4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Goblygiadau Cynigion Mewnfudo Llywodraeth y DU ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r Economi Ehangach

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 4:30, 11 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr y llynedd yn amlinellu ei chynlluniau ar gyfer mewnfudo ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ni fu unrhyw ymgysylltu blaenorol gyda Llywodraeth Cymru, er gwaethaf sicrwydd blaenorol y byddai hyn yn digwydd. Mae'r cynlluniau yn y Papur Gwyn yn anwybyddu pwysau'r dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ynghylch yr effaith negyddol ar yr economi o fabwysiadu ymagwedd fwy cyfyngol at ymfudo. Mae gwaith a gomisiynwyd gennym ni gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, y byddaf yn cyfeirio ato'n fanylach yn y man, wedi cadarnhau ei bod hi'n briodol ein bod ni'n parhau i bryderu'n ddirfawr am y dull gweithredu hwn, sydd yn gyfyngol iawn ac a fydd yn sicr o gael effaith andwyol ar economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' fe wnaethom ni gynnig ffordd o fynd i'r afael ag ymfudo oedd yn hyblyg ond wedi'i rheoli, lle byddai pobl o Ewrop yn gallu symud i'r DU pe bai ganddyn nhw gynnig swydd blaenorol neu pe bai ganddyn nhw'r gallu i ddod o hyd i swydd yn gyflym. Fe wnaethom ni ddadlau y dylai'r ymagwedd gymharol agored hon at ymfudo gael ei hategu gan orfodaeth lem ar ddeddfwriaeth i atal camfanteisio ar weithwyr a thanseilio cyflogau ac amodau, wrth gefnogi ein heconomi. Fe wnaethom ni osod fframwaith rhesymegol ar gyfer ymfudo y credem ni y byddai nid yn unig yn diwallu anghenion Cymru, ond a fyddai hefyd yn gweithio dros y DU gyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i'n cynigion, mae'r Papur Gwyn yn cynnig cyflwyno un system fewnfudo a fydd yn rhoi terfyn ar ryddid i symud a'r driniaeth ffafriol a gaiff dinasyddion yr UE. Bydd yn rhaid i ddinasyddion yr UE a dinasyddion nad ydynt yn aelodau o'r UE sydd eisiau dod i'r DU i weithio fel arfer wneud cais am fisa, ac ni fydd y rhai sy'n ennill llai na throthwy cyflog yn gymwys. Yn y Papur Gwyn, mae'r Llywodraeth yn awgrymu y gallai'r trothwy gael ei bennu ar £30,000, er nad yw hynny eto, diolch byth, yn bolisi sefydledig.

Effaith y cynigion hynny fyddai lleihau ymfudiad o'r UE i'r DU yn sylweddol. Byddai'r newidiadau'n effeithio nid yn unig ar yr hyn y mae'r Papur Gwyn yn ei alw'n weithwyr 'sgiliau isel' a'u cyflogwyr—byddai'n debygol o effeithio hefyd ar y rheini â sgiliau canolraddol, er enghraifft nyrsys, rheolwyr gofal ac eraill. A dylwn ddweud nad ydym ni yn Llywodraeth Cymru yn dymuno disgrifio gweithwyr sy'n gwneud gwaith yr ydym ni'n dibynnu arno fel rhai 'sgiliau isel'. Credwn fod gweithwyr â phob math o sgiliau yn ychwanegu gwerth i'n cymdeithas ac i'n heconomi.

Er mwyn mynd i'r afael â nifer o bryderon ynghylch cynlluniau Whitehall ar gyfer mewnfudo, roedd yn hanfodol ein bod yn casglu tystiolaeth ynghylch pa mor ddifrifol fyddai'r effeithiau. Ac felly, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ystyried sut y byddai'r system fewnfudo arfaethedig yn effeithio ar Gymru. Roedd hyn yn cynnwys archwilio effaith atal gweithwyr tramor rhag aros yn y DU am fwy na blwyddyn os ydyn nhw'n ennill llai na £30,000. Cyhoeddodd canolfan Cymru ei hadroddiad ym mis Mawrth ac, yn anffodus, ni wnaeth dim ond cadarnhau ein hofnau na fyddai cynigion Llywodraeth y DU o ran ymfudo yn gwneud dim i helpu cyflogwyr a byddai'n ergyd drom i economi Cymru. Byddai cynlluniau'r Llywodraeth yn cael effaith wirioneddol ar y sectorau preifat a chyhoeddus. Byddai'r effaith ar Gymru'n fwy anghymesur na'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, o ran nifer y bobl sy'n ymfudo i gael gwaith, ac mae amcangyfrif y byddai cynnyrch domestig gros yng Nghymru yn gostwng rhwng 1 y cant a 1.5 y cant dros 10 mlynedd.

Rwy'n bryderus iawn y byddai system fewnfudo mor gyfyngol ar ôl Brexit yn arwain at brinder sgiliau gwirioneddol yn ein sectorau economaidd allweddol. Er enghraifft, mae gennym ni eisoes nifer fawr o ddinasyddion yr UE yn gweithio yn y sectorau prosesu bwyd a hylendid bwyd. Mae gennym ni hefyd sectorau eraill dan fygythiad ac sy'n wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, megis gofal cymdeithasol a gweithgynhyrchu. Mae'r galw am ofal yn cynyddu, ac mae gweithgynhyrchu'n dibynnu'n helaeth ar weithwyr o'r UE. Nid cyfyngu ar fynediad i lafur o'r UE yw'r ateb. Nid agwedd arall ar y Papur Gwyn yw'r ateb ychwaith, yr ymddengys ei bod wedi'i chyflwyno ar y funud olaf mewn ymgais ofer i dawelu meddyliau cyflogwyr—y cynnig i gyflwyno cynllun gweithwyr dros dro, a fyddai'n galluogi i unigolion o rai gwledydd weithio yn y DU am 12 mis yn unig, ac ar ôl hynny byddai'n rhaid iddyn nhw adael. Dirprwy Lywydd, onid yw hi'n amlwg nad cynllun o'r fath yw'r ateb o gwbl i brinder sgiliau a llafur mewn sectorau megis gofal cymdeithasol, lle mae arnom ni angen lleihau ac nid cynyddu trosiant staff. Byddai cynllun o'r fath yn anfoesol ac yn aneffeithiol.

