– Senedd Cymru ar 5 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Dwi'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM7058 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.
2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol.
3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o'r cyfle i agor y ddadl hon heddiw i nodi pen blwydd nad oedd yr un ohonom am ei weld. Weinidog, rydych chi a'ch rhagflaenydd, y Prif Weinidog bellach, wedi llywyddu dros bedair blynedd o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Nid yn unig y mae'r bwrdd hwn wedi treulio'r pedair blynedd diwethaf o dan reolaeth eich Llywodraeth, ond fel y clywsom yn y datganiad ddoe, nid yw'n ymddangos ein bod yn agosach at allu dweud bod y bwrdd iechyd wedi gwella bellach ac yn gallu sefyll ar ei draed ei hun unwaith yn rhagor.
Mae trigolion gogledd Cymru, dan ofal bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, wedi'u gwasgaru ar draws ardal enfawr o'r wlad, gan ffurfio 23 y cant o holl boblogaeth Cymru. Er gwaethaf ei faint, mae cleifion yn dioddef yr amseroedd aros damweiniau ac achosion brys gwaethaf yn y wlad, y nifer uchaf o ddigwyddiadau diogelwch cleifion a gofnodwyd a phrinder llesteiriol bron o feddygon teulu, bydwragedd a nyrsys cymunedol.
Nawr, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyflwyno'r ddadl hon ar wythnos y pedwerydd pen blwydd i beri mwy o ddigalondid i'r staff gweithgar sydd dan bwysau sylweddol, ond yn hytrach er mwyn ceisio cael atebion pendant ynglŷn â pha gynnydd a wnaed yn y pedair blynedd diwethaf, a gafodd gwersi eu dysgu, ac yn bwysicaf oll, a yw'r rhesymau a roddwyd dros y mesurau arbennig hyn wedi cael eu hateb.
Roedd y datganiad a ddarparodd y Gweinidog ddoe ar y pwnc hwn yn rhoi darlun llawer mwy cadarnhaol na realiti profiadau cleifion a'r hyn a glywn gan staff. Er fy mod yn derbyn bod rhai camau cadarnhaol wedi'u cymryd a bod gwelliannau wedi'u gwneud, roedd y datganiad ddoe i'w weld yn fwy addas ar gyfer bwrdd iechyd a oedd newydd gael ei wneud yn fwrdd a gynorthwyir, ac nid un a fu'n destun mesurau arbennig ers pedair blynedd—y cyfnod hwyaf y bu unrhyw fwrdd neu ymddiriedolaeth yn destun mesurau arbennig yn sgil pryderon ynghylch eu gwasanaethau, eu harweinyddiaeth a'u trefniadau llywodraethu mewn unrhyw ran o'r DU.
Rwyf am ailedrych ar 8 Mehefin 2015, bedair blynedd yn ôl, pan gafodd y bwrdd ei roi dan fesurau arbennig yn wreiddiol gan yr Ysgrifennydd iechyd ar y pryd a'i ddirprwy—y Gweinidog iechyd presennol. Roedd y datganiad ysgrifenedig, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol ar weithrediad y bwrdd: llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaeth y tu allan i oriau arferol; ac ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Roeddwn yn obeithiol y byddai'r datganiad ddoe yn rhoi atebion i'r pryderon cychwynnol hynny, ac efallai yn cydnabod ac yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd ar ran y Gweinidog iechyd nad yw'r rhesymau dros y mesurau arbennig wedi'u datrys o hyd. Yr hyn y mae pobl gogledd Cymru eisiau ei wybod mewn gwirionedd yw a yw eu bwrdd iechyd wedi troi'r gornel, ac o'r holl dystiolaeth sydd ar gael, Weinidog, yr ateb byr yw 'nac ydy'.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf gwelwyd 13 datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, tri ymchwiliad allanol, a miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi yn y bwrdd. Fe ddaeth gwasanaethau mamolaeth allan o fesurau arbennig yn 2018, ond dim ond ar ôl gwrthdroi'r penderfyniad i gau'r gwasanaethau a ddarperid yng Nglan Clwyd yng Ngorffennaf 2015, rhywbeth a lwyddodd i uno gwleidyddion o bob rhan o'r Siambr, o gofio ffolineb cynlluniau'r bwrdd iechyd, ac o ganlyniad, wrth gwrs, gwnaeth lawer o niwed i enw da'r bwrdd iechyd ymhlith y cyhoedd.
Mae gofal y tu allan i oriau arferol wedi dilyn y gwasanaethau mamolaeth, ac mae hyn i'w groesawu, er bod yn rhaid ichi gydnabod, Weinidog, nad yw gofal y tu allan i oriau arferol yn sefydlog o gofio'r prinder—prinder cronig—o feddygon teulu yng ngogledd Cymru. Ac mae'r meddygon teulu'n dweud hyn, nid dim ond fi.
Fodd bynnag, mae gwasanaethau iechyd meddwl a llywodraethu ariannol yn parhau i fod yn destunau mesurau arbennig, a nododd adroddiad gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fod tîm yr uwch reolwyr wedi cyfaddef na fyddai'r bwrdd ar daith wirioneddol drawsnewidiol erbyn 2020.
O ran y pumed rheswm dros fesurau arbennig—ailgysylltu â'r cyhoedd—mae'n anos o lawer barnu. O ystyried y blynyddoedd o sbin, dryswch ac ymarferion ymgynghori gwael, bydd y clwyfau'n cymryd llawer mwy na phedair blynedd i wella rhwng y bwrdd a'r cyhoedd. Fel y nododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus unwaith eto, mae gosod y bwrdd mewn mesurau arbennig wedi dod yn drefn arferol. Mae'r cynnydd yn annerbyniol o araf a phrin fu effaith ymarferol ymyrraeth Llywodraeth Cymru.
Weinidog, mae cynnydd wedi'i wneud mewn rhai agweddau ar fethiannau'r bwrdd iechyd hwn, ond mae rhai o'r materion gwreiddiol heb eu datrys o hyd. Yn eich datganiad ddoe, fe ddywedoch hyn, ac rwy'n dyfynnu:
'Canfuwyd o'r trosolwg mesurau arbennig, fodd bynnag, bod pryderon eraill drwy'r system gyfan o ran cyflawni'r cynnydd sydd ei angen ym maes cyllid, cynllunio a pherfformiad amser aros. Nid yw'r bwrdd iechyd wedi bodloni'r disgwyliadau a nodir yn y fframwaith yn y meysydd hyn.'
Felly, ar y naill law, dywedwch fod cynnydd wedi'i wneud, ond ar y llaw arall, mae problemau newydd yn codi'n gyflym, heb ddim atebion amlwg ar waith. Mae'n destun pryder ei bod wedi cymryd pedair blynedd gyfan i nodi'r materion a'r pryderon hyn.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelodau'n canolbwyntio ar rai o'r agweddau mwy penodol ar fethiannau rheoli'r bwrdd iechyd hwn, ond hoffwn droi fy sylw at sut beth yw mesurau arbennig neu ymyrraeth gan y Llywodraeth ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd a'r hyn y dylai fod. Oherwydd o dan eich stiwardiaeth, Weinidog, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn gweithio o dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Nawr, mae'n amlwg mai Betsi Cadwaladr sy'n cael y sylw mwyaf oherwydd hyd y cyfnod y bu'r drefn hon ar waith, ond ni ddylem anwybyddu'r hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r wlad.
Yr hyn nad yw'n glir i lawer y tu allan i'r Siambr hon yw beth sy'n digwydd pan fydd bwrdd iechyd yn cael ei roi o dan fesurau arbennig. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i nodi ac ymateb i faterion difrifol sy'n effeithio ar wasanaethau, ansawdd, diogelwch gofal ac effeithiolrwydd sefydliadol. Er nad yw hynny'n digwydd bob amser, gall camau gweithredu gynnwys lleoli arbenigwyr unigol allweddol neu bobl â phrofiad o sicrhau newid i ddarparu lleoliadau cymorth, camau gweithredu, cerrig milltir a fframwaith gwella. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn gallu atal neu ddiddymu pwerau a dyletswyddau aelodau o'r bwrdd iechyd, neu gyfarwyddo bwrdd iechyd i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni gan berson penodol.
Yn yr Alban, mae eu mesurau arbennig yn cwmpasu proses bum cam, yn amrywio o oruchwyliaeth i gynlluniau adfer ffurfiol, gyda'r sancsiwn eithaf, yng ngham 5, i Lywodraeth yr Alban ddiswyddo neu benodi uwch arweinwyr bwrdd, fel y gwnaethant yn ddewr iawn yn NHS Tayside yn 2018. Yn Lloegr, mae pum math o gam y gellir ei roi ar waith, yn amrywio o benodi cyfarwyddwyr gwella i gael gwared ar y rhyddid sydd gan rai ymddiriedolaethau sefydledig GIG o gymharu â sefydliadau eraill y GIG.
