Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel y mae'r cynnig a wnaed yn nodi, ar 8 Mehefin bydd pedair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig. Roedd fy natganiad ddoe yn cydnabod yr angen i ddefnyddio'r pen blwydd fel cyfle i fyfyrio ar realiti a chyflymder y cynnydd hyd yma, ond hefyd y camau gweithredu sy'n dal heb eu cyflawni. Soniais hefyd ddoe am amrywiaeth o gamau sy'n cael eu cymryd eisoes mewn perthynas â chyllid, perfformiad a gweithredu. Rwyf am ymdrin ar y dechrau ag un pwynt arall a wnaethpwyd ynglŷn ag absenoldeb y Prif Weinidog heddiw, yn arbennig sylwadau gan Janet Finch-Saunders, ac fel y gŵyr y rhan fwyaf o'r Aelodau, nid yw'r Prif Weinidog yma heddiw oherwydd ei fod yn union lle dylai fod, yn y digwyddiad i gofio D-day yn Portsmouth.
Bedair blynedd yn ôl, roedd angen gwella'r fframwaith mesurau arbennig ar draws ystod o feysydd: llywodraethu; arweinyddiaeth a throsolwg; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; ailgysylltu â'r cyhoedd; ac ymarfer cyffredinol a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau yn benodol. Yn y datganiad a roddais ddoe, nodais y meysydd lle mae gwelliant eisoes wedi'i wneud. Amlinellais hefyd y meysydd lle nad yw'r bwrdd iechyd wedi gwneud y cynnydd a ddisgwyliwn, ac mae'n amlwg fod angen gweithredu pellach.
Ar ddau o'r meysydd pryder sylweddol a nodwyd yn 2015—gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol—mae gwelliannau wedi arwain at isgyfeirio'r meysydd hynny o fesurau arbennig. Mae'n bwysig cydnabod yr arferion da, yr arloesi a'r gwelliant y mae staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cyflawni. Ac ar un pwynt y mae'r siaradwyr yn cytuno yn ei gylch, dylid cydnabod ymroddiad ein staff yn y gwasanaeth iechyd gwladol sy'n darparu gofal rheng flaen ym mhob un o'n cymunedau.
Yn 2015, fodd bynnag, roedd gennym ni a phobl gogledd Cymru bryderon sylweddol am gyfraddau heintiau, er enghraifft, mynediad at wasanaethau therapi a mynediad amserol at driniaeth i bobl sydd ar y llwybrau canser, ac ym mhob un o'r meysydd hynny, gwelwyd gwelliant gwirioneddol. Heddiw, clywsom am feysydd eraill lle dylai Betsi Cadwaladr ddatblygu eu gwasanaethau i wella canlyniadau a phrofiad pobl gogledd Cymru—meysydd sy'n peri pryder, wrth gwrs, ac sy'n mynd y tu hwnt i fesurau arbennig y gallem eu trafod mewn unrhyw ran benodol o wasanaeth cyhoeddus. Nid cael gwared ar y rheini yw'r her, ond canolbwyntio ar welliant ym mhob maes a deall yr hyn sydd angen i Betsi Cadwaladr ei wneud er mwyn symud y tu hwnt i fesurau arbennig. Mae'n bwysig nodi bod y bwrdd iechyd yn bwrw iddi i weithredu'r camau sydd eu hangen i sicrhau gwelliant. Barn y cynghorwr annibynnol yw bod y bwrdd mewn gwell sefyllfa i wneud hynny erbyn hyn ac yn benodol fod y cadeirydd wedi darparu egni a hwb newydd i arweinyddiaeth a gwelliant go iawn.
Mewn perthynas â'r meysydd i'w gwella a gwmpesir o dan y trefniadau mesurau arbennig—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.