Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am hynny. Trwy gyfrwng rheoleiddio effeithiol yr ydym ni'n diogelu'r amgylchedd ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer amaethyddiaeth drwy fusnesau cynaliadwy a chryf. Mae rheoleiddio yn rhoi eglurder i ffermwyr a busnesau, yn diogelu safonau, ac yn helpu i gynnal ein hadnoddau naturiol.