Dull arloesol yn Lloegr yw'r system gyfeillio, sy'n cydnabod y gall rhai ymddiriedolaethau mewn mesurau arbennig ddioddef yn sgil cael eu hynysu, felly mae'n hanfodol fod ymddiriedolaethau yn edrych tuag allan wrth iddynt geisio gwella eu hansawdd. Cyflwynwyd hyn yn gyntaf yn 2013 ac mae'n cydnabod sut y gall ymddiriedolaethau ddeall sut y mae ymddiriedolaethau eraill yn mynd ati i weithredu. Gallant ddysgu, gallant feincnodi, ac mae gwelliannau o ansawdd wedi digwydd. Mae cyfeillio ag ymddiriedolaeth arall wedi bod yn werthfawr iawn yn aml, ond mae angen ymrwymiad gan y ddwy ochr. Mae'n helpu i ddiffinio'r cylch gorchwyl penodol ar gyfer y berthynas, er enghraifft meysydd clinigol neu arbenigedd penodol.
Ceir nifer o astudiaethau achos y buaswn wrth fy modd yn eu dwyn i'ch sylw sy'n dangos arferion gorau, oherwydd mae'r amser a gymerodd i gyflwyno rhai o'r mesurau hyn yn gwneud i mi sylweddoli nad ydych wedi mynd allan ac wedi edrych ar yr arferion gorau ledled y DU. Rwyf am dynnu sylw at un achos, ysbyty Wexham Park yn Slough, lle nodwyd problemau yn 2014. Disgrifiodd y Comisiwn Ansawdd Gofal ddiwylliant o 'ddiymadferthedd a ddysgwyd', a chredaf y gallwn ddweud bod hynny'n swnio'n debyg iawn i Betsi Cadwaladr, a gwnaed newid hyn yn flaenoriaeth i'r tîm arweinyddiaeth newydd. Roedd y ffocws ar roi'r cleifion wrth wraidd popeth, gan ofyn i'r staff eu trin fel pe baent yn aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Roedd golwg allanol ar yr hyn a edrychai'n dda yn helpu i newid a herio ymddygiad gwreiddiedig, gan alluogi'r ysbyty i wneud newid sylweddol i'r diwylliant mewn cyfnod cymharol fyr.
Nid wyf yn dweud bod yr holl atebion ar draws y ffin, ond rwyf am sicrhau, Weinidog, eich bod yn edrych ar yr arfer gorau sydd ar gael i gydnabod bod systemau eraill ar waith. Rwyf hefyd yn deall na allem gyfeillio yng Nghymru gan mai dim ond dau fwrdd iechyd a fyddai gennym a byddent yn chwalu o dan bwysau'r pump. Ond gallem ofyn i'r Alban a gallem ofyn i Loegr am eu cyngor a'u cefnogaeth.
Ddoe, yn eich datganiad, roeddech yn cydnabod bod angen tîm trawsnewid, ac mae hwn yn bwynt a wneuthum dro ar ôl tro. Rwy'n cydnabod eich bod o'r diwedd wedi penderfynu cynnwys PricewaterhouseCoopers er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau ariannol sylweddol, ac unwaith eto, rwy'n cymeradwyo hyn. Ond pam y mae wedi cymryd cymaint o amser—pedair blynedd?
Nid fy mwriad yw dweud wrthych pa mor ofnadwy oedd y broses gyfan hon yn fy marn i: rwyf am roi rhywfaint o gymorth i chi hefyd. Dyma fyddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud: byddem yn gofyn am gymorth gan reolwyr newid profiadol sy'n gweithio yn y GIG ledled y DU i helpu i yrru'r newidiadau hynny yn eu blaen. Byddem yn gweithredu digwyddiadau ymgynghori a sesiynau adborth cadarn ac annibynnol i ymgysylltu â staff a'u grymuso, er mwyn eu helpu i nodi meysydd sy'n peri pryder yn rhydd o bwysau allanol. Byddem yn pwysleisio'r meysydd sydd wedi dangos methiannau mor ddinistriol o ran perfformiad ac yn rhoi cymorth a chyllid rheoli o ddydd i ddydd er mwyn iddynt wella.
Byddem yn ystyried rhesymoli'r strwythur rheoli, datganoli'r pŵer i'r lefelau rheoli is fel y gellir gwneud penderfyniadau'n gyflym, a gellir annog egin addewid i dyfu wrth i bobl deimlo y cânt eu grymuso i wneud y gwahaniaeth sydd cymaint o'i angen. A byddem hefyd yn gwneud rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru i'w weld mor amharod i'w wneud mewn cymaint o fyrddau iechyd—byddem yn adolygu cymhwysedd a sgiliau craidd uwch reolwyr er mwyn sicrhau bod y bobl iawn yn y swyddi cywir.
Weinidog, hoffwn gloi fy nghyfraniad—. Siambr, hoffwn gloi fy nghyfraniad gydag un ystyriaeth. Mae'n dorcalonnus cofio bod y bwrdd iechyd hwn sy'n ei chael hi mor anodd wedi ei enwi ar ôl Betsi Cadwaladr, nyrs enwog a fu'n trin milwyr clwyfedig rhyfel y Crimea. Fe'i ganwyd hi yng ngogledd Cymru, a llwyddodd ei dewrder ar feysydd y gad mewn rhannau pell o'r byd i ysbrydoli gweledigaeth ynghylch darpariaeth iechyd i bobl ei mamwlad. Er cof amdani, rwy'n gobeithio na fydd yn hir cyn y gellir anrhydeddu ysbryd ei gwaddol yn iawn unwaith eto. Mae staff y bwrdd iechyd yn meddu ar yr ysbryd hwn. Y cyfan sydd ei angen arnynt yw'r arweinyddiaeth i ryddhau eu potensial yn llawn. Drwy arweiniad priodol, sy'n benthyg ychydig o ddewrder enwog Betsi, efallai y gellir adfer yr adnodd hanfodol hwn eto i bobl gogledd Cymru. Ac os nad ydych chi'n gallu dangos y dewrder i ddarparu'r arweinyddiaeth hon, Weinidog, rhowch gyfle i rywun sy'n gallu gwneud hynny.
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.
Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Yn ffurfiol.
I fwy na 154,000 o bobl yn Sir y Fflint a thros 675,000 o bobl ar draws gogledd Cymru, mae bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn darparu llawdriniaethau sy'n achub bywydau, yn gofalu am ein pobl fwyaf bregus a'n henoed, yn cefnogi ein ffrindiau a'n teuluoedd drwy drawma marwolaeth, a hefyd yn cynorthwyo mamau a thadau i ddod â bywyd newydd i'r byd hwn. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy gydnabod hynny a diolch i bob aelod o staff y GIG ledled Cymru, ar draws y DU, am eu gwaith a'r arweiniad y maent yn ei ddangos yn eu cymunedau, yn ogystal â'r rhan y maent yn ei chwarae yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Rwy'n gwybod, fel y bydd Aelodau eraill ar draws y Siambr hon sy'n cynrychioli gogledd Cymru yn gwybod, fod y gofal a gaiff llawer o'n hetholwyr gan y bwrdd iechyd gystal â'r gorau. Pan fyddaf yn siarad â chleifion a fy etholwyr fy hun, mae llawer yn dweud wrthyf eu bod wedi cael gofal rhagorol ac yn sôn am broffesiynoldeb y staff. Ond mae gennyf ormod hefyd sy'n troi ataf am help ar ôl cael eu siomi. Yn gyntaf, rwy'n credu bod y bwrdd iechyd wedi gwneud peth cynnydd cadarnhaol iawn drwy gydnabod y risgiau i'w berfformiad, sef y methiant i gynnal ansawdd gwasanaethau i gleifion, cynnal cynaliadwyedd ariannol, datblygu cynlluniau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn ehangach.
Pan fydd etholwyr yn cysylltu â mi, yn amlach na pheidio mae'n ymwneud â meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwasanaethau gofal sylfaenol, gwasanaethau iechyd meddwl ac amseroedd ymateb ambiwlansys. Felly, gan gyffwrdd yn fyr â gofal sylfaenol, gwn fod y problemau'n cael eu cydnabod yn fy etholaeth a bod angen gwneud mwy i sicrhau gweithlu gofal sylfaenol cynaliadwy. Yn yr un modd, o ran meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, gwn fod buddsoddiad sylweddol wedi'i wneud a bod perfformiad yn gymharol dda o edrych arno gyda gweddill Cymru, ond bydd Aelodau gogledd Cymru hefyd yn gwybod bod sawl her yn parhau o ran y gweithlu, perfformiad, rheoli risg a chyllido gwasanaethau o'r fath.
Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod fy mod wedi siarad llawer am dechnoleg newydd a sut y gall hynny gynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu'n wirioneddol, os ydym yn ddigon dewr, fod Betsi Cadwaladr mewn sefyllfa dda i arwain ar y dechnoleg newydd, ac y bydd yn elwa o wneud hynny, boed drwy adael iddynt arwain ar dreialon technolegol penodol neu drwy ddefnyddio mwy o wasanaethau ar-lein i leihau'r pwysau yn y gwasanaethau meddyg teulu.
Ar iechyd meddwl, sydd, wrth gwrs, yn un o'r materion mwyaf personol i mi, gwn beth yw maint sylweddol yr her barhaus i wella'r gwasanaethau hynny ar draws gogledd Cymru. Bydd y Gweinidog yn gwybod, ers imi gael fy ethol, fy mod wedi cael llawer o waith achos ar iechyd meddwl, ac edrychaf ymlaen yn arbennig at ei ateb i fy ymholiad diweddar ar argaeledd therapi ymddygiad dialectig yng ngogledd Cymru, rhywbeth a fydd o gymorth i lawer o fy etholwyr.
