tagfeydd i'r lefel isaf posibl er mwyn galluogi traffig i lifo mor rhydd â phosibl.
Nawr, wrth gwrs, bydd Gweinidogion yn craffu ar bob awgrym a chynnig a gyflwynir gan y comisiwn i weld pa mor gyflawnadwy ydynt a'u gwerth am arian, ond gan ein bod yn penodi arbenigwyr traffig neu arbenigwyr trafnidiaeth i'r comisiwn, mae gennyf bob ffydd y byddant yn cynnig atebion cyflawnadwy a fforddiadwy o fewn y cyfnod hwnnw o chwe mis.
Yn amlwg, ac yn anochel, gofynnwyd llawer o'r cwestiynau yr oeddwn am eu gofyn neu'n bwriadu eu gofyn, ond mae'n amlwg y bydd y Gweinidog yn sensitif i'r pryder cyffredinol ymhlith y cyhoedd ynghylch goblygiadau cost y comisiwn newydd hwn, o ystyried y symiau enfawr o arian a wariwyd eisoes yn yr ymchwiliad maith a phellgyrhaeddol. Rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi fod ganddynt hawl i ofyn faint y bydd yn ei gostio, pa mor hir y bydd yn para a phwy fydd yn aelodau'r comisiwn. Gwn eich bod yn eich datganiad, a diolch i chi amdano, Weinidog, wedi rhoi rhyw syniad i ni ynglŷn â rhai o'r cwestiynau hyn, ond a fyddech yn eu hailadrodd yma y prynhawn yma inni allu lleddfu rhywfaint ar bryderon y cyhoedd? O gofio bod tua 100 o gyflwyniadau ar strategaethau amgen yn lle'r llwybr du wedi'u cyflwyno i'r ymchwiliad, sut y caiff y rhain eu gwerthuso ac a oes dyddiadau cau ar gyfer cyflwyniadau newydd? Yn olaf, ond nid yn lleiaf, pryd y cawn weld gwaith ymarferol yn cychwyn i leihau'r problemau enbyd parhaus gyda thwnelau Bryn-glas?
A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau? Roeddwn ar fai yn peidio ag ateb y cwestiwn a ofynnwyd i mi yn gyntaf gan Russell George ynghylch cost y comisiwn. Gallaf sicrhau'r Aelodau y bydd cost y comisiwn yn cael ei gadw i'r isafswm lleiaf posibl, oherwydd byddwn yn darparu'r gwasanaethau ysgrifenyddol a byddwn yn darparu'r arbenigedd trafnidiaeth ar ffurf swyddogion presennol a'u hamser.
O ran cyfansoddiad y comisiwn, rwyf hefyd yn awyddus i weld cynrychiolydd posibl ar ran yr heddlu—swyddog traffig sy'n gallu cynnig cyngor ac arbenigedd a gwybodaeth am y darn hwnnw o ffordd. O ran cyflwyniadau newydd, nid ymarfer pysgota gan y comisiwn fydd hwn. Bydd y comisiwn yn ystyried yr holl gynigion sy'n bodoli eisoes, ac unrhyw rai y mae'r arbenigwyr eu hunain eisiau eu hystyried. Wedi dweud hynny, rwyf hefyd yn benderfynol o sicrhau bod llais y dinesydd yn cael ei glywed, ac felly, fel y dywedais yn fy natganiad, rwyf wedi gofyn i'r comisiwn gyflwyno cynigion ar sut y gall pobl, nid yn unig yn yr ardal y mae'r ffordd hon yn effeithio arni, neu'r rhanbarth y mae'n effeithio arno, ond Cymru gyfan, ddod yn rhan o broses a gydgynhyrchir.
Weinidog, mae'r problemau ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn rhai dybryd sydd angen eu datrys ar frys, ac mae'n amlwg bod angen ymateb iddynt yn y tymor byr, y tymor canolig ac yn hirdymor. Yn bersonol, credaf fod 'rhagweld a darparu' wedi'i danseilio i raddau helaeth fel model ar gyfer ymdrin â'r problemau hyn, a dyna pam rwy'n croesawu'r penderfyniad a wnaeth Llywodraeth Cymru, oherwydd gwelwyd bod ceisio rhagweld twf traffig ac adeiladu ffyrdd newydd er mwyn darparu ar gyfer y rhagfynegiadau hynny wedi arwain at y ffyrdd newydd hynny'n llenwi gyda mwy a mwy o deithiau traffig, ac nid yw hynny o fudd i neb. Felly, credaf fod angen meddwl o'r newydd, mwy o ddychymyg a newid moddol, ynghyd â rheolaeth well ar draffig.
