Part of the debate – Senedd Cymru am 6:31 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr iawn i John Griffiths am ddod â’r ddadl yma ymlaen heddiw. Dwi’n falch o gael rhoi fy enw iddo fo. Dwi hefyd eisiau dweud fy mod i’n parchu ac yn edmygu ymroddiad John i’r maes yma dros nifer o flynyddoedd, a dwi’n siŵr bod pawb yn ategu hynny yn fan hyn.
Mae’r pwyslais wedi bod y prynhawn yma—a dwi’n falch o glywed hynny—ar beth fedrwn ni yng Nghymru a beth fedr y Llywodraeth yma ei wneud. Ydyn, mae achosion tlodi yn gymhleth, ond mae yna lawer iawn mwy y gall y Llywodraeth yma ei wneud, hyd yn oed o fewn ffiniau caeth y setliad datganoli. Dwi am restru’r rhai dwi’n meddwl sydd yn bwysig rhoi sylw iddyn nhw ar frys, a hynny gan y Llywodraeth yma.
Un—mae angen cydlynu ymdrechion y Llywodraeth mewn ffordd llawer mwy effeithiol. Byddai hynny’n cynnwys strategaeth trechu tlodi pwrpasol a chynllun gweithredu ar dlodi plant, yn cynnwys cerrig milltir a thargedau mesuradwy er mwyn i ni gael dull clir o adrodd yn erbyn amcanion strategaeth statudol tlodi plant yng Nghymru.
Dau—rydym ni angen bod yn hollol glir pwy, o blith Gweinidogion y Llywodraeth, sydd yn gyfrifol am faterion plant a thlodi plant. Pwy sydd yn arwain y gwaith?
Tri—mae’r Llywodraeth angen adolygu ei strategaethau ymyrraeth gynnar a chynlluniau fel Dechrau’n Deg. Dydy 44 y cant o blant sydd yn byw mewn amddifadedd incwm ddim yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg. Mae angen symud y ffocws yn ôl at ymyrraeth gynnar a chreu strategaeth genedlaethol a lleol o ran ymyrraeth gynnar.
Pedwar—mae angen i’r Llywodraeth adolygu’r cynnig gofal plant diffygiol. Mae eisiau ei ymestyn o ac mae eisiau rhoi’r pwyslais yn y lle cywir, ac mae hynny’n cynnwys addysg gynnar.
Pump—mae angen cryfhau gwaith y comisiwn gwaith teg yn sylweddol ac mae angen defnyddio prosesau caffael cyhoeddus i godi cyflogau.
Chwech—mae angen pwyso am ddatganoli elfennau o weinyddu’r wladwriaeth les i Gymru, fel bod modd credu diwylliant llawer mwy empathetig o gwmpas lles. Dwi wir methu deall pam na fyddai Llywodraeth Lafur yn gallu gweld rhesymeg datganoli elfennau o weinyddu’r wladwriaeth les i Gymru.
Saith—rydym ni angen cynllun llawer mwy uchelgeisiol o adeiladu tai cymdeithasol a mabwysiadu polisi 'cartrefi’n gyntaf' i daclo digartrefedd.
Dwi’n hoelio sylw ar y saith maes yna. Rydym ni wedi clywed ambell i faes arall, ond i fi, dyma’r rhai pwysig sydd angen hoelio sylw arnyn nhw, a hynny ar frys. Mae yna lawer iawn mwy o waith y gellid ei wneud, ond rhain ydy'r materion mae angen i'r Llywodraeth fynd ar eu holau nhw yn syth. Diolch.