Yn olaf, ar fater cyfansoddiad y bwrdd iechyd fel y mae—oherwydd gwn fod hwn yn bwnc trafod dadleuol yn y gorffennol, ond o'r ohebiaeth rwy'n dal i'w chael a'r cyfarfodydd a gefais, credaf y byddai'n anghywir rhoi'r gorau'n llwyr i'r syniad o ad-drefnu Betsi Cadwaladr. I mi, mae angen i unrhyw newid bwyso a mesur y dystiolaeth—nid tystiolaeth wleidyddol, ond y dystiolaeth glinigol, ac wedi'i harwain gan weithwyr proffesiynol. Ar yr un pryd, mae angen i ni wneud yn siŵr na fyddai unrhyw newidiadau o'r fath yn arwain at ganlyniadau anfwriadol neu'n effeithio ar yr anawsterau y mae eisoes yn eu hwynebu. Yn y pen draw, rhaid inni ganolbwyntio ar sicrhau bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig ac yn adennill hyder y rhai sy'n teimlo eu bod wedi cael cam.
Rwyf am orffen fy nghyfraniad gyda hyn, Ddirprwy Lywydd, ond rwyf hefyd yn awyddus iawn i sicrhau bod cleifion ar draws gogledd Cymru, yn enwedig fy etholwyr, yn parhau i allu cael gwasanaethau trawsffiniol, yn union fel rydym ni'n falch o groesawu cleifion o Loegr i Gymru. Ond hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddweud diolch am ddod â phawb at ei gilydd, oherwydd ni ddylem fod yn defnyddio'r gwasanaeth iechyd a dadleuon am y gwasanaeth iechyd fel pêl wleidyddol, ond dylem siarad yn agored ac yn onest am y materion hyn gan barchu staff gweithgar y GIG. Dyna'r ffordd rwy'n gweld newid a dyma'r ffordd y mae angen i bob un ohonom weld newid. Diolch.
A gaf fi fynegi fy niolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Nid yw hon, fel y dywedodd Angela Burns, yn sefyllfa y byddai unrhyw un ohonom yn dymuno bod ynddi ein hunain, ac mae'n effeithio, wrth gwrs, yn uniongyrchol iawn ar lawer iawn o fy etholwyr yng ngorllewin ardal Betsi Cadwaladr.
Rwy'n pryderu'n fawr ein bod yn cael llawer o hunanfodlonrwydd gan y Gweinidog hwn, a llawer o 'bydd popeth yn iawn'. Rwyf wedi bod yn edrych yn ôl drwy'r adroddiadau chwe misol—maent yn llawn o haeriadau ac nid ydynt yn llawn iawn o dystiolaeth. Ac rwyf am dynnu sylw—yn fyr iawn—at nifer o'r materion y ceir tystiolaeth gyhoeddus yn eu cylch. Nid yw amseroedd aros wedi gwella ers cyflwyno mesurau arbennig ac nid ydynt ond wedi dangos gwelliannau ar ddechrau 2018, pan gafodd sylw fel problem yn y Cyfarfod Llawn unwaith eto. Mae'r system damweiniau ac achosion brys yn gyson yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru o hyd, ac mae perfformiad dau ysbyty sy'n perfformio'n wael yn tynnu oddi ar berfformiad ysbyty da. Mae amseroedd aros canser yn dangos, ar ddechrau mesurau arbennig, fod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr mewn gwirionedd yn perfformio'n well na chyfartaledd Cymru a'i fod bellach yn perfformio'n waeth na chyfartaledd Cymru a bod gostyngiad o 5 y cant yn nifer y meddygon teulu yn ardal Betsi Cadwaladr dros amser, er fy mod yn derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ddoe ynghylch rhoi gwasanaethau amgen a gyflogir yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd lleol ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny. Nawr, ymddengys bod y Gweinidog yn mynegi rhywfaint o amheuaeth ynglŷn â hyn, ond rwy'n seilio hyn ar ffigurau sydd ar gael i'r cyhoedd, ac os oes ganddo ffigurau eraill sydd ar gael i'r cyhoedd sy'n dweud rhywbeth arall wrthym—ffigurau eraill nad ydynt ar gael ar gyfer y cyhoedd—rwy'n ei annog i'w datgelu'n gyhoeddus er mwyn inni allu gweld ble mae'r cynnydd honedig a phwy sy'n ei gyflawni.
Ar ôl pedair blynedd, mae angen inni weld bod y Gweinidog hwn yn deall yn iawn pam ei fod yn credu bod sicrhau newid ym mwrdd Betsi Cadwaladr wedi bod mor anodd. Pam y mae mor ddi-ildio? Beth sy'n mynd o'i le yno? Nawr, pe bawn yn clywed gan y Gweinidog heddiw, 'Dyma'r problemau rwy'n eu hwynebu', 'Dyma'r pethau na allaf eu newid', 'Dyma'r pethau sydd eu hangen arnom i sicrhau consensws gwleidyddol, efallai, er mwyn cyflawni a newid', fi fyddai'r person cyntaf i achub ei gam, gan fod Jack Sargeant, wrth gwrs, yn llygad ei le pan ddywed nad oes neb am chwarae unrhyw fath o gêm wleidyddol gyda'r GIG, ond y realiti, wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, yw bod materion sy'n ymwneud â'r GIG yn wleidyddol iawn: mae'r modd yr ariennir y GIG, y modd y caiff ei reoli, yn wleidyddol iawn, ac yma, yng Nghymru, rydym wedi sefydlu—deddfwyd yn 2009 ar gyfer system a oedd yn atebol i'r Gweinidog. Rwy'n cofio'r Gweinidog ar y pryd, Edwina Hart, yn dweud bod angen i'r penderfyniadau ynglŷn ag iechyd yng Nghymru gael eu gwneud gan y bobl y gall y bobl eu diswyddo. Nawr, ar y pryd, roedd llefarydd y Ceidwadwyr, Jonathan Morgan, o'r farn y dylem barhau i goleddu ymagwedd lai gweithredol. Nid dyna oedd y penderfyniad a wnaeth y lle hwn. Mae'n safbwynt cwbl barchus; nid un a rannwn ar y pryd. Felly, mae'r Gweinidog yn amlwg yn gwbl atebol am hyn, ac mae angen iddo egluro wrthym pam nad yw pethau wedi symud ymlaen.
Nawr, wrth gwrs fod rhywfaint o welliant wedi bod; pe baech wedi gadael y system yn gyfan gwbl ar ei phen ei hun am bedair blynedd heb wneud unrhyw beth o gwbl byddai rhai pobl dda mewn rhai sefyllfaoedd da wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid cadarnhaol. Ac wrth gwrs, fel y mae eraill wedi'i ddweud, a rhaid inni gydnabod hyn, ar draws y system honno—a chlywaf hyn bob wythnos gan etholwyr—mae pobl wirioneddol dda ar y rheng flaen sy'n gweithio'n galed iawn. Ceir rhai rheolwyr rheng flaen da iawn hefyd sy'n gwneud pethau arloesol, er enghraifft cydweithredu â gwasanaethau cymdeithasol yng Ngwynedd. Ond ar frig y bwrdd iechyd, mae'n amlwg fod rhywbeth mawr o'i le, ac rwy'n credu bod problem ddiwylliannol yn bodoli.
Tybed faint o ymrwymiad sydd gan yr uwch arweinwyr yn y bwrdd iechyd hwnnw i sicrhau newid. Nawr, mae'n peri pryder i mi nad yw chwech o'r bobl sy'n arwain y bwrdd iechyd—nid ar ochr y bwrdd, ond yn broffesiynol—yn byw yn y wlad hon hyd yn oed, heb sôn am yr ardal y maent yn ei gwasanaethu. Nawr, yn amlwg, ni fyddech am ddechrau gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail ble maent yn byw, ond pan fo gennych ganran mor uchel o'ch tîm rheoli nad effeithir ar eu teuluoedd, ar eu plant, ar eu cymdogion yn uniongyrchol gan y penderfyniadau a wnânt, rwy'n credu ei bod hi'n bosibl fod gennych broblem. Yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, yn aml iawn arferem benodi uwch arweinwyr—rwy'n meddwl yn arbennig am brif weithredwyr awdurdodau lleol—ar y sail, 'Rydym yn eich croesawu o ble bynnag y dewch, ond disgwyliwn i chi ddod yma, disgwyliwn i chi fyw yma, disgwyliwn i chi fuddsoddi yn y gymuned hon'. Ac mae Betsi Cadwaladr yn llawn o uwch arweinwyr nad ydynt wedi gwneud hynny.
Pan ofynnais i'r Gweinidog ddoe a oedd yn credu bod yr uwch arweinwyr yn deall y cymunedau yr oeddent yn eu gwasanaethu, cefais fy siomi'n ddirfawr pan wfftiodd at hynny fel pryder. Ond mae'n ymddangos i fy etholwyr i ac etholwyr cyd-Aelodau eraill fod y penderfyniadau'n cael eu gwneud gan bobl nad ydynt yn deall natur y cymunedau, nad ydynt yn deall y ddaearyddiaeth, ac efallai fod hynny'n rhywbeth sydd wrth wraidd hyn oll.
