Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch am y datganiad. Does dim dwywaith fod lleihau baich gwaith athrawon a lleihau biwrocratiaeth yn rhan bwysig o'r gwelliannau sydd angen digwydd er mwyn codi safonau yng Nghymru. Mae'r berthynas rhwng athro a disgybl yn allweddol i lwyddiant dysgu ar lawr y dosbarth, ac felly mae unrhyw beth sydd yn amharu ar y berthynas honno angen ei gwestiynu a'i gwestiynu yn rheolaidd. Dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno bod angen creu proffesiwn sydd yn fwy atyniadol ar gyfer pobl ifanc, ac mae lleihau'r baich gwaith a lleihau biwrocratiaeth yn rhan o'r cylch yna o geisio gwneud y proffesiwn yn fwy atyniadol, dwi'n credu.
Gaf i ofyn yn gyntaf i chi am yr awdit data rydych chi'n sôn amdano fo yn y pedwerydd pwynt, dwi'n meddwl, gennych chi fan hyn? Beth fydd hyd a lled yr ymarferiad yma? Ydych chi yn edrych arno fo o safbwynt lleihau faint o ddata mae disgwyl i athrawon ei gofnodi? Dwi'n siŵr y byddai hynny yn cael ei groesawu. Mae'n debyg ei fod o yn faich, yr holl gasglu data yma, y gellid lleihau dipyn arno fo. Felly, dwi'n croesawu yr awdit yma fel man cychwyn ar gyfer hynny.
Yn y tymor hirach, ydych chi'n credu bod angen adolygiad mwy cynhwysfawr, efallai, i'r dyfodol, gan edrych nid yn unig ar y data sydd angen ei gofnodi a'i gasglu, ond hefyd y ffaith fod yr holl gyrff gwahanol yma angen ymatebion yn aml iawn? Hynny yw, mae angen i athrawon fod yn ymatebol i wahanol haenau ac i wahanol bobl sydd yn dod i mewn i'r sefyllfa yn yr ysgol. Ac mi fyddaf i'n meddwl weithiau, tybed a oes yna ormod o hynny'n digwydd ac a oes yna ddyblygu'r hyn sydd yn cael ei fonitro a'r hyn y mae'n rhaid i athrawon ymateb iddo fo, a bod hyn yn ddiangen, mewn gwirionedd, a bod angen, efallai, edrych ar drio tynhau'r holl agwedd yna ar waith athrawon sydd, eto, yn ymyrraeth sydd yn gallu amharu ar y berthynas yma. Mae elfennau ohono fo'n ymyrraeth sy'n gorfod digwydd, ond tybed a oes yna ormod o'r un peth yn digwydd. Dyna fy nghwestiwn i yn fanna. Yn y tymor hirach, efallai bod eisiau edrych yn fwy manwl ar hynny.
Roedd Suzy Davies yn sôn am y rheolwyr busnes mewn ysgol, ac roeddwn i'n gwrando arnoch chi'n sôn am y peilot lle mae yna 100 o ysgolion wedi bod yn rhan ohono fo ers dwy flynedd, a fy nealltwriaeth innau hefyd ydy bod rôl y rheolwr busnes yn gweithio'n dda, ac mi wnaethoch chi amlinellu rhai o'r buddion. Ond, wrth gwrs, oherwydd yr holl ofynion eraill ar gyllid ysgolion, tybed a ydy'r swyddogaeth yma'n gynaliadwy mewn gwirionedd mewn hinsawdd o doriadau. Yn anecdotaidd, beth bynnag, dwi'n clywed bod llai a llai o ysgolion yn buddsoddi yn y rôl yma, neu fod y rôl rheolwr busnes yn un o'r rhai cyntaf, efallai, i ddiflannu mewn cyfnod o orfod canfod toriadau, er gwaetha'r manteision amlwg. Ac, wrth gwrs, dydy cael rheolwr busnes ddim yn opsiwn realistig ar gyfer rhai o'n hysgolion lleiaf oll ni. Tybed a oes yna angen gweithio'n fanna ar ryw fath o reolwr busnes sy'n gweithio ar draws nifer o ysgolion. Dwi'n gwybod bod hwnna'n digwydd mewn rhai ardaloedd. Efallai bod hwnna'n arfer da i'w ledaenu.
Yn olaf, a gaf i eich holi chi am yr adolygiad a wnaed gan Mick Waters a Melanie Jones ynglŷn â datganoli tâl ac amodau i Gymru? Dwi'n cymryd bod rhan o'r datganiad yma heddiw yn ymateb i rai o'u sylwadau nhw. Ond mi roedd yna 37 argymhelliad yn yr adroddiad yna, a dwi'n gwybod eich bod chi wedi ymateb i rai ohonyn nhw ond mae yna rai dal yn sefyll, ac mi fyddai'n ddiddorol cael, efallai, datganiad pellach ynglŷn â rhai o'r materion sydd yn dal i sefyll. Er enghraifft—mae hwn werth ei ystyried, dwi'n meddwl; mae'n gallu bod yn ddadleuol—ond mi roedden nhw'n argymell system o reoli gyrfa a chefnogaeth i athrawon ac yn argymell model cyflogaeth newydd ar gyfer penaethiaid ysgol ble mae penaethiaid yn gweithio ar lefel rhanbarthol yn hytrach na bod yn gysylltiedig efo ysgolion unigol. Byddai'n ddiddorol cael eich ymateb chi i hynny. Dwi ddim yn dweud fy mod i'n cytuno neu'n anghytuno, ond byddai'n ddiddorol gweld beth ydy'r drafodaeth ac a oes yna drafodaeth ynghylch hynny. Mae'n debyg bod yna fanteision petai angen arweiniad ar lefel mwy na lefel ysgol unigol, ac mae sgiliau penaethiaid, efallai, yn gallu cael eu rhannu ar draws nifer o ysgolion neu mewn rhanbarth. Felly, pryd ydych chi'n bwriadu ymateb i'r holl argymhellion a wnaed yn yr adroddiad gan Waters a Jones?
A wedyn, yn olaf, faint o sgôp ydych chi'n ei weld rŵan yn y tymor hir i wella amodau gwaith, yn cynnwys baich gwaith a biwrocratiaeth, drwy gyfrwng y pwerau datganoledig newydd ynglŷn â thâl ac amodau? Efallai fedrwch chi egluro sut ydych chi'n gweld cylch gorchwyl corff annibynnol adolygu tâl Cymru'n datblygu wrth i ni weld y pwerau newydd yma'n gwreiddio ac wrth i ni gael gwell dealltwriaeth o beth ydy posibiliadau defnyddio'r pwerau newydd wrth symud ymlaen. Diolch.