Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl hon heddiw i nodi pen blwydd nad oedd yr un ohonom am ei weld. Weinidog, rydych chi a'ch rhagflaenydd, y Prif Weinidog bellach, wedi llywyddu dros bedair blynedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Nid yn unig y mae'r bwrdd hwn wedi treulio'r pedair blynedd diwethaf o dan reolaeth eich Llywodraeth, ond fel y clywsom yn y datganiad ddoe, nid yw'n ymddangos ein bod yn agosach at allu dweud bod y bwrdd iechyd wedi gwella bellach ac yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith yn rhagor.