Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 5 Mehefin 2019.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud y bydd y problemau llywodraethu a rheoli parhaus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ers 2013 heb amheuaeth yn destun gofid ac embaras mawr i Lywodraeth Cymru. Er i nifer o adolygiadau ac adroddiadau gael eu cynnal dros y pedair blynedd diwethaf, mae'r cynnydd wedi bod yn echrydus o araf, mae rheolaeth ariannol wedi bod yn aneffeithiol, ac yn bwysicaf oll, mae pryderon ynghylch gofal cleifion yn parhau. Mae'r staff a'r gweithwyr meddygol proffesiynol yng ngogledd Cymru sy'n gweithio'n galed mewn amgylchiadau anodd iawn yn haeddu arweiniad a chymorth priodol gan Lywodraeth Cymru.
Fel y dywedodd Mark Isherwood a Janet Finch-Saunders yn gynharach, ychydig wythnosau'n ôl yn unig cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad y diweddaraf mewn cyfres o adolygiadau o drefniadau llywodraethu'r bwrdd iechyd. Daeth yr adroddiad trawsbleidiol hwnnw i'r casgliad fod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn annigonol ac na chafodd y camau gweithredu fawr o effaith ymarferol ar newid perfformiad y bwrdd iechyd. Ar ôl pedair blynedd hir o'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i lywyddu dros wasanaeth sy'n parhau i wneud cam â rhai cleifion. Nawr, wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad hwnnw, rhannodd Mark Thornton, cadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, eu rhwystredigaeth drwy gymharu diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru â chamau a gymerwyd dros y ffin. Dywedodd,
Mae'n ymddangos bod ganddynt ymagwedd ychydig yn wahanol yn yr ystyr eu bod mewn gwirionedd yn dod â llawer mwy o adnoddau, arbenigedd, beth bynnag sydd ei angen i osod bwrdd iechyd ar sail gytbwys a darparu llwyfan sefydlog i fwrdd iechyd wneud y gwelliannau sydd eu hangen i ddod allan o fesurau arbennig. Hyd y gwyddom, rhoddwyd rhywfaint o arbenigedd i'r bwrdd iechyd ar ffurf cynghorwyr arbennig, ond yn sicr, i ddechrau o leiaf, ni welsom fawr o ddim arall.
Nawr, nid fy ngeiriau i yw'r rheini, na geiriau'r pwyllgor hyd yn oed, ond geiriau'r cyngor iechyd cymuned wrth gynrychioli cleifion lleol. Mae'r dystiolaeth a roesant i'r ymchwiliad yn ddamniol. Er bod Llywodraeth Cymru yn gwybod am anawsterau gyda threfniadau llywodraethu ac ariannu parhaus y bwrdd iechyd, mae'n ymddangos i mi fod y cyngor iechyd cymuned yn credu nad yw unioni'r mater yn flaenoriaeth ddifrifol i Lywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae cleifion yng ngogledd Cymru'n parhau i fethu cael y gwasanaeth iechyd y maent yn ei haeddu, yn enwedig gwasanaethau iechyd meddwl, fel y dywedodd Jack Sargeant yn gynharach.
Er bod adroddiad ar ôl adroddiad yn beirniadu'r bwrdd iechyd a Llywodraeth Cymru, y realiti ar lawr gwlad yw nad yw pobl go iawn yng ngogledd Cymru'n cael y gofal sydd ei angen arnynt a'r hyn y maent yn ei haeddu. Fel y dywedodd Angela Burns yn gynharach, mae yna gwestiwn go iawn yma hefyd ynglŷn â gostyngeiddrwydd a'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r holl sefyllfa. Wrth ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Llywodraeth Cymru:
Rydym hefyd yn cydnabod y cynnydd a'r camau pellach y mae'n rhaid i ni eu cymryd i fynd i'r afael â materion hirsefydlog a byddwn yn gweithio gyda'r Cadeirydd a'r tîm arwain i sicrhau y caiff pethau eu trawsnewid a'u hisgyfeirio o fesurau arbennig.
Ni cheir ymddiheuriad go iawn yn unman yn y datganiad i'r teuluoedd yng ngogledd Cymru sydd wedi dioddef yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig camau pendant yn unman yn y datganiad, nac yn rhoi unrhyw arweiniad ar y sefyllfa. Yn hytrach, mae Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei datganiad 'Byddwn yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd'. Wel, nid yw hynny'n ddigon da bellach, ac yn syml iawn, nid yw'n mynd i wneud y tro i bobl yng ngogledd Cymru sydd wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.
Dylai pob gwleidydd yng Nghymru resynu at y ffaith bod rhan o Gymru yn dechrau ar ei phumed blwyddyn o fod mewn mesurau arbennig yn fuan, ac eto ymddengys bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai mesurau arbennig yw'r drefn arferol ar gyfer gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Beth y mae'n mynd i'w gymryd i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad ac ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn yn llawn? Ac yn y cyfamser, faint o gleifion fydd yn gorfod dioddef? Os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd go iawn yn y dyfodol agos, bydd pobl yng ngogledd Cymru'n teimlo eu bod wedi cael cam gan Lywodraeth y byddant yn ei gweld yn canolbwyntio gormod ar Gaerdydd. Ac a allwch chi feio pobl gogledd Cymru am deimlo felly?
Ddirprwy Lywydd, mae'r ddadl heddiw'n rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru newid pethau a chyflwyno strategaeth gadarn sy'n rhoi gwir ymrwymiad i bobl gogledd Cymru y bydd yn mynd i'r afael â'r mater hwn o'r diwedd. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn dangos ychydig o ostyngeiddrwydd i'r bobl hynny am y gyfres o fethiannau y mae ef a'i Lywodraeth wedi llywyddu drostynt.
Ar ddechrau eleni, dywedodd Donna Ockenden wrth y Gweinidog yn uniongyrchol fod staff wedi dweud wrthi fod gwasanaethau'n mynd tuag yn ôl. Ewch ymlaen i bythefnos yn ôl a daeth adroddiad a gymeradwywyd ac a gefnogwyd gan bob plaid yn y Siambr hon i'r casgliad ei bod yn amlwg na chafodd ymyriadau Llywodraeth Cymru fawr o effaith ymarferol. Felly, mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a derbyn cyfrifoldeb am y methiannau sydd wedi digwydd tra bu Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, a gwneud y mater yn flaenoriaeth frys. Felly, anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn, a galwaf ar Lywodraeth Cymru i ddechrau darparu gwasanaeth yng ngogledd Cymru sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.