Rwy'n gweld bod fy amser ar ben, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf am ddirwyn fy sylwadau i ben. Ond hoffwn gysylltu fy hun â'r hyn sydd eisoes wedi'i ddweud am yr angen i gael safonau perfformiad ar gyfer rheolwyr, i gael cymwyseddau craidd, i gael cofrestr ar gyfer rheolwyr y GIG y gellir eu tynnu oddi arni, fel y gellir ei wneud i feddygon a nyrsys os nad ydynt yn cyflawni, oherwydd rwy'n credu bod hon yn broblem ddiwylliannol ar draws ein GIG. Rhaid i'r Gweinidog ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn. Os oes arno eisiau ein help, gall ei gael yn sicr, ond fel y mae, mae'n diystyru ein pryder ac nid yw hynny'n ddigon da.
Mae Llafur, 'plaid y GIG' fel y mae'n galw ei hun, yn gyfrifol am saith bwrdd iechyd yn unig yng Nghymru, ac mae'n gywilyddus fod pump o'r rhain mewn mesurau arbennig o ryw fath. Ni fydd y mwyaf o'r rhain, sy'n gwasanaethu tua miliwn o bobl, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru, yn dathlu'r ffaith y bydd hi'n bedair blynedd ddydd Sadwrn nesaf ers iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig. Y Gweinidog presennol sydd wedi bod â goruchwyliaeth ar y trefniadau mesurau arbennig hyn. Nid oes yr un Prif Weinidog Ceidwadol erioed wedi torri cyllideb y GIG. O dan Lafur, fodd bynnag, Cymru oedd yr unig wlad yn y DU i weld gostyngiad mewn termau real yn y gwariant adnabyddadwy ar iechyd rhwng 2010 a 2016.
Gwnaed Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig wedi i adroddiadau erchyll ddod yn hysbys am ward iechyd meddwl Tawel Fan. Roedd Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden—neu mae wedi methu gwrando ar rybuddion adolygiad Ockenden ar hyn, ac yn gyson mae wedi anwybyddu pryderon y teuluoedd dan sylw. Efallai ei bod wedi cyfarfod â hwy—mae wedi parhau i'w hanwybyddu. Yn hytrach, dibynnai Llywodraeth Cymru ar adolygiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2018, a ddisgrifiwyd gan y teuluoedd fel ymgais i guddio'r gwir.
Ym mis Ionawr, dywedodd Donna Ockenden nad oedd wedi gweld digon o gynnydd ar wella gwasanaethau iechyd meddwl a datgelodd fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Cafodd ei hadolygiad yn 2018 glywed dro ar ôl tro, ers sefydlu'r bwrdd iechyd ym mis Hydref 2009, fod achos pryder sylweddol iawn ynghylch y systemau, y strwythurau a'r prosesau llywodraethu sy'n sail i ystod o wasanaethau a ddarperir gan Betsi Cadwaladr.
Wrth siarad yma ym mis Mai y llynedd, gofynnais i'r Gweinidog iechyd pam nad oedd casgliadau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gomisiynwyd gan Betsi Cadwaladr, yn cydfynd â chanfyddiadau adroddiad 2015 Donna Ockenden, adroddiad yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i dderbyn, neu gydag adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, neu waith mapio gofal dementia, ill dau yn 2013, y flwyddyn y mae'r bwrdd iechyd yn datgan iddo gael ei rybuddio am bryderon difrifol ynglŷn â gofal cleifion ar ward Tawel Fan. Yn wir, roeddwn wedi tynnu eu sylw hwy a Llywodraeth Cymru at bryderon yn 2009.
Er bod staff y rheng flaen yn gweithio'n eithriadol o galed, y mis diwethaf canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y bwrdd heb gael 'fawr o effaith ymarferol'. Dywedodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ei fod yn cytuno'n llwyr ag argymhellion yr adroddiad a chyfeiriodd at lythyr a anfonwyd at y Gweinidog iechyd lle mae'n nodi bod ei aelodau'n credu bod y drefn mesurau arbennig bellach yn drefn arferol ac yn ymddangos fel pe bai wedi colli ei heffaith. Nid yw targed damweiniau ac achosion brys Llywodraeth Cymru i weld 95 y cant o gleifion o fewn pedair awr, sydd ar waith ers 2008, erioed wedi cael ei gyrraedd. Felly, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o hyd. Dim ond hanner ei gleifion a welwyd o fewn pedair awr gan adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ym mis Ionawr, dywedodd crwner gogledd Cymru, John Gittins, fod oedi yn y gwasanaeth ambiwlans, prinder staff a'r anhawster i sicrhau gofal damweiniau ac achosion brys yn gyflym wedi cyfrannu at farwolaethau niferus ac mae'n bosibl y gallai achosi mwy o farwolaethau. Y mis diwethaf, dywedodd meddyg ymgynghorol uwch, Ian Smith, wrth gwest y crwner i farwolaeth Megan Lloyd-Williams yn Ysbyty Glan Clwyd ei bod hi'n ddwy flynedd a mwy ers iddo dynnu sylw at fwlch mewn gofal a thriniaeth i'r henoed mewn gwrandawiad tebyg, ond nid oedd dim wedi newid, er cael sicrwydd fod gwelliannau wedi cael eu gwneud. Mae hynny'n swnio mor gyfarwydd. Yn dilyn y cwest hwnnw, rhoddodd y crwner tan ddiwedd y flwyddyn hon i'r bwrdd iechyd wneud gwelliannau i'w ofal orthopedig.
Ym mis Mawrth, ysgrifennodd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru at y Gweinidog yn mynegi eu siom ynglŷn ag ymateb Llywodraeth Cymru i bapur opsiynau ar restr perfformwyr meddygon teulu GIG Cymru, gan ddweud bod yr anawsterau yng ngogledd Cymru wedi bod yn bresennol ac yn cynyddu ers o leiaf bum mlynedd. Nid oes unrhyw amheuaeth na fydd yr anawsterau i recriwtio a chadw staff yn parhau. Ychwanegasant nad oedd y ffyrdd eraill y ceisiodd Betsi Cadwaladr eu defnyddio i fynd i'r afael â'r broblem recriwtio mor llwyddiannus ag yr adroddwyd. Bellach maent yn gweithio gyda chynghorau iechyd cymuned ledled Cymru i adolygu profiadau pobl sy'n gorfod aros yn rhy hir yn yr ysbyty pan fyddant yn ddigon iach i adael. A oes unrhyw syndod, felly, fod y Llywodraeth Lafur groendenau hon yn awr yn ceisio gosod corff canolog y gallant ei reoli yn lle cynghorau iechyd cymuned?
Y mis diwethaf yn unig, dywedodd Coleg Brenhinol y Meddygon mai dim ond 43 y cant o swyddi meddygon ymgynghorol a hysbysebwyd yng ngogledd Cymru a gafodd eu llenwi y llynedd. Mae'r datganiadau a wnaeth y Gweinidog iechyd dro ar ôl tro ei fod yn disgwyl gweld gweithredu—fe'u clywsom heddiw, fe'u clywsom bedair gwaith ddoe—yn wag. Mae angen iddo dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu cyflawni'r gwelliannau gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac ymddiswyddo'n anrhydeddus.
Fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mesur dros dro oedd y mesur o roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig i fod. Bedair blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, maen nhw dal yno. Gallaf ddweud wrthych chi, Gweinidog, dyw trigolion gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried y mesur yna fel rhywbeth dros dro, a dyw pobl gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried mesurau arbennig yn rhywbeth arbennig o gwbl, oherwydd, fel mae Cyngor Iechyd Cymunedol Gogledd Cymru wedi'i ddweud, mae'r mesurau arbennig erbyn hyn yn normal newydd yng ngogledd Cymru.
Mae'r cyngor iechyd yn credu, a dwi'n cytuno gyda nhw, fod rheolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru o'r bwrdd wedi colli ei effaith. Mae yna ddiffyg hyder ymhlith trigolion y gogledd ynglŷn â'r modd y mae'r Llywodraeth yn ceisio delio â'r sefyllfa yma, ac, yn wir, o ganlyniad i hynny, yng ngallu'r bwrdd iechyd i ddarparu'r gofal y mae'r cyhoedd yn y gogledd yn dymuno ei weld, yn disgwyl ei weld, ac sydd â hawl i'w dderbyn.
Nawr, mae'r normal newydd yma, wrth gwrs, yn cynrychioli argyfwng ariannol parhaus, mae'n cynrychioli problemau recriwtio, methiant i gynllunio'n hirdymor, yn enwedig o safbwynt y gweithlu, gwasanaethau meddygon teulu'n chwalu, gorddibyniaeth ar staff locwm ac asiantaeth, a methiant, wrth gwrs, i ddelio â chwynion mewn modd amserol neu briodol. Yn gynyddol, hefyd—ac mae hwn yn rhywbeth dwi wedi codi fan hyn yn flaenorol—mae yna fwy a mwy o ymwneud y sector breifat â gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru. Dwi wedi codi o'r blaen yr ymgyrch i atal preifateiddio agweddau o'r gwasanaeth dialysis yn Wrecsam ac yn y Trallwng, gan gynnwys trosglwyddo staff o'r gwasanaeth iechyd cenedlaethol i'r sector breifat, a nawr, wrth gwrs, rŷm ni'n wynebu preifateiddio gwasanaethau fferyllfeydd mewn ysbytai cyffredinol ar draws y gogledd.