Felly, er mwyn cyflawni hynny, Weinidog, bydd angen camau gweithredu cynnar. Ac fel y gofynnais i'r Prif Weinidog ddoe, tybed a allai un o'r camau cynnar hynny gynnwys ystyriaeth o gynnig rhodfa Magwyr a Gwndy ar gyfer gorsaf drenau newydd o dan gronfa gorsafoedd newydd Llywodraeth y DU? Ac fel y gwyddoch, mae'r grŵp cymunedol lleol yn ceisio arian gan Lywodraeth Cymru i gyfateb i'r hyn sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy er mwyn symud y cais hwnnw ymlaen i'r cam nesaf o broses Llywodraeth y DU. Felly, tybed a allech roi unrhyw awgrymiadau cadarnhaol ynglŷn â hynny.
O ran y comisiwn, Weinidog, mae'n amlwg y bydd yn ofynnol i Gyngor Dinas Casnewydd gyflawni llawer o'r camau gweithredu a gyflwynir—yn anochel, fe gredaf—felly ymddengys i mi ei bod yn briodol i Gyngor Dinas Casnewydd fod yn rhan o'r comisiwn hwnnw, a tybed a wnewch chi ddynodi y bydd hynny'n digwydd.
O ran rhai o'r galwadau y credaf inni eu clywed eisoes, Weinidog, clywsom alwadau gan Aelodau yn y Siambr hon am wario arian sydd ar gael ar hyd a lled Cymru, ac mae hynny'n ddealladwy mewn ffordd, oherwydd, yn amlwg, mae gan Aelodau achosion sy'n peri pryder dybryd yn eu hardaloedd eu hunain, ond mae'n amlwg mai'r hyn sydd dan sylw yma yw coridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Dyna lle mae'r problemau, a dyna lle mae'n rhaid gwario'r arian sydd ar gael. A tybed a fyddech yn cytuno â hynny, Weinidog, ac yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â hynny.
A gaf fi ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau, ac am ei gyfraniad yn arbennig mewn perthynas â'r model 'rhagweld a darparu'? Mae hyn yn rhywbeth a ystyriwyd yn fanwl iawn gan yr arolygydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch, nid yn unig i'r arolygydd, sydd bellach wedi ein gadael, yn anffodus, ond i'w dîm a wnaeth waith mor glodwiw dros fisoedd lawer. Fwy na blwyddyn yn ôl, dywedais fy mod yn dymuno sicrhau bod pob person yn gallu cyfrannu at yr ymchwiliad cyhoeddus lleol. Rwy'n credu bod hynny wedi digwydd, a dyna pam fod yr ymchwiliad cyhoeddus lleol wedi cymryd cymaint o amser, ond gwnaeth yr arolygydd a'i dîm waith gwych yn sicrhau y gellid ystyried a chyflwyno'r holl dystiolaeth yn ofalus.
Mae John Griffiths yn gywir i ddweud nad oes arian am ddim yn gysylltiedig â'r cyhoeddiad a wnaeth y Prif Weinidog. Nid oes unrhyw arian annisgwyl a fydd yn golygu bod symiau enfawr o arian yn cael eu lledaenu ar hyd a lled Cymru. Pam? Oherwydd y byddai llawer o'r gost wedi dod o brosiectau trafnidiaeth eraill a fyddai naill ai'n gorfod cael eu canslo neu eu gohirio, byddai wedi dod o brosiectau adeiladu ysgolion, prosiectau adeiladu ysbytai a gofal iechyd, neu gartrefi newydd. Bydd y prosiectau hynny'n mynd rhagddynt yn awr o ganlyniad. Felly, ni fyddwn o reidrwydd yn cyflwyno prosiectau newydd at restr. Rhestr y dywedodd y Prif Weinidog ddoe ei bod yn costio tua £2.2 biliwn i gyd; heddiw, mae'n £3 biliwn. Ac rwy'n siŵr y bydd yn parhau i godi.
