Ffatri Beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:50, 11 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i Suzy Davies am ei chyfraniad a'i chwestiynau. Mae'n rhaid imi ddweud, yn syml iawn, nid yw'n bosibl anwybyddu'r effaith y mae Brexit yn ei chael ar economi Cymru ac y bydd yn parhau i'w chael ar yr economi, a chanlyniadau enbydus Brexit 'dim cytundeb' y mae Ford a llawer o rai eraill wedi'u cyhoeddi dro ar ôl tro. Mae dwy her yn wynebu'r sector moduro yn y DU; un yw Brexit, y llall yw'r dirywiad yn yr injan hylosgi mewnol. O ran yr injan hylosgi mewnol, nid oedd rhai gweithgynhyrchwyr wedi rhagweld y ffordd y byddai'n dirywio, ac rwy'n credu bod Ford yn un ohonynt. Dyna pam eu bod ar ei hôl hi o bosibl.

O ran y cwestiwn a ofynnodd yr Aelod ynghylch pam nad oeddem ni wedi rhagweld hyn, wel, roeddem ni wedi sefydlu tasglu a oedd yn cyfarfod yn rheolaidd iawn tan yn ddiweddar a oedd yn ystyried cyfleoedd ar gyfer y safle, gan weithio gyda Ford a'r undebau. Ac roeddem ni'n ystyried y cyfleoedd a allai ddeillio o raglen drydaneiddio Ford a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, a'r potensial i gynhyrchu injans hybrid yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ni nododd Ford ar unrhyw adeg fod dyfodol y ffatri dan amheuaeth; yn wir, roeddem ni'n gweithio gyda'r cwmni ac eraill, gyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, ar gyfleoedd i fuddsoddi yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr. Ac rwy'n cytuno â Carwyn Jones ei bod yn ymddangos bod y penderfyniad hwn wedi'i wneud yn ddiweddar iawn, a'i fod yn dipyn o ymateb i'r digwyddiadau diweddar yr amlinellodd yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr. Felly, rwyf i'n teimlo yn gryf na ddylid anwybyddu Brexit fel ffactor sy'n cyfrannu.

O ran yr amodau sydd wedi bod yn berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi ei rhoi i Ford dros y blynyddoedd, fel yr wyf wedi'i nodi eisoes, buddsoddwyd £143 miliwn o arian y trethdalwyr yn y safle, ac yn fy marn i, mae'n iawn ein bod ni wedi buddsoddi yn y safle, yn bennaf oherwydd yn y 10 mlynedd diwethaf yn unig, y mae wedi cyfrannu £3.3 biliwn i'r economi leol, gan gadw llawer iawn o fusnesau bach, canolig a micro yn fyw. Mae'r amodau sy'n berthnasol i'r gefnogaeth yr ydym wedi'i rhoi ar gyfer Ford yn dal i fodoli heddiw, ond bydd llawer o'r amodoldeb wedi dirwyn i ben erbyn mis Medi'r flwyddyn nesaf. Dyna pam yr ydym yn dweud wrth Ford y dylai fod buddsoddiad gwaddol yn ôl i'r bobl sydd wedi cyfrannu at fodolaeth y cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Byddwn i'n croesawu'n fawr unrhyw ran y gallai partneriaid bargen ddinesig bae Abertawe ei rhoi i'r ymdrech i gael swyddi addas sy'n talu cyflogau uchel i'r bobl.

O ran y cyfleoedd eraill a allai ddod i Ben-y-bont ar Ogwr, ni fyddaf yn rhoi diweddariad parhaus ar yr holl drafodaethau masnachol sensitif yr ydym yn eu cael gyda darpar fuddsoddwyr—mae'r Aelod wedi nodi un—ond gallaf sicrhau Aelodau'r Siambr hon fod gan lawer o bartïon ddiddordeb yn y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n gyfleuster enfawr; mae'n wir yn ffatri o fewn ffatri ar hyn o bryd, yn cynhyrchu'r injan Dragon mewn un rhan ond gyda lle gwag i fusnesau eraill. Ac mae'n ddigon posibl y gellid defnyddio'r safle ar gyfer nifer o fusnesau. Dylai'r flaenoriaeth, yn fy marn i, fod ar weithgynhyrchu, oherwydd byddai'r 1,700 o bobl sy'n gweithio yno ar hyn o bryd yn ddelfrydol ar gyfer cyflogaeth o'r fath. Ond ni fyddem yn diystyru defnydd amgen ac ychwanegol ar gyfer yr hyn sy'n ased eithriadol.