Part of Cwestiwn Brys – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 11 Mehefin 2019.
Ar ran Plaid Cymru, hoffwn gydymdeimlo â'r gweithwyr i'r eithaf. Ond hoffwn ddweud hefyd fy mod i'n eithaf dig ar eu rhan nhw y cafodd llawer o'r gweithwyr wybod drwy'r cyfryngau cymdeithasol fod y gwaith yn cau, yn hytrach na chael gwybod yn gyntaf gan Ford. Nawr, beth mae hynny'n ei ddweud wrthym am fantra teulu Ford? Mae hefyd yn hynod eironig, yn yr wythnos y daw Donald Trump i'r DU, bod cwmni Americanaidd yn cynnig symud gwaith o Ben-y-bont ar Ogwr i Fecsico o bob man. Nawr, bydd hyn yn cael effaith fawr ar yr ardal leol, fel y dangoswyd eisoes, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd ei ystyried yn y ddadl benodol hon. Ac os bydd y gweithwyr yn penderfynu ddydd Gwener i streicio, gallwch fod yn sicr y bydd Plaid Cymru ar y llinell biced gyda nhw yn y streic honno.
Mae'r gweithwyr yn haeddu gwell na hyn. Mae llawer o'r rhai hynny yr wyf i wedi siarad â nhw yn ystod yr wythnosau, misoedd, blynyddoedd diwethaf yn deyrngar iawn i Ford—yn wir, yn fwy teyrngar nag mewn rhannau eraill o waith Ford ledled y byd, ac rwy'n credu y dylid cydnabod hynny. Ond hoffwn i ofyn, yn ychwanegol at y sylwadau a wnaed eisoes, beth yn union y byddwch chi'n ei wneud o ran y pecyn cymorth a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Hefyd, pa sgyrsiau yr ydych chi'n eu cael gyda Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â'r pecynnau hynny? Gwyddom, yn anffodus, pan fo Ford wedi cau gweithfeydd eraill yn y DU, eu bod wedi cynnig pecynnau cymorth i'r gweithwyr penodol hynny. Beth fyddwch chi'n gallu ei gynnig, a sut y byddwch yn cynnig hynny?
Mae Brexit wedi chwarae rhan. Nid oes dim dianc rhag hyn, ond mae yna elfennau eraill y mae angen i ni eu hasesu wrth edrych ar yr hyn y mae Ford wedi bod yn ei wneud. Maen nhw wedi cau ffatrïoedd yng Ngwlad Belg, maen nhw wedi cau ffatrïoedd mewn mannau eraill, ac mae angen inni edrych ar yr economi foduro yn gyffredinol a sut y maen nhw'n gweithredu yn hynny o beth.
Fel gwlad wrth symud ymlaen, i edrych yn gadarnhaol, mae angen inni ddatblygu ein seilweithiau ein hunain fel y gallwn fod yn lle sy'n ddelfrydol ar gyfer busnesau, fel y gallwn ddatblygu ein heconomïau cynhenid ein hunain hefyd. Hoffwn i wybod beth fyddai eich ymateb i syniad yr ydym mi wedi'i gynnig eisoes—i gynnal uwchgynhadledd economaidd lle mae pawb yn cymryd rhan. Gwn eich bod wedi cyhoeddi tasglu, ond hoffwn i gael sgwrs genedlaethol nid â phobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan Ford yn unig, ond y rhai yn y busnesau eraill sy'n bwydo Ford, y bobl yn ein cymunedau sy'n elwa ar y ffaith bod Ford yn bodoli yma yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei wneud i gynnwys pawb?
Nawr, rwy'n credu bod yn rhaid i ni gyd barhau i fod yn obeithiol, ac mae'n rhaid i ni gynnal y gobaith hwnnw y gallwn gadw'r gwaith ar agor, a dyna pam rwy'n awyddus i weithio gyda phobl ar draws y bwlch gwleidyddol, a gwn y bydd fy nghyd-Aelod Dr Dai Lloyd, ac eraill, yn dymuno cefnogi'r gweithlu. Gwyddom fod llawer o bobl wedi cael cynnig diswyddiadau gwirfoddol ychydig fisoedd yn ôl sydd erbyn hyn yn meddwl tybed beth yw'r cynnig iddyn nhw. Mae'r gweithwyr yn dymuno cael eglurder, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni roi hwnnw iddyn nhw a rhoi'r gefnogaeth haeddiannol iddyn nhw am fod yn weithwyr mor deyrngar.