Mae'r comisiwn yn gyfrifol am ddatrys mater penodol a diffiniadwy iawn—sef y tagfeydd ar yr M4 yn nhwnelau Bryn-glas ac o'u hamgylch. Ac felly mater i'r comisiwn fydd ystyried unrhyw gynigion a fydd yn cyfrannu tuag at liniaru tagfeydd, gan gynnwys unrhyw waith y byddai'n rhaid ei wneud i agor gorsafoedd neu wella gorsafoedd er mwyn cael mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a allai gyfrannu wedyn tuag at leihau tagfeydd. Nid wyf am achub y blaen ar waith yr arbenigwyr yn hyn o beth; yn lle hynny, rwyf am i'r comisiwn farnu unrhyw gynigion a allai gael eu cyflwyno.
Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Ac fel yr Aelod dros Orllewin Casnewydd, rwy'n siŵr y byddech yn deall bod gennyf lawer o gwestiynau, ond byddaf yn eu cadw mor gryno ag y gallaf.
Yn gyntaf, rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i wrando ar y bobl yr effeithir ar eu bywydau bob dydd gan y ffordd. Sut yn union y bydd y comisiwn yn sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu casglu'n llawn? Nid traffig lleol yw'r mwyafrif helaeth o draffig yr M4 o amgylch Casnewydd. Gyda chymaint o deithio ar draws y ffin a chynnydd o 10 y cant yn y siwrneiau ar y pontydd, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd y comisiwn yn edrych ar draffig sy'n teithio i Loegr ac oddi yno?
Rwy'n falch fod y datganiad yn cydnabod yr angen i liniaru tagfeydd a materion ansawdd aer sy'n deillio o hynny. Yn y lle cyntaf, pa drafodaethau y mae swyddogion y Gweinidog wedi'u cael â swyddogion cyngor Casnewydd i sicrhau bod Casnewydd yn gallu cael arian sydd eisoes ar gael i fynd i'r afael ag ansawdd aer?
Gan gyfeirio at y prosiectau a luniwyd i greu manteision cymedrol ond uniongyrchol, fel y swyddogion traffig ychwanegol a cherbydau achub penodol, bydd fy etholwyr yn gofyn pam nad yw'r rhain wedi cael eu rhoi ar waith o'r blaen. A pha dystiolaeth a gafwyd sy'n dangos y bydd y rhain yn gweithio'n effeithiol?
Ac yn olaf, ac yn bwysicaf oll efallai, mae pobl Casnewydd wedi dioddef yn ddigon hir ac wedi gweld llawer o adolygiadau'n mynd a dod. Pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi y bydd y comisiwn hwn o'r diwedd yn un sy'n sicrhau canlyniadau ystyrlon?
A gaf fi ddiolch i Jayne Bryant am ei chwestiynau, a'i phryder mawr am yr effaith a gaiff y penderfyniad ddoe ar ei hetholwyr? Rwy'n gwybod bod Jayne wedi cefnogi'r llwybr du yn frwd iawn, ac yn bur siomedig nad yw'r prosiect yn mynd yn ei flaen. Fodd bynnag, a gaf fi sicrhau'r Aelod a'i hetholwyr ein bod yn benderfynol o ddatrys problem y tagfeydd ar yr M4 yng Nghasnewydd, a lleihau'r llygredd yn yr aer ar hyd y coridor penodol hwnnw? Rwy'n credu y byddai'r ffigur ar gyfer lleihau llygredd aer yr ystyrid ei fod yn ganolig neu'n uchel oddeutu 500 ar gyfer y llwybr du—500 o gartrefi; rwy'n credu y byddai 12 wedi gweld gostyngiad sylweddol iawn; a byddai dros 10,000 wedi gweld gostyngiad bach iawn—ond gostyngiad er hynny. Felly, rwy'n ymwybodol o'r angen i ni roi atebion ar waith a fydd yn lleihau llygredd aer, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i hynny—fel y mae fy nghyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth.
