Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch i Darren Millar am rai o'r cwestiynau hynny. Rwy'n derbyn, i rai pobl, efallai nifer o bobl, fod y cwestiwn o ymfudo yn ffactor allweddol yn eu penderfyniad i bleidleisio fel y gwnaethon nhw yn 2016. Ac rwyf hefyd yn derbyn ei bod hi'n bwysig i ni roi sylw i ganfyddiadau pobl o ran ymfudo. Ond siawns mai rhan o'r broses o fynd i'r afael â'r canfyddiadau hynny yw amgyffred y canfyddiadau hynny o ran y gwirioneddau ar lawr gwlad, yn hytrach na dim ond atgyfnerthu canfyddiadau yr ydym ni gyd yn gwybod nad ydyn nhw'n wir. Mae hynny'n rhan o'r dasg y dylem ni ei gosod i ni ein hunain fel Cynulliad ym mhob plaid—nid yn unig i dderbyn bod gan bobl gyfres o ganfyddiadau, ond i drafod â phobl a chyflwyno'r achos pam y mae'r canfyddiadau hynny, fe wyddom ni, yn seiliedig ar gamargraffiadau mewn sawl achos.
Gwyddom fod gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru—llawer o wasanaethau cyhoeddus, nifer o sectorau economaidd, yn dibynnu'n sylweddol ar ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd. Does dim diben cymryd arnoch chi nad yw hynny'n wir. Felly, mae angen inni ddweud hynny wrth bobl. Mae angen i ni sôn wrth bobl mewn busnesau cynhyrchu bwyd am y peryglon o ran eu cyflogaeth a'u lles yn y dyfodol o ran y newidiadau hyn. Mae angen inni drafod â phobl a chyfleu'r safbwyntiau hynny, nid ategu'r canfyddiad hwnnw sydd gan bobl. Mae angen inni ddweud wrth bobl fod pobl sy'n symud i Gymru o'r Undeb Ewropeaidd yn llai tebygol o fod ar fudd-daliadau na phobl sy'n byw yma beth bynnag, maen nhw'n fwy tebygol o fod mewn gwaith, mae eu cyfraniad i'r trethi a gesglir gan Lywodraeth y DU yn fuddiol, eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid cyhoeddus yn gyffredinol, bod mewnfudo sylweddol yn cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant, ar arloesi. Mae'r rhain yn rhannau sylfaenol o'r ddadl, na wyntyllwyd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, tra bo canfyddiad yn un peth, siawns mai'r hyn y dylem ni fod yn ei drafod yw'r gwirionedd ac egluro i bobl beth yw'r canlyniadau o wneud dim byd ond ategu eu tybiaethau. Mae'r rhain yn gwestiynau dyrys, ond rhaid inni seilio ein trafodaethau ar y ffeithiau, nid ar ddim byd ond canfyddiadau.
Gwahoddodd fi i longyfarch Llywodraeth y DU o ran y ffordd y mae hi wedi mynd ati. Rwy'n mynd i wrthod y gwahoddiad hwnnw, a'r rheswm fy mod i'n mynd i wneud hynny yw—. Cymerwch un enghraifft o'r cynllun statws preswylydd sefydlog. Nid dyna'r math o gynllun y byddai Llywodraeth a oedd eisiau dangos ymrwymiad i les dinasyddion yr UE yn y DU yn ei sefydlu: cynllun sy'n codi tâl ar bobl i fod â hawl i aros yn y DU—pobl sydd wedi bod yn byw yma, mewn llawer achos, ers blynyddoedd lawer, sydd wedi magu teuluoedd yma.[Torri ar draws.] Wel, does dim tâl—ni ddylid erioed fod wedi codi tâl. Mae'r Llywodraeth wedi ailfeddwl ynglŷn â hynny, ond roedd hi, a dweud y gwir, yn warth gofyn i bobl dalu yn y lle cyntaf. Cynllun sy'n—. Os ydych chi'n byw yng Nghymru, dim ond un ganolfan sydd yng Nghymru, yng Nghaerffili, lle, os nad oes gennych chi ffôn Android, ni allwch chi lanlwytho dogfennau sy'n ofynnol er mwyn i chi gael statws preswylydd sefydlog. Nid yw hynny'n weithred gan Lywodraeth sy'n ceisio gwneud yn siŵr bod pobl yn gyffredinol yn gallu cymhwyso'n rhwydd a di-lol ar gyfer y cynllun hwn. Mae pobl, rydym ni'n gwybod—. Mae'r cynigion sydd gan y Llywodraeth o ran ymadael heb gytundeb hyd yn oed yn fwy didostur, felly nid fel hyn y byddai Llywodraeth yn mynd ati petai'n ceisio cofleidio cyfraniad dinasyddion yr UE i Gymru ac i'r DU yn ehangach.
Fe wnaethoch chi sôn am—. Soniodd yr Aelod yn ei gwestiwn am ymfudo wedi'i reoli. Mae 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl' yn disgrifio math o bolisi ymfudo sydd â chysylltiad llawer agosach â chyflogaeth—pa un a oes gennych chi swydd neu'r gallu i gael swydd. Ac rwy'n croesawu ei fod yn cydnabod pwysigrwydd mynd i'r afael â chamfanteisio—sy'n gwbl greiddiol i'r ddogfen bolisi honno, ac rwy'n falch o'i glywed yn sôn am hynny a'i ymrwymiad i hynny yn y Siambr.
Rwy'n croesawu'r posibilrwydd—yn wir, yn gobeithio am y tebygolrwydd—y caiff y ffigur o £30,000 ei ddileu. Nid yw'n gweithio i Gymru; mae £20,000 yn ffigur gwell. Yn wir, rydym ni wedi argymell hynny i Lywodraeth y DU, a byddwn yn eu gwahodd i gyflwyno newidiadau cyn gynted â phosib er mwyn tawelu meddyliau cyflogwyr. Croesawaf y cyfeiriad a wnaeth at fyfyrwyr. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw, pe bai Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu'n well â'r gweinyddiaethau datganoledig, byddai wedi llunio cynllun a fyddai'n adlewyrchu anghenion y gweinyddiaethau datganoledig yn well o ran addysg uwch. Gyda system yr Alban, er enghraifft, graddau pedair blynedd yw'r safon. Doedd hynny ddim yn cael ei adlewyrchu yn y cynllun gwreiddiol. Felly, rwy'n annog Llywodraeth y DU yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod i drafod mewn ffordd well o lawer nag y gwnaethon nhw wrth baratoi'r Papur Gwyn.
Yn y pen draw, mae hwn yn gwestiwn ynghylch i ba raddau yr ydym ni'n barod i nodi gofidiau a phryderon pobl neu i esbonio a thrafod y maes polisi hollbwysig hwn ar sail ffeithiau, ac rwy'n annog y blaid gyferbyn i ymdrin â'r mater ar y sail honno, fel yr wyf i'n bwriadu ei wneud.