1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2019.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gofal ar gyfer cleifion strôc yn y Rhondda? OAQ54007
Llywydd, rhwng 2013 a 2017, gostyngodd nifer y bobl a fu farw o strôc yng Nghymru gan 25 y cant. Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn dangos gwelliant parhaus mewn gwasanaethau strôc yng Nghymru. Yn y Rhondda, fel mewn mannau eraill, mae hyn yn dibynnu ar arweinyddiaeth glinigol effeithiol a gweithio amlddisgyblaethol.
Bu farw Colin Rogers o Rondda Cynon Taf o strôc rhydweli waelodol yn ddim ond 55 oed, gan adael teulu torcalonnus. Cafodd Mr Rogers yr anffawd o gael ei gymryd yn wael ar fore Sul. Pe byddai wedi digwydd yn ystod yr wythnos, byddai wedi bod modd ei drosglwyddo i Fryste ar gyfer thrombectomi endofasgwlaidd, a allai fod wedi achub ei fywyd. Nid oedd trefniant o'r fath ar gael ar y penwythnos. Sefydlwyd deiseb i sicrhau bod y driniaeth hon ar gael i gleifion yng Nghymru, sy'n galw
'ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.'
Rwy'n deall bod darpariaeth yn cael ei gwneud i unioni'r anghyfiawnder hwn trwy wneud y llawdriniaeth ar gael yn ehangach yng Nghymru, ond, fel gyda llawer o broblemau yn y GIG yng Nghymru, mae hyn yn fater o gynllunio'r gweithlu. Pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gwasanaeth 24/7 yn cael ei ddarparu i gleifion yng Nghymru, a fydd, gobeithio, yn atal achosion tebyg i un Mr Rogers?
Diolchaf i'r Aelod am hynny. Mae unrhyw farwolaeth oherwydd strôc yn destun gofid mawr. Nid wyf i'n gyfarwydd â'r achos y soniodd amdano, ond yn y termau y'i disgrifiwyd ganddi, wrth gwrs mae ein cydymdeimlad yn mynd i'w deulu o dan yr amgylchiadau hynny. Mae thrombectomi yn fath hynod arbenigol a chymharol newydd o ymyrraeth yn y gwasanaeth iechyd. Fe'i datblygwyd yn rhannol yma yng Nghymru, gan fod y gwaith ymchwil gwreiddiol a wnaed iddo wedi cael ei wneud mewn tair canolfan—yng Nghaerdydd, yn Birmingham ac mewn un arall. A phan oeddwn i'n Weinidog iechyd, cefais y fraint o gwrdd â'r clinigydd yng Nghymru a oedd yn arwain y gwaith ymchwil hwnnw yn y fan yma, a chyfarfûm â chlaf a fu'n arlunydd cyn dioddef ei strôc, a ddywedodd wrthyf i, wrth i'r clot gwaed gael ei dynnu o'i ymennydd—ac roedd ef yn ei wylio ar sgrin; roedd yn ymwybodol pan oedd hyn yn digwydd—y gallai weld y clot gwaed yn cael ei dynnu o'i ymennydd ac, wrth iddo ei wylio, gallai deimlo teimlad yn dychwelyd i'w fraich ac i'w law. Roedd yn gwbl ryfeddol clywed hynny, ond fel y gallwch ddychmygu, fel y gall Aelodau ddychmygu, mae'r ddawn sydd ei hangen i ymgymryd â'r math hwnnw o ymyrraeth yn sylweddol iawn ac mae'n rhaid iddo fod yn hynod o fanwl.
Felly, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn symud ymlaen yn dda o ran cynllunio gwasanaeth Cymru gyfan ar gyfer thrombectomi yma yng Nghymru. Bydd angen recriwtio. Bydd angen hyfforddiant. Yn y cyfamser, rydym ni'n comisiynu gwasanaethau o'r ochr arall i'n ffin lle mae capasiti dros ben yn brin. Ond yr ateb, nid yn yr hirdymor, ond cyn gynted ag y gallwn ni ei wneud, yw creu'r gwasanaeth Cymru gyfan hwnnw gyda'r bobl y bydd eu hangen arnom ni a chyda'r ddarpariaeth y bydd ei hangen.
Mae'n ddrwg iawn gen i glywed am eich etholwr, Leanne. Buom yn siarad yn y fan yma, neu siaradodd Leanne am sut y gellid bod wedi atal marwolaeth Mr Rogers pe byddai'r adnoddau cywir wedi bod ar waith ac, wrth gwrs, mae atal yn well na gwella. Mae'n hen ddywediad ond mae'n hollol wir, ac rydym ni'n gwybod mai yn y Rhondda ac ym mwrdd iechyd Cwm Taf, y gellir dod o hyd i'r nifer fwyaf o bobl ifanc a'r glasoed sy'n ysmygu yn yr ardal honno. Wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod ysmygu'n gyfrannwr mawr at strôc ac at bwysedd gwaed uchel. Felly, Prif Weinidog, yn rhinwedd eich swydd fel y sawl sy'n gorfod cydgysylltu amrywiol ganghennau'r Llywodraeth, a allech chi roi amlinelliad i ni o'r hyn y gallech chi ei wneud efallai i sicrhau bod pobl ifanc yn y Rhondda ac yn ardal gyfan Cwm Taf yn cael addysg briodol sy'n eu haddysgu am beryglon ysmygu, am y canlyniadau hirdymor i'w hiechyd? Oherwydd, os gallwn ni gael pobl yn ddigon ifanc a gwneud y newidiadau hynny i ffyrdd o fyw, yna nid yn unig y maen nhw'n elwa, ond rydym ninnau'n elwa fel cenedl oherwydd bod gennym ni adnoddau sy'n fwy rhydd wedyn i wneud pethau eraill yr ydym ni angen eu gwneud.
Diolchaf i'r Aelod am y pwynt pwysig yna, a gwn y bydd hi wedi croesawu'r ffaith bod lefelau ysmygu ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ar eu hisaf erioed, ac felly hefyd ffigurau alcohol yng Nghymru. Felly, mae'r negeseuon iechyd y cyhoedd yr ydym ni wedi bod yn eu cyfleu a'r camau ymarferol a gymerwyd drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy fferylliaeth gymunedol, drwy'r hyn yr ydym ni'n ei wneud mewn ysgolion, yn cael effaith gadarnhaol ar y lefelau ysmygu yn ein cymuned ac ymhlith pobl ifanc yn arbennig. Fel sy'n wir mewn cymaint o faterion iechyd, ceir graddiant economaidd-gymdeithasol i'r cyfan, ac mae'r teuluoedd hynny sy'n byw o dan yr amgylchiadau anoddaf yn dibynnu ar ysmygu a phethau eraill i'w helpu i wynebu'r anawsterau hynny i'r graddau y mae pobl sy'n byw bywydau mwy breintiedig yn gallu eu hosgoi, a dyna pam yr ydych chi'n gweld y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod atynt. Ond mae'n rhaid mai'r newyddion da, Llywydd, yw bod y camau yr ydym ni wedi eu cymryd yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yn llwyddo. Mae gennym ni synnwyr cryf o'r pethau sy'n gweithio. Mae angen i ni wneud mwy ohonynt, mae angen i ni eu graddnodi i'r mannau hynny lle mae'r her fwyaf, ond rydym ni'n gallu manteisio ar y profiad llwyddiannus hwnnw er mwyn gwneud hynny.