Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Mehefin 2019.
Llywydd, yn gyfan gwbl oherwydd y ffaith nad oes gennym ni system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, y mae gennym ni'r protocolau ymyrryd wedi'u graddnodi yr ydym ni'n eu gweithredu yng Nghymru, oherwydd pan roddir corff iechyd yn y system honno, nid penderfyniad Llywodraeth Cymru yn unig yw hwnnw; mae'n benderfyniad teiran. Mae ei wneud yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yr archwilydd cyffredinol a Llywodraeth Cymru, a math o ymyrraeth y cytunir arni y mae'r system deiran honno yn ei chynnwys, ac rwy'n gyfforddus iawn â hynny, oherwydd ni ddylai fod yn system sydd o dan fawd Llywodraeth Cymru, ac nid ydyw ychwaith.
Roedd rhywbeth a ddywedodd yr Aelod yr oeddwn i'n cytuno ag ef, sef bod annog y bobl hynny sy'n gyfrifol am geisio sicrhau gwelliannau yn ein gwasanaeth iechyd yn wirioneddol bwysig, a dylai cydnabod pan fydd pethau'n mynd yn dda, yn ogystal â phan fydd pethau ddim yn mynd cystal ag y byddem ni'n dymuno, fod yn rhan bwysig iawn o'r drefn y mae'r Llywodraeth yn ei dilyn i gynorthwyo'r bobl hynny sydd, ar y rheng flaen honno, yn gorfod gwneud y penderfyniadau hynny bob dydd.
O ran y cynghorau iechyd cymuned, credaf fod gennym ni hanes balch yn y maes hwnnw, Llywydd. Cadwyd cynghorau iechyd cymuned gennym ni yma yng Nghymru pan gawsant eu diddymu ar draws y ffin, ac rydym ni wedi eu cefnogi erioed yn y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Mae cyfle nawr, yn y ddeddfwriaeth a fydd yn dod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, i wneud yn siŵr, gyda'r rhan y mae cynghorau iechyd cymuned yn ei chwarae yn y trefniadau ansawdd sydd gennym ni yn y GIG yng Nghymru, i ni sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl sydd gan y bobl wirfoddol leol hynny i weithredu fel llygaid a chlustiau cleifion. Bydd yr Aelodau yn cael pob cyfle yn ystod hynt y Bil i graffu ar y cynigion hynny a gweld eu bod nhw'n cyflawni'r agenda honno o sicrhau bod gennym ni bobl ym mhob rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru sy'n gallu adrodd ar yr hyn y maen nhw'n ei weld, tynnu sylw'r rhai sy'n cael eu talu i redeg ein gwasanaethau iechyd ato, ac i fanteisio ar y cyfraniad aruthrol y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.