Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolchaf i'r Aelod am hynny. Mae unrhyw farwolaeth oherwydd strôc yn destun gofid mawr. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r achos y soniodd amdano, ond yn y termau y'i disgrifiwyd ganddi, wrth gwrs mae ein cydymdeimlad yn mynd i'w deulu o dan yr amgylchiadau hynny. Mae thrombectomi yn fath hynod arbenigol a chymharol newydd o ymyrraeth yn y gwasanaeth iechyd. Fe'i datblygwyd yn rhannol yma yng Nghymru, gan fod y gwaith ymchwil gwreiddiol a wnaed iddo wedi cael ei wneud mewn tair canolfan—yng Nghaerdydd, yn Birmingham ac mewn un arall. A phan oeddwn i'n Weinidog iechyd, cefais y fraint o gwrdd â'r clinigydd yng Nghymru a oedd yn arwain y gwaith ymchwil hwnnw yn y fan yma, a chyfarfûm â chlaf a fu'n arlunydd cyn dioddef ei strôc, a ddywedodd wrthyf i, wrth i'r clot gwaed gael ei dynnu o'i ymennydd—ac roedd ef yn ei wylio ar sgrin; roedd yn ymwybodol pan oedd hyn yn digwydd—y gallai weld y clot gwaed yn cael ei dynnu o'i ymennydd ac, wrth iddo ei wylio, gallai deimlo teimlad yn dychwelyd i'w fraich ac i'w law. Roedd yn gwbl ryfeddol clywed hynny, ond fel y gallwch ddychmygu, fel y gall Aelodau ddychmygu, mae'r ddawn sydd ei hangen i ymgymryd â'r math hwnnw o ymyrraeth yn sylweddol iawn ac mae'n rhaid iddo fod yn hynod o fanwl.
Felly, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn symud ymlaen yn dda o ran cynllunio gwasanaeth Cymru gyfan ar gyfer thrombectomi yma yng Nghymru. Bydd angen recriwtio. Bydd angen hyfforddiant. Yn y cyfamser, rydym ni'n comisiynu gwasanaethau o'r ochr arall i'n ffin lle mae capasiti dros ben yn brin. Ond yr ateb, nid yn yr hirdymor, ond cyn gynted ag y gallwn ni ei wneud, yw creu'r gwasanaeth Cymru gyfan hwnnw gyda'r bobl y bydd eu hangen arnom ni a chyda'r ddarpariaeth y bydd ei hangen.