Rwy'n falch o ddweud bod cyngor Casnewydd eisoes wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch cynigion ar gyfer yr M4. Mae gwaith ymgysylltu wedi bod yn mynd rhagddo ers sawl blwyddyn bellach a bydd yn parhau mewn perthynas â'r dewisiadau eraill. O ran yr ymatebion uniongyrchol, a'r cwestiwn a ofynnwyd ynghylch pam nad ydym wedi rhoi'r rhain ar waith hyd yma, wel, y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod wedi profi'r systemau patrolio ychwanegol a'r systemau ymateb ac achub uniongyrchol ar yr A55. Maent wedi cael eu profi a gwelwyd eu bod yn llwyddiannus. Mae hynny'n ein galluogi yn awr i'w symud allan ar yr M4, gyda hyder y byddant yn lliniaru tagfeydd.
Gwnaeth Jayne Bryant bwynt pwysig iawn hefyd o ran sicrhau bod gan ddinasyddion lais yn y broses hon. A byddaf yn trafod ddydd Llun gyda'r Arglwydd Burns sut y gall pobl gyfrannu, o ran eu barn, eu safbwyntiau a'u pryderon. Ac mae'n ddigon posibl mai mewn rhyw fath o gynulliad dinasyddion y bydd hynny, ond mae'n rhywbeth yr hoffwn i'r comisiwn ei hun gyflwyno cynigion yn ei gylch. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am ei diddordeb brwd yn y mater hwn ers misoedd a blynyddoedd lawer. Gallaf ei sicrhau y bydd y comisiwn yn edrych ar bob un o'r modelau trafnidiaeth sy'n bodoli, a'r holl ddata ar lif trafnidiaeth sydd gennym, gan gynnwys y data trafnidiaeth ar lif traffig trawsffiniol, er mwyn sicrhau ein bod yn cynhyrchu naill ai ateb neu set o atebion y gellir eu cyflawni yn y tymor byr, a rhai sy'n arwain hefyd wrth gwrs at newid ymddygiad a newid moddol yn fwy hirdymor.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Er fy mod yn cytuno â fy nghyd-Aelodau dros Ddwyrain Casnewydd a Gorllewin Casnewydd fod angen inni wario'r rhan fwyaf o'r arian o amgylch Casnewydd er mwyn lliniaru'r tagfeydd yno, onid yw'n bwysig hefyd i'r arbenigwyr trafnidiaeth hyn edrych yn fanwl ar y data sydd gennym? Er enghraifft, y ffaith bod cynnydd o bron i 40 y cant yn nifer y cerbydau sy'n defnyddio'r M4 i'r dwyrain o Gasnewydd o'i gymharu ag i'r gorllewin o Gasnewydd, sy'n awgrymu eu bod ar eu ffordd i Gaerdydd, a bod rhaid inni edrych ar y data ffonau symudol a data arall sydd ar gael i weld ble mae angen inni gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na cheir unigol?
A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau? Wrth gwrs, Caerdydd yw un o'r dinasoedd sy'n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Mae'n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono. Mae'n ddinas ddeniadol i bobl fuddsoddi ynddi, i weithio ynddi, i ddysgu ynddi, i fagu teuluoedd ynddi, ac rydym am sicrhau ei bod yn parhau'n ddinas ddeniadol i bobl ddod iddi. Yn yr un modd, dymunwn weld lleoedd eraill ar draws coridor yr M4 ac yn rhanbarth ehangach de-ddwyrain Cymru yn elwa ar seilwaith trafnidiaeth gwell a fydd yn eu galluogi i fod yn lleoedd mwy deniadol i fuddsoddi ynddynt, ac i fyw ynddynt ac i astudio ynddynt. Er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fuddsoddi mewn trafnidiaeth, rhaid i ni sicrhau yn yr un modd ei fod yn fforddiadwy a'n bod yn buddsoddi yn yr atebion trafnidiaeth cywir. Bydd defnyddio arbenigwyr ar ffurf arbenigwyr trafnidiaeth ac economegwyr yn y comisiwn hwn yn ein galluogi i wneud hynny.
Ond hoffwn roi nodyn o rybudd ynglŷn â data symudol. Wrth gwrs ein bod yn defnyddio data sy'n ein galluogi i ganfod o ble y daw traffig, i ble y mae'n mynd, a phwrpas y teithiau hynny lle bynnag y bo modd, ond mae cyfyngiadau cyfreithiol ar y data symudol y gallwn ei ddefnyddio. Gallaf sicrhau'r Aelod na fyddwn byth yn gweithredu'n anghyfreithlon.
Diolch i'r Gweinidog.