Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 11 Mehefin 2019.
A gaf i ddiolch i Bethan am ei chwestiynau a dweud cymaint yr wyf i'n rhannu ei dicter hi a dicter y gweithwyr? Ac ni fyddaf i'n ymddiheuro am fod mor ddi-flewyn-ar-dafod yn fy ymateb uniongyrchol yr wythnos diwethaf wrth glywed am y newyddion hyn. Mae gweithwyr yn teimlo eu bod wedi'u bradychu, maen nhw'n teimlo eu bod wedi cael cam dirfawr, ac yn sicr nid oedd modd anwybyddu eironi amseriad y cyhoeddiad i lawer o bobl.
Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod angen i Ford gydnabod teyrngarwch ac ymrwymiad y gweithlu a'r gymuned trwy fuddsoddiad gwaddol sylweddol iawn, nid yn unig yn y gweithwyr ond yn y gymuned hefyd. Ac er mwyn eu hannog i ystyried buddsoddiad gwaddol sylweddol, byddaf i a'r Ysgrifenyddion Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ysgrifennu at Ford ar y cyd, i'w hannog i fuddsoddi swm sylweddol o arian yn y gymuned ac yn y bobl hynny y bydd hyn yn effeithio arnyn nhw. Bydd hynny'n rhan o becyn o fuddsoddiadau. Mae swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, wrth gwrs. Nid oes dim amheuaeth am hynny, ac rydym eisoes yn ystyried sut y gallwn gefnogi nid yn unig yr unigolion a'r busnesau yn y gadwyn gyflenwi, a'r busnesau niferus ar y stryd fawr a allai ddioddef o ganlyniad i hyn, ond hefyd sut y gallwn gynorthwyo'r lle ei hun—Pen-y-bont ar Ogwr—gan wneud yn siŵr, os oes cynlluniau sy'n barod am fuddsoddiad a fyddai'n cyfrannu at dwf economaidd ac at ysgogi twf economaidd rhwng nawr a mis Medi 2020, yna byddwn yn buddsoddi pa le bynnag a sut bynnag y gallwn.
Ond mae swyddogaeth hefyd i'r awdurdod lleol, wrth gwrs, o ran nodi cynlluniau tebyg a chefnogi'r cynlluniau hynny gyda ni, ac, yn hollbwysig, mae swyddogaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig trwy strategaeth ddiwydiannol y DU. Ddoe ac yn wir, ddydd Gwener, bûm i'n trafod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol y cyfleoedd a allai ddod i'r amlwg, yn benodol yr her Faraday a'r bargeinion sector, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gweithio'n agos iawn gyda ni. Mae ei swyddogion yn cysylltu, os nad pob awr, yn sicr bob dydd â'n swyddogion yn Llywodraeth Cymru i nodi cyfleoedd i fuddsoddi.
Cododd Bethan y pwynt pwysig o ran arallgyfeirio economi Cymru, ac erbyn hyn mae gennym y nifer mwyaf erioed o fusnesau. Roeddwn i'n dweud wrth newyddiadurwyr y bore yma fod economi Cymru, mewn unrhyw wythnos benodol, yn colli rhyw 2,000 o swyddi, ond, yn ystod yr un cyfnod, mae economi Cymru yn creu ychydig dros 2,000 o swyddi, a dyna pam mae gennym lefelau mor isel o ddiweithdra a lefelau isel o anweithgarwch economaidd. Mae arallgyfeirio cyflogaeth, yr economi, yn digwydd, ond lluniwyd y cynllun gweithredu economaidd yn benodol i rymuso a galluogi busnesau yng Nghymru i addasu i realiti newydd awtomatiaeth, i fynd i'r afael â heriau diwydiant 4.0 a mynd i'r afael â'r angen i leihau allyriadau carbon. A dyna pam, yn y contract economaidd, mae un o'r pedwar maen prawf yn ymwneud â datgarboneiddio a dyna pam mae un o'r pum galwad i weithredu yn ymwneud â datgarboneiddio hefyd. Rydym eisoes yn cefnogi llawer iawn o fusnesau, yn eu hymdrechion i fod yn fwy modern yn y ffordd y maen nhw'n gweithredu, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym eisoes wedi gweld mwy na 200 o fusnesau yn ymuno â'r contract economaidd. Rydym yn annog ac yn galluogi busnesau i foderneiddio eu harferion, mae awydd a dyhead yn y gymuned fusnes i addasu i'r realiti newydd, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw. Ac yn benodol, byddwn yn gweithio gyda nhw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, lle gallan nhw, ac rwy'n ffyddiog y byddan nhw'n creu cyfleoedd cyflogaeth newydd.