Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Gweinidog, ond rwy'n credu mai chi yw'r un sy'n gofalu am y gwasanaethau cymdeithasol a'r GIG yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil ar gyfer y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn dangos bod nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru wedi codi gan 1 y cant y llynedd. O gofio bod eich Llywodraeth wedi addo rhoi terfyn ar dlodi plant erbyn 2020, a allwch chi esbonio pam mai Cymru yw'r unig wlad yn y Deyrnas Unedig i weld cynnydd mewn tlodi plant y llynedd? A ydych chi'n cytuno bod y gwaith ymchwil hwn yn bwrw amheuaeth ar effeithiolrwydd eich strategaeth i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?