Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch i chi, David. Roeddech ym Merthyr Tudful yn ddiweddar gyda Nigel Farage a Mark Reckless, ac roeddech mewn rali yn Trago Mills, lle roedd Mark Reckless yn rhannu llwyfan gyda Nigel Farage a rhestrodd Aelodau Cynulliad ac ASau Llafur yr honnai eu bod dros aros ac o ganlyniad i hynny, cafodd yr ACau a'r ASau Llafur hynny eu cam-drin yn eiriol ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymosodwyd ar swyddfeydd dau ohonynt—a minnau'n un—o ganlyniad uniongyrchol i'r hyn a ddywedoch chi a Mark Reckless yn rali Farage ym Merthyr Tudful.