1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 11 Mehefin 2019.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio'r diwydiant amaethyddol yng Nghymru? OAQ54023
Diolch i'r Aelod am hynny. Trwy gyfrwng rheoleiddio effeithiol yr ydym ni'n diogelu'r amgylchedd ac yn cyflawni'r canlyniadau gorau ar gyfer amaethyddiaeth drwy fusnesau cynaliadwy a chryf. Mae rheoleiddio yn rhoi eglurder i ffermwyr a busnesau, yn diogelu safonau, ac yn helpu i gynnal ein hadnoddau naturiol.
Ar 14 Tachwedd y llynedd, amlinellodd Gweinidog yr amgylchedd ei bwriad o gyflwyno dull Cymru gyfan o fynd i'r afael â llygredd nitradau, a dywedwyd wrth Aelodau'r Cynulliad y byddai rheoliadau'n dod i rym fis Ionawr nesaf—sef Ionawr 2020. Mae trigolion yng nghymunedau Gelligaer, Nelson a Phen-y-Bryn, yn etholaeth Caerffili, wedi gorfod wynebu sgil-effeithiau diflas y gweithgareddau amaethyddol a achoswyd gan Grŵp Bryn ar Fferm Gelliargwellt yng Ngelligaer. Mae etholwyr yn cysylltu â mi yn rheolaidd ynghylch diflastod yr arogleuon a achosir drwy wasgaru slyri yn rheolaidd. Byddai dynodi Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, fel yr argymhellwyd gan banel arbenigol a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyflwyno'r rheoliadau yr wyf eisoes wedi'u crybwyll, yn helpu i gyfyngu a monitro gweithgareddau o'r fath. A yw'r Prif Weinidog yn ffyddiog y bydd y rheoliadau newydd, felly, yn gwella'r sefyllfa yn fy etholaeth i, ac a fyddai'n barod i gyfarfod â mi i drafod hyn, ar ôl i'r rheoliadau ddod i rym yn 2020?
Diolch i'r Aelod am hynny. Yr ydym ni'n ffyddiog y bydd y rheoliadau a gyflwynir ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf yn rhoi sail statudol i fesurau y mae'r diwydiant, yn flaenorol, wedi ymrwymo'n wirfoddol i'w cyflawni. Mae'r mesurau'n cynnwys cyflwyno rhwymedigaethau statudol wrth gynllunio rheolaeth maetholion, wrth wasgaru gwrtaith yn gynaliadwy, wrth ddiogelu dŵr rhag llygredd a sicrhau bod cydymffurfiad priodol â safonau storio tail. Bydd y rheini'n cael effaith wirioneddol gadarnhaol yn y diwydiant. Er fy mod yn deall bod hyn yn her i rai yn y diwydiant, a byddwn yn darparu amser ychwanegol i'r rhai fydd ei angen, bydd hyn o fantais i'r diwydiant yn y tymor hir, oherwydd y bydd yn sicrhau'r safonau hynny a fydd yn diogelu enw da y diwydiant—enw da sy'n anodd iawn ei ennill ond yn hawdd iawn ei golli—a gwyddom fod gormod o enghreifftiau yng Nghymru o'r math y mae'r Aelod wedi cyfeirio ato. Ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i gyfarfod ag ef a Lesley Griffiths wrth i'r safonau newydd hynny gael eu cyflwyno ac wrth i'r rheoliadau statudol gael eu gorfodi, i glywed sut y maen nhw'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ei etholaeth ef.
Diolch i'r Prif Weinidog.