Mae pobl yn cwyno bod Donald Trump yn mynd i fod yn fygythiad i breifateiddio elfennau o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru—wel, efallai, weithiau, mae'n rhaid inni edrych yn agosach i adref pan fo'n dod i'r agenda yna. Dwi yn gobeithio bydd gan y Llywodraeth a'r Gweinidog y gonestrwydd a'r gras, pan fyddan nhw, yn y dyfodol, yn condemnio preifateiddio cynyddol, neu breifateiddio'r gwasanaethau iechyd yn Lloegr, i fod yn ymwybodol o'r hyn sydd yn digwydd ar eu watsh nhw o safbwynt gwasanaethau cyffelyb yng Nghymru.
Nawr, dwi'n mynd i gyfeirio at achos un etholwraig i fi sydd yn wraig 90 oed yn byw yn sir y Fflint. Mi aeth hi i'r ysbyty yn ddiweddar iawn ar ôl cwympo yn yr ardd. Mae hi bellach yn ddigon da i fynd adref, ond mae angen peth cymorth arni o gael mynd adref. Mae ei theulu, yn amlwg, eisiau iddi ddod adref i'w chartref ar ôl bod 10 diwrnod bellach yn Ysbyty Glan Clwyd ac, yn fwy diweddar, yn Ysbyty Cymuned Treffynnon, ond does yna ddim pecynnau gofal cartref ar gael er mwyn caniatáu iddi wneud hynny. Mae'r teulu felly'n wynebu cyfyng-gyngor: a ydyn nhw yn ei gadael hi yn yr ysbyty cymunedol lle mae hi'n amlwg yn mynd yn isel ei hysbryd, neu a ydyn nhw'n talu am becyn gofal preifat—dyma ni'r sector breifat eto—sy'n costio cyfanswm o £210 yr wythnos?
Dwi'n tynnu sylw at hyn oherwydd nôl yn 2012, fe gyflwynodd Betsi Cadwaladr becynnau gofal ychwanegol yn y cartref—home enhanced care—rwy'n siŵr y byddwch chi i gyd yn cofio'r HECs, i roi'r acronym. Y bwriad oedd helpu i symud pobl allan o'r ysbytai ac yn ôl i'r gymuned, a'r broliant a wnaed bryd hynny oedd y byddai cleifion yn gallu gweld consultants yn eu cartrefi a byddai hynny'n cymryd lle, wedyn, yr ysbytai cymunedol a oedd yn cael eu cau ar draws y gogledd fel rhan o ailstrwythuro radical a chanoli gwasanaethau ar draws y gogledd. Ond y gwir amdani yw nad yw hyd yn oed gweithwyr cymorth yn gallu ymweld â'r cleifion yn eu cartrefi erbyn hyn, heb sôn am unrhyw un arall. Mae yna ormod o alw am y gwasanaeth a dydyn nhw ddim yn medru ateb y galw yna.
Nawr, nid staff y front line sydd ar fai fan hyn. Fel rŷm ni wedi clywed, maen nhw'n gwneud eu gorau glas er gwaethaf yr amgylchiadau a'r anawsterau. Y drwg yn y caws, dwi'n ofni, yw'r uwch-swyddogion sydd wedi gwneud y penderfyniadau gwael a gwallus yna sydd wedi arwain at y bwrdd yn cyrraedd y pwynt lle mae e, ac sydd wedi arwain at y mesurau arbennig yma. Ac, wrth gwrs, mae un ohonyn nhw wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am droi'r bwrdd o gwmpas, sydd yn codi cwestiynau pellach.
Ond, yn wahanol i ddoctoriaid a nyrsys sy'n gwneud camgymeriadau yn eu gwaith ar adegau, does dim modd i reolwyr byrddau iechyd wynebu cael eu hel o'u proffesiwn. Os ydyw e'n iawn i feddygon a nyrsys gael eu taro oddi ar y gofrestr—rŷm ni wedi dweud fel plaid ers blynyddoedd mawr mi ddylai fod hynny'n wir am brif reolwyr hefyd. Yn y gogledd, rŷm ni wedi bod trwy dri phrif weithredwr, tri chadeirydd ac mae yna deimlad o symud y deckchairs tra bo'r llong yn suddo. Yr un peth cyson, wrth gwrs, gydol y cyfnod yna yw'r ffaith mai chi yn flaenorol fel Dirprwy Weinidog oedd yn gyfrifol am redeg dydd i ddydd y gwasanaeth iechyd a'r sefyllfa ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Ac felly, yn lle newid cadeiryddion a phrif weithredwyr, onid y gwir yw mai chi yw'r un ddylai fynd?
Dylai gofalu am iechyd a lles poblogaeth gogledd Cymru fod yn nod a phwrpas sylfaenol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac rwy'n dyst i'r ffaith, o ran y staff rheng flaen, eu bod yn gweithio'n galed bob dydd gyda'u calonnau a'u meddyliau, yn ceisio cyflawni yn union hynny. Bedair blynedd yn ôl, fodd bynnag, rhoddwyd y bwrdd mewn mesurau arbennig o ganlyniad i fethiannau sylweddol. Ar 8 Mehefin 2015, datganodd ein Prif Weinidog erbyn hyn fod y penderfyniad arwyddocaol hwn yn adlewyrchu pryderon difrifol ac eithriadol am arweinyddiaeth, trefniadau llywodraethu a chynnydd yn y bwrdd iechyd dros beth amser ac y byddai asesiad trwyadl a chytbwys yn digwydd ar feysydd a oedd yn peri pryder er mwyn ffurfio sail i'r camau gweithredu a oedd i'w cymryd o ganlyniad i'r mesurau arbennig hynny.
Rydych chi, Weinidog, wedi llywio'r camau hynny o'ch cyfnod fel Dirprwy Weinidog a'ch datganiad ar 14 Gorffennaf yn 2015 hyd at y ddadl hon heddiw. Bron i 48 mis yw'r cyfnod hwyaf y mae unrhyw sefydliad wedi bod mewn mesurau arbennig yn hanes y GIG. Mae'n ddwbl yr amser yr honnai Vaughan Gething AC yn wreiddiol y byddai'n ei gymryd. Felly, ar ôl 1,460 diwrnod o'ch rheolaeth uniongyrchol, buaswn i a llawer o fy etholwyr a llawer o Aelodau yma heddiw yn y Siambr wedi disgwyl i'r bwrdd iechyd fod yn ôl mewn cyflwr da.
Fodd bynnag, ar ôl 13 o ddatganiadau ysgrifenedig a thri ymchwiliad allanol, mae'r sefyllfa heddiw'n ddychrynllyd o hyd. Mae gwasanaethau iechyd meddwl gogledd Cymru yn dal i fod heb eu hisgyfeirio, ac maent yn ymddangos yn bell iawn o gyrraedd y pwynt hwnnw. Yn frawychus, mae Donna Ockenden wedi dweud nad yw wedi gweld digon o gynnydd, a datgelwyd bod staff yn credu bod y gwasanaethau iechyd meddwl yn mynd tuag yn ôl. Y mis diwethaf yn unig, amlinellodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—a diolch i'r Cadeirydd a'i dîm am hyn—bryderon allweddol ynghylch darparu gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd, gan gynnwys rhyddhau adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ansensitif, adroddiad a oedd yn gwneud cam â theuluoedd cleifion Tawel Fan, cynnydd annigonol ar weithredu argymhellion adroddiad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac adroddiad Ockenden, diffyg ymgysylltu â Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru a gohebiaeth gan staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, lle maent hwy, y rheng flaen, yn egluro bod staffio'n waeth, eu bod wedi ymlâdd, ac nad ydynt yn disgwyl newid cadarnhaol yn y dyfodol rhagweladwy. Weinidog, dylech chi—mae'n flin gennyf—fod â chywilydd ynglŷn â'r casgliadau hyn, a'r ffaith bod cynnig Donna Ockenden i helpu—eich bod wedi ei wrthod.
A dweud y gwir, rydych wedi llywyddu dros ddatblygiad meigryn ariannol hefyd. Mae bwrdd Betsi Cadwaladr newydd gofnodi'r diffyg mwyaf o blith holl fyrddau iechyd Cymru ar ddiwedd 2018-19—yr unig fwrdd i gynyddu ei ddyledion yn y cyfnod hwn—ac nid yw ond wedi llwyddo i gyrraedd 85 y cant o'i darged arbedion erbyn mis Mawrth. Mae'n ymddangos bod y cyfrifon ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cynyddu y tu hwnt i reolaeth, gyda phwysau mawr o bob cyfeiriad: gwariwyd £900,000 ar wyth achos cyfreithiol ym maes iechyd, mae Caerdydd yn mynnu bod y bwrdd yn ad-dalu £1 filiwn am fethu cyrraedd targedau amseroedd aros, ac arweiniodd prinder o staff rheng flaen at wario £34 miliwn ar staff asiantaeth yn 2017-18. Yn amlwg, mae gan y bwrdd iechyd welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd er gwaethaf mesurau arbennig.