Ar y llaw arall, rydym ni'n glir, os a phan fyddwn ni'n gadael yr UE, y byddwn yn parhau i fod ag angen polisi ymfudo sy'n caniatáu i Gymru ddenu'r math priodol o weithwyr i bob maes, boed hynny'n iechyd, gofal cymdeithasol, twristiaeth, addysg uwch neu gynhyrchu bwyd. Nid wyf eisiau gweld nyrsys, meddygon iau, a gweithwyr eraill sydd eisiau gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n diwydiannau yn ei chael hi'n fwy anodd ac yn llai deniadol i ddod i Gymru yn y dyfodol. Ac nid yw hyn yn ymwneud yn unig â chwtogi ar hawliau i'r rhai sydd eisiau dod i'n gwlad, mae cyflogwyr Cymru yn poeni'n ddigon teg a fyddant yn gallu recriwtio a chadw gweithwyr o'r UE. Mae cynaliadwyedd eu busnesau'n dibynnu'n aml ar y gweithwyr hynny o'r UE, yn ogystal â sicrwydd swyddi gweithwyr Cymru yn y busnesau hynny.

Hyd yn oed i'r swyddi hynny sy'n talu cyflogau sy'n uwch na'r trothwy cyflog, bydd beichiau newydd. Ar hyn o bryd, mae ymfudo o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn rhoi ychydig iawn o faich gweinyddol ar weithwyr, ar gyflogwyr, neu ar Lywodraeth y DU—mae pasbort neu gerdyn adnabod yn ddigonol i brofi eich bod yn dod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir—ac nid oes costau uniongyrchol o ran mewnfudo. Yn dibynnu ar y system a weithredir a faint o reolaeth sydd, bydd beichiau ariannol a gweinyddol ychwanegol amrywiol. Mae'r peryg y caiff y costau hyn eu hehangu i gynnwys dinasyddion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn creu baich sylweddol a chostus ar fusnesau ac mae'n sicr o atal twf yn y DU. Yn fwy cyffredinol, mae peryglon niferus yn ymwneud â gweinyddu, gweithredu a gorfodi unrhyw system newydd.  

Fel yr eglurais yr wythnos diwethaf, safbwynt Llywodraeth Cymru yw ymgyrchu dros refferendwm ac aros yn yr UE. Ond os ydym ni'n mynd i adael, mae'n hanfodol ein bod yn perswadio Llywodraeth y DU y byddai eu polisi ymfudo dim ond yn dwysáu'r niwed bwriadol y maen nhw'n ei achosi i economi Cymru a'r Deyrnas Unedig. Mae arnom ni angen dull hyblyg, rheoledig, o ymdrin â mewnfudo sy'n deg ac sy'n gallu cyfrannu at ein ffyniant.

Fel y mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn ei gwneud hi'n glir, os oes rhaid i'r DU gael trothwy cyflog o gwbl, dylai fod yn llawer llai, efallai yn £20,000. Nid yr ateb yw cynnig rhoi rhestr ar wahân i Gymru, fel yr Alban, ar gyfer swyddi lle ceir prinder, er bod hynny i'w groesawu, os yw galwedigaethau ar y rhestr, fel sy'n wir ar hyn o bryd, yn dal i fod yn ddibynol ar yr un trothwy cyflog. Yn wir, mae'r holl gysyniad o restr swyddi lle mae prinder, fel y mae adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo, dyddiedig 29 Mai, yn dangos yn glir, dim ond yn gwneud synnwyr mewn sefyllfa lle mae cyfyngiadau rhifol ar nifer y fisâu sydd ar gael—un agwedd fileinig o'r system bresennol nad yw'r Papur Gwyn yn cynnig ei efelychu ar ôl Brexit.

Dirprwy Lywydd, i gloi, rhaid inni gael polisi ymfudo teg ar waith, un sy'n amddiffyn dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw ac sy'n sicrhau y diwellir ein hanghenion yn y farchnad lafur yn y dyfodol. Dylai unrhyw drothwy cyflog fod yn llawer llai na £30,000. Mae cefnogaeth eang i wneud hyn, yn ogystal â sicrhau bod y system newydd mor hyblyg ac mor hawdd ei defnyddio â phosib. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n dal i gael ei gweld fel lle deniadol i fyw ac i weithio a'n bod yn dal yn genedl groesawgar. Mae fy swyddogion yn cymryd rhan mewn proses ymgysylltu 12 mis gyda'r Swyddfa Gartref, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, lle mae gwahanol agweddau ar y Papur Gwyn ar fewnfudo yn cael eu trafod bob mis. Byddaf yn parhau i wneud mwy o waith ymgysylltu â'r Swyddfa Gartref, ar lefel weinidogol ac yn swyddogol, a byddaf yn parhau i sicrhau y dadleuir yn drwyadl dros yr hyn sydd orau i Gymru a'n pobl.