Mae rheolaeth wael y Gweinidog yn effeithio'n negyddol ar staff, ac rwy'n deall o le da fod eich ymyrraeth yn achosi rhai o'r problemau a geir yno yn awr mewn gwirionedd. Dangosir hynny gan y ffaith bod absenoldeb oherwydd salwch rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2018 yn fwy nag ar gyfer yr un cyfnod yn 2017. Yn anffodus, mae'r sefyllfa'n effeithio'n uniongyrchol ar fy etholwyr. Bron bob dydd, rwy'n cael cwynion newydd ac yn gorfod cael apwyntiadau wythnosol yn awr gyda swyddfa'r cadeirydd—y cadeirydd newydd—sy'n gweithio'n galed iawn i oruchwylio fy nghasgliad o bryderon etholwyr. Rydych chi'n gwybod beth yw'r problemau: amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth nad ydynt wedi gwella dim, y nifer uchaf o gleifion yn aros mwy na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, a bylchau staffio difrifol. Yn amlwg, ni all unrhyw berson rhesymol ond cytuno â chanfyddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod mesurau arbennig wedi dod yn drefn arferol ac nad yw ymyrraeth Llywodraeth Cymru wedi cael fawr o effaith yn ymarferol.
Mae trigolion gogledd Cymru, ac yn sicr fy etholwyr yn Aberconwy a fy nghyd-Aelodau eraill—maent yn haeddu gwell. Rhaid ystyried mai'r gwasanaeth iechyd mewn unrhyw wlad yw ei phrif flaenoriaeth, ac mae'n siomedig iawn na all y Prif Weinidog ei hun fod yn bresennol ar gyfer dadl mor bwysig heddiw. Mae'n ymddangos ein bod yn wynebu 12 mis arall o fesurau arbennig, ac nid oes gennym strategaeth glinigol gynaliadwy ar waith. Mae'n bryd i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru gael eu dal yn gyfrifol ar y cyd. Ond rwy'n eich dal chi'n gyfrifol, Weinidog. Fe ategaf bryderon fy nghyd-Aelodau. Peidiwch â difenwi enw Betsi Cadwaladr, ac os gwelwch yn dda, Weinidog, os ydych—. Rydych chi'n ysgwyd eich pen yn awr. Os ydych yn dal i wadu pa mor ddrwg yw pethau, a fyddech cystal â gwneud ffafr â phawb ohonom a rhoi cyfle i rywun a allai—o bosibl—newid y sefyllfa honno. Diolch.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae cyflwr y GIG yng ngogledd Cymru yn ddiffygiol iawn, a rhaid i Lafur Cymru dderbyn y bai yma, oherwydd mae'r diwygiadau dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi arwain yn uniongyrchol at y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr.
Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mandy Jones, ddoe, bu'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig am bron i hanner ei fodolaeth. Mae'r ffaith bod y newid wedi bod yn araf a'r gwelliant yn gyfyngedig, o gofio bod bron i bedair blynedd wedi mynd heibio ers i'r bwrdd iechyd gael ei wneud yn destun mesurau arbennig, yn peri pryder mawr i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac i bob un ohonom yn wir. Fodd bynnag, nid wyf o'r farn mai galw am ymddiswyddiad y Gweinidog presennol yw'r ateb cywir, ac mae'r ffaith bod llwyddiant i gyflawni gwelliannau mewn gofal iechyd yng ngogledd Cymru wedi bod yn gyfyngedig yn awgrymu bod yna broblem fwy strwythurol na'r hyn y mae Gweinidog y Llywodraeth yn gyfrifol amdani. Mae'n dangos yn glir nad yw system bresennol y byrddau iechyd lleol yn addas at y diben, ac er bod y problemau i'w teimlo fwyaf yng ngogledd Cymru, mae'r rhan fwyaf o fyrddau iechyd Cymru mewn rhyw fath o drefniant uwchgyfeirio ac ymyrryd. Nid newid Gweinidogion ddylai ddigwydd yn awr, ond newid dull o weithredu. Mae angen i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am y llanastr y mae wedi'i greu a gweithredu ar unwaith.
Gwyddom i gyd am yr heriau sy'n wynebu'r GIG yn y degawdau nesaf, ac os na fydd gennym strwythurau llywodraethu priodol ar waith, bydd y problemau a welwn ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr heddiw yn ymddangos yn ddibwys mewn cymhariaeth. Felly, mae angen inni roi diwedd ar benodiadau gweinidogol i fyrddau iechyd. Mae angen i fyrddau iechyd wneud penderfyniadau clinigol, ac nid rhai gwleidyddol. Mae angen inni gryfhau Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a sicrhau ei bod hefyd yn rhydd rhag ymyrraeth wleidyddol. Dylai'r Arolygiaeth gael pŵer i ymyrryd a chyfarwyddo byrddau iechyd pan ganfyddir problemau. Ac mae angen inni sicrhau bod problemau'n cael eu nodi'n gynnar. Mae hyn yn golygu cyflwyno diwylliant o beidio â beio er mwyn canfod camgymeriadau a sicrhau bod dyletswydd ar bob person sy'n gweithio yn y GIG neu gyda'r GIG i ddatgelu.
Mae angen inni wneud cynnydd sylweddol ar frys i sicrhau bod gan ein GIG strwythurau cywir ar waith i ddiwallu anghenion cleifion ym mhob rhan o Gymru, yn awr ac yn y degawdau sydd i ddod. Er bod y Gweinidog presennol yn rhannu rhywfaint o'r bai am y problemau ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ac ar draws y GIG, rwy'n credu o ddifrif ei fod wedi ceisio mynd i'r afael â rhai o'r problemau sydd wedi bodoli ers cyn iddo gael y portffolio iechyd. Ac os oes rhaid beio, rhaid i'w ragflaenwyr dderbyn cyfran o'r bai hwnnw'n gyfartal, a pheidio â chaniatáu i un person gael ei wneud yn fwch dihangol. Felly, mae'r bai weithiau'n uniongyrchol, ac ar adegau eraill yn anuniongyrchol am y trefniadau llywodraethu blêr presennol.
Rwy'n annog y Gweinidog i dderbyn bod camgymeriadau wedi'u gwneud ac i roi camau brys ar waith i'w hunioni. Dyma sut yr awn i'r afael â'r problemau. Efallai na fydd newid arweinyddiaeth ond yn eu gwaethygu yn awr. Weinidog, rwy'n hyderus y gallwch gyflawni'r newidiadau angenrheidiol, ond mae'n rhaid i chi weithredu yn awr.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bydd y problemau llywodraethu a rheoli parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers 2013 heb amheuaeth yn destun gofid ac embaras mawr i Lywodraeth Cymru. Er i nifer o adolygiadau ac adroddiadau gael eu cynnal dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r cynnydd wedi bod yn echrydus o araf, mae rheolaeth ariannol wedi bod yn aneffeithiol, ac yn bwysicaf oll, mae pryderon ynghylch gofal cleifion yn parhau. Mae'r staff a'r gweithwyr meddygol proffesiynol yng ngogledd Cymru sy'n gweithio'n galed mewn amgylchiadau anodd iawn yn haeddu arweiniad a chymorth priodol gan Lywodraeth Cymru.
Fel y dywedodd Mark Isherwood a Janet Finch-Saunders yn gynharach, ychydig wythnosau'n ôl yn unig cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y diweddaraf mewn cyfres o adolygiadau o drefniadau llywodraethu'r bwrdd iechyd. Daeth yr adroddiad trawsbleidiol hwnnw i'r casgliad fod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn annigonol ac na chafodd y camau gweithredu fawr o effaith ymarferol ar newid perfformiad y bwrdd iechyd. Ar ôl pedair blynedd hir o'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i lywyddu dros wasanaeth sy'n parhau i wneud cam â rhai cleifion. Nawr, wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, rhannodd Mark Thornton, cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, eu rhwystredigaeth drwy gymharu diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru â chamau a gymerwyd dros y ffin. Dywedodd,
Mae'n ymddangos bod ganddynt ymagwedd ychydig yn wahanol yn yr ystyr eu bod mewn gwirionedd yn dod â llawer mwy o adnoddau, arbenigedd, beth bynnag sydd ei angen i osod bwrdd iechyd ar sail gytbwys a darparu llwyfan sefydlog i fwrdd iechyd wneud y gwelliannau sydd eu hangen i ddod allan o fesurau arbennig. Hyd y gwyddom, rhoddwyd rhywfaint o arbenigedd i'r bwrdd iechyd ar ffurf cynghorwyr arbennig, ond yn sicr, i ddechrau o leiaf, ni welsom fawr o ddim arall.
Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rheini, na geiriau'r pwyllgor hyd yn oed, ond geiriau'r cyngor iechyd cymuned wrth gynrychioli cleifion lleol. Mae'r dystiolaeth a roesant i'r ymchwiliad yn ddamniol. Er bod Llywodraeth Cymru yn gwybod am anawsterau gyda threfniadau llywodraethu ac ariannu parhaus y bwrdd iechyd, mae'n ymddangos i mi fod y cyngor iechyd cymuned yn credu nad yw unioni'r mater yn flaenoriaeth ddifrifol i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae cleifion yng ngogledd Cymru'n parhau i fethu cael y gwasanaeth iechyd y maent yn ei haeddu, yn enwedig gwasanaethau iechyd meddwl, fel y dywedodd Jack Sargeant yn gynharach.
Er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn beirniadu'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru, y realiti ar lawr gwlad yw nad yw pobl go iawn yng ngogledd Cymru'n cael y gofal sydd ei angen arnynt a'r hyn y maent yn ei haeddu. Fel y dywedodd Angela Burns yn gynharach, mae yna gwestiwn go iawn yma hefyd ynglŷn â gostyngeiddrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r holl sefyllfa. Wrth ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Llywodraeth Cymru:
Rydym hefyd yn cydnabod y cynnydd a'r camau pellach y mae'n rhaid i ni eu cymryd i fynd i'r afael â materion hirsefydlog a byddwn yn gweithio gyda'r Cadeirydd a'r tîm arwain i sicrhau y caiff pethau eu trawsnewid a'u hisgyfeirio o fesurau arbennig.
Ni cheir ymddiheuriad go iawn yn unman yn y datganiad i'r teuluoedd yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig camau pendant yn unman yn y datganiad, nac yn rhoi unrhyw arweiniad ar y sefyllfa. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei datganiad 'Byddwn yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd'. Wel, nid yw hynny'n ddigon da bellach, ac yn syml iawn, nid yw'n mynd i wneud y tro i bobl yng ngogledd Cymru sydd wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.
Dylai pob gwleidydd yng Nghymru resynu at y ffaith bod rhan o Gymru yn dechrau ar ei phumed blwyddyn o fod mewn mesurau arbennig yn fuan, ac eto ymddengys bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai mesurau arbennig yw'r drefn arferol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Beth y mae'n mynd i'w gymryd i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ac ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llawn? Ac yn y cyfamser, faint o gleifion fydd yn gorfod dioddef? Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd go iawn yn y dyfodol agos, bydd pobl yng ngogledd Cymru'n teimlo eu bod wedi cael cam gan Lywodraeth y byddant yn ei gweld yn canolbwyntio gormod ar Gaerdydd. Ac a allwch chi feio pobl gogledd Cymru am deimlo felly?
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl heddiw'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru newid pethau a chyflwyno strategaeth gadarn sy'n rhoi gwir ymrwymiad i bobl gogledd Cymru y bydd yn mynd i'r afael â'r mater hwn o'r diwedd. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd i'r bobl hynny am y gyfres o fethiannau y mae ef a'i Lywodraeth wedi llywyddu drostynt.
Ar ddechrau eleni, dywedodd Donna Ockenden wrth y Gweinidog yn uniongyrchol fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Ewch ymlaen i bythefnos yn ôl a daeth adroddiad a gymeradwywyd ac a gefnogwyd gan bob plaid yn y Siambr hon i'r casgliad ei bod yn amlwg na chafodd ymyriadau Llywodraeth Cymru fawr o effaith ymarferol. Felly, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a derbyn cyfrifoldeb am y methiannau sydd wedi digwydd tra bu Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, a gwneud y mater yn flaenoriaeth frys. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddechrau darparu gwasanaeth yng ngogledd Cymru sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig a wnaed yn nodi, ar 8 Mehefin bydd pedair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. Roedd fy natganiad ddoe yn cydnabod yr angen i ddefnyddio'r pen blwydd fel cyfle i fyfyrio ar realiti a chyflymder y cynnydd hyd yma, ond hefyd y camau gweithredu sy'n dal heb eu cyflawni. Soniais hefyd ddoe am amrywiaeth o gamau sy'n cael eu cymryd eisoes mewn perthynas â chyllid, perfformiad a gweithredu. Rwyf am ymdrin ar y dechrau ag un pwynt arall a wnaethpwyd ynglŷn ag absenoldeb y Prif Weinidog heddiw, yn arbennig sylwadau gan Janet Finch-Saunders, ac fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau, nid yw'r Prif Weinidog yma heddiw oherwydd ei fod yn union lle dylai fod, yn y digwyddiad i gofio D-day yn Portsmouth.
Bedair blynedd yn ôl, roedd angen gwella'r fframwaith mesurau arbennig ar draws ystod o feysydd: llywodraethu; arweinyddiaeth a throsolwg; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; ailgysylltu â'r cyhoedd; ac ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau yn benodol. Yn y datganiad a roddais ddoe, nodais y meysydd lle mae gwelliant eisoes wedi'i wneud. Amlinellais hefyd y meysydd lle nad yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud y cynnydd a ddisgwyliwn, ac mae'n amlwg fod angen gweithredu pellach.
Ar ddau o'r meysydd pryder sylweddol a nodwyd yn 2015—gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol—mae gwelliannau wedi arwain at isgyfeirio'r meysydd hynny o fesurau arbennig. Mae'n bwysig cydnabod yr arferion da, yr arloesi a'r gwelliant y mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cyflawni. Ac ar un pwynt y mae'r siaradwyr yn cytuno yn ei gylch, dylid cydnabod ymroddiad ein staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol sy'n darparu gofal rheng flaen ym mhob un o'n cymunedau.
Yn 2015, fodd bynnag, roedd gennym ni a phobl gogledd Cymru bryderon sylweddol am gyfraddau heintiau, er enghraifft, mynediad at wasanaethau therapi a mynediad amserol at driniaeth i bobl sydd ar y llwybrau canser, ac ym mhob un o'r meysydd hynny, gwelwyd gwelliant gwirioneddol. Heddiw, clywsom am feysydd eraill lle dylai Betsi Cadwaladr ddatblygu eu gwasanaethau i wella canlyniadau a phrofiad pobl gogledd Cymru—meysydd sy'n peri pryder, wrth gwrs, ac sy'n mynd y tu hwnt i fesurau arbennig y gallem eu trafod mewn unrhyw ran benodol o wasanaeth cyhoeddus. Nid cael gwared ar y rheini yw'r her, ond canolbwyntio ar welliant ym mhob maes a deall yr hyn sydd angen i Betsi Cadwaladr ei wneud er mwyn symud y tu hwnt i fesurau arbennig. Mae'n bwysig nodi bod y bwrdd iechyd yn bwrw iddi i weithredu'r camau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant. Barn y cynghorwr annibynnol yw bod y bwrdd mewn gwell sefyllfa i wneud hynny erbyn hyn ac yn benodol fod y cadeirydd wedi darparu egni a hwb newydd i arweinyddiaeth a gwelliant go iawn.
Mewn perthynas â'r meysydd i'w gwella a gwmpesir o dan y trefniadau mesurau arbennig—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch. Crybwyllwyd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar hyn gan nifer o'r Aelodau, ac argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwnnw oedd, os yw pethau am gael eu trawsnewid, mae angen inni gael staff allanol mwy arbenigol yn dod i mewn—cyflwyno cyngor allanol—i gynorthwyo'r bwrdd, yn ogystal â'r cyfarwyddwr trawsnewid, neu beth bynnag arall y maent wedi'i wneud. Pa gynnydd a wnaethoch i sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwnnw'n cael ei roi ar waith?
Llwyddais i drafod rhywfaint ar hyn ddoe, ond rydym eisoes yn cydweithio â'r cadeirydd i edrych ar y swyddogaeth gyllid gan ddod ag arbenigedd allanol i mewn i helpu, penodi cyfarwyddwr cyllid newydd a meddwl am y tîm fydd ei angen i fynd o gwmpas y person hwnnw er mwyn cyflawni'r swyddogaeth—ac nid person yn unig, ond swyddogaeth drawsnewid. Felly rydym eisoes o ddifrif ynghylch yr angen i gael cymorth allanol a chyfleoedd ar gyfer gwella o fewn y sefydliad.
Yn bersonol, er hynny, rwy'n amlwg yn rhwystredig gyda'r cynnydd mewn nifer o feysydd, ac rwy'n cydnabod bod angen ymagwedd integredig system gyfan er mwyn i welliannau fod yn gynaliadwy. Ddoe, amlinellais y ffocws newydd sydd ei angen ar gynllunio, perfformiad rheoli ariannol, iechyd meddwl, gofal wedi'i gynllunio a gofal heb ei drefnu, ac amlinellais hefyd y cymorth pellach sy'n cael ei roi i'r bwrdd er mwyn helpu i sicrhau gwelliant. Rwyf wedi ysgrifennu at gadeirydd y bwrdd yn nodi ein disgwyliadau ar gyfer yr hydref hwn, i gadarnhau y bydd cynllun blynyddol gyda llwybrau perfformiad ar gyfer 2019 ar gael erbyn diwedd yr haf er mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith o ddatblygu strategaeth gwasanaethau clinigol gynaliadwy, mewn partneriaeth â chlinigwyr a phartneriaid ehangach; cael cynllun ariannol y cytunwyd arno, gan gynnwys arbedion a nodwyd, arbedion effeithlonrwydd a chyfleoedd i'w cymryd gan y bwrdd iechyd drwy gydol y flwyddyn hon; a chael perfformiad cynaliadwy gwell mewn meysydd o ansawdd, iechyd meddwl, gofal heb ei drefnu a gofal wedi'i gynllunio; a gwneud cynnydd gwirioneddol a pharhaus ar gyflawni'r strategaeth iechyd meddwl a'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt mewn ymateb i argymhellion y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Ockenden. Mae grŵp rhanddeiliaid gweithredol eisoes yn bodoli i ddarparu trosolwg a her go iawn i'r cynnydd sy'n cael ei wneud.
Wrth gynnig ein gwelliant, nodais y bydd unrhyw benderfyniadau ar newid statws uwchgyfeirio Betsi Cadwaladr yn digwydd ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Dyna yw'r safon o dan y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ar waith, felly fel y dywedais droeon o'r blaen, ni fyddaf yn gosod amserlen artiffisial i'r bwrdd iechyd ar gyfer symud allan o fesurau arbennig. Bydd hynny'n digwydd pan fydd cynnydd gwirioneddol wedi'i wneud a gwir hyder y bydd cynnydd pellach yn cael ei wneud. Ond nid yw'n briodol awgrymu bod pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun rhyw ffurf ar fesurau arbennig. Mae'n ddefnydd bwriadol ar label y mesurau arbennig i fwrw amheuaeth a thaflu baw dros weddill y gwasanaeth iechyd. Mae'r trefniadau ymyrryd ac uwchgyfeirio yno i amlygu lle mae angen gwella ac nid fel cyfle i daflu baw dros y gwasanaeth iechyd. Mae hynny'n mynd yn ôl at sylw a wnaeth Jack Sargeant am beidio â bod eisiau gweld y bwrdd iechyd yn cael ei ddefnyddio fel pêl-droed wleidyddol, ac wrth gwrs, mae'n bwnc sy'n amlwg yn wleidyddol.
Rydym yn gwario hanner arian y Llywodraeth ar y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Mae gan bawb farn am y gwasanaeth iechyd, ac fe ddylai fod, ond clywsom wedyn gyfres o ddatganiadau cwbl wleidyddol yn y ddadl. Nawr, rwy'n derbyn mai dyna natur busnes yn y lle hwn. Bydd gan wleidyddion farn, ac wrth gwrs bydd pobl yn ceisio cael atebion gwleidyddol i atebion yn y maes hwn. Fy ngwaith i yw gwneud yn siŵr fod y gwasanaeth iechyd yn parhau i symud ymlaen. Mae'n wasanaeth cyhoeddus—yn falch o fod yn wasanaeth cyhoeddus. Nid ydym yn preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru. Rydym wrthi'n edrych ar ymarfer yng Nghymru ar gyfer gwella, a ledled y Deyrnas Unedig hefyd, yn ein fframwaith ymyrryd ac ar adfer a gwella o fewn y gwasanaethau iechyd. Nid gwasanaeth ynysig mo hwn, sydd ond yn edrych tuag i mewn er mwyn gwella. Rwy'n parhau i fod yn agored i arferion da, fel y mae ein system gofal iechyd ehangach yn wir, lle bynnag y mae'n bodoli, yn enwedig ar draws y Deyrnas Unedig.
Gofynnwyd imi ynglŷn ag ad-drefnu, a gwn fod Jack Sargeant wedi sôn am hyn yn ei sylwadau, a hoffwn ddweud hyn yn syml iawn: nid wyf yn gweld unrhyw dystiolaeth wrthrychol y byddai ad-drefnu Betsi Cadwaladr yn ddau neu dri bwrdd llai o faint yn gwella gwasanaethau na chanlyniadau. Credaf mai'r peth olaf sydd ei angen ar y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru yw ad-drefnu eto, yn hytrach na chanolbwyntio'n barhaus ar wella'r sefyllfa bresennol.
Er hynny, rwy'n bell o fod yn ddidaro neu'n hunanfodlon ynglŷn â'r heriau parhaus yr ydym yn eu hwynebu. Byddaf yn parhau i ganolbwyntio ar wella a symud Betsi Cadwaladr y tu hwnt i fesurau arbennig. Byddaf yn parhau i fod yn onest ac yn dryloyw ynghylch gwelliannau a wnaed a gwelliannau sy'n amlwg eu hangen o hyd.
Diolch. Galwaf ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae eraill wedi'i ddweud yn y Siambr hon, mae'n ddiwrnod trist iawn, a dweud y gwir, ein bod ni'n sefyll yma bedair blynedd ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig, ond eto nid yw'r sefydliad hwn wedi gwneud digon o gynnydd i ddod allan ohonynt.
Fel y dywedwyd, mae chwarter y boblogaeth yng Nghymru'n cael eu gwasanaethu gan y bwrdd iechyd hwn, ond mae'n torri sawl record, ac mae'n eu torri am y rhesymau anghywir: perfformiad gwael gwaeth nag erioed ar adrannau achosion brys; amseroedd aros gwaeth nag erioed i bobl sy'n aros am lawdriniaeth orthopedig; ac wrth gwrs, fel y clywsom eisoes, y cyfnod hwyaf erioed mewn mesurau arbennig ar gyfer y gwasanaethau a'r agweddau hynny ar y bwrdd iechyd sydd mewn mesurau arbennig.
Wyddoch chi, mae'r staff rheng flaen yn ein hysbytai yng Nghymru—ym mhob un o'n hysbytai, gan gynnwys y rheini yng ngogledd Cymru—yn gwbl arwrol. Maent yn ceisio gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd bob dydd. Crybwyllais y ffaith fy mod wedi ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam ddydd Llun, a gwelais yr hyn yr oedd pobl yn gorfod ymdrin ag ef yn yr adran achosion brys yno.
Maent yn bobl ryfeddol a hynod dalentog, ond nid yw hynny'n tynnu oddi ar y ffaith bod yr holl dystiolaeth yn dangos nad yw mesurau arbennig ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn gweithio. Nid ydynt yn gweithio. Rydym wedi gweld rhywfaint o welliant, do, ym maes gofal mamolaeth, ond mae hynny oherwydd bod pobl wedi gorymdeithio ar y stryd er mwyn sicrhau'r gwelliannau hynny—nid oedd a wnelo â chi, a dweud y gwir, Weinidog. Oni bai ein bod wedi gorymdeithio ar y strydoedd, y realiti yw na fyddai'r newidiadau hynny wedi cael eu gweithredu.
Bu rhywfaint o welliant yn ddiweddar iawn gyda recriwtio meddygon teulu, neu hyfforddiant yn sicr, o ran sicrhau mwy o hyfforddiant. Ond y gwir amdani yw bod y gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, a isgyfeiriwyd gennych, yn dal i fod â bylchau mawr yn eu rotâu yn fynych. Deallaf mai un o'r rhesymau pam y mae'n haws iddynt gyrraedd eu targedau yn awr pan fyddwch yn ffonio'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, yw bod y targed ar gyfer dychwelyd at rywun bellach yn awr yn hytrach na hanner awr fel yr arferai fod yn flaenorol. Wel, wrth gwrs, mae'n haws pan fyddwch yn symud y pyst gôl i allu cyrraedd y targedau hynny, a dyna pam eich bod wedi llwyddo i isgyfeirio'r gwasanaeth arbennig hwnnw. Ond mae adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, sylwadau Donna Ockenden a chryn dipyn o dystiolaeth arall yn dynodi nad yw'r mesurau arbennig hyn yn gweithio.
Felly, mae pump o'r saith bwrdd iechyd yn destun rhyw fath o ymyrraeth neu'i gilydd, ac mae hynny, i mi, yn awgrymu bod problem systematig yn Llywodraeth Cymru o ran y ffordd y mae'n ceisio cyflwyno gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd. Nid yw fel pe bai'n dysgu o arferion da ac nid yw'n ymddangos ei bod yn dysgu o'i chamgymeriadau. Gwyddom fod Cwm Taf, er enghraifft, wedi dod yn destun mesurau arbennig yn ddiweddar, ac un o'r rhesymau am hynny oedd ei fod wedi ailadrodd llawer o'r camgymeriadau a wnaed yn Betsi Cadwaladr.
Mae'n rhaid i mi orffen. Fe ddywedaf hyn: rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar un peth. Nid wyf yn credu bod angen ad-drefnu yng ngogledd Cymru. Credaf fod yr enw 'Betsi Cadwaladr' wedi cael ei lychwino, a chredaf y dylech feddwl am newid enw'r bwrdd iechyd er mwyn adfer ei enw da yn y byd. Ond chi yw'r person sydd wedi bod yn gyfrifol am yr oruchwyliaeth weinidogol hon ers pedair blynedd. Rydych chi wedi methu trawsnewid y sefyllfa, ac ymddengys bod y GIG yn llithro ymhellach i mewn i'r trefniadau ymyrryd hyn mewn pob math o ffyrdd eraill ledled Cymru. Credaf y dylech ysgwyddo cyfrifoldeb, derbyn y bai ac ymddiswyddo.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.