Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 11 Mehefin 2019.
Hoffwn ddechrau gyda neges syml: bu croeso erioed i ymfudwyr yng Nghymru a dyma fydd yr achos o hyd yn y dyfodol. Mae croeso i chi, cewch eich gwerthfawrogi, a bydd Plaid Cymru bob amser yn gweithio i amddiffyn eich hawliau. Bob wythnos, rydym ni'n trafod yn y Siambr hon y peryglon i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus yn sgil Brexit, a dyma ni eto'n trafod newidiadau enfawr a gynigiwyd gan Lywodraeth San Steffan, y tro hwn ym maes ymfudo, a allai o bosib greu niwed difrifol. Ar ôl paratoi cyn y datganiad hwn, fe'm calonogir gan y ffaith bod y Gweinidog wedi sylwi ar yr un peryglon ag a wnes i o ran bygythiad cynigion Llywodraeth y DU i'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r gwaith ardderchog a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wrth ddarparu dadansoddiad trylwyr o'r materion dan sylw.
Rhaid imi ddweud, fodd bynnag, fy mod yn siomedig nad yw'r Gweinidog wedi sôn am unrhyw beth rhagweithiol y mae'n bwriadu ei wneud. Ar ôl cyfaddef bod Llywodraeth y DU wedi anwybyddu pryderon Llywodraeth Cymru yn llwyr hyd yn hyn, dywed nad oedd dim trafod blaenorol—a ddylai fod yn syfrdanol, ond nid yw felly, oherwydd dyma sut y mae San Steffan wedi trin Cymru erioed. Nid yw'n ddigon da dweud nawr ei fod yn gobeithio y byddant yn gwrando yn y dyfodol. Mae'n gwybod na fyddan nhw; rwy'n gwybod na fyddan nhw; mae pob Aelod synhwyrol yn y Siambr hon yn gwybod na fyddan nhw. Mae'r amser wedi dod i fynnu mwy o bwerau i Gymru, Gweinidog, fel y gallwn ni fynd ati ein hunain i amddiffyn yr economi yn hytrach na gwneud ceisiadau mynych sy'n cael eu hanwybyddu.
Caiff miloedd o ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw'n ddinasyddion y DU eu cyflogi'n uniongyrchol yng ngwasanaeth iechyd gwladol Cymru ac maen nhw'n treulio eu bywydau gwaith yn gofalu am iechyd pobl sy'n byw yng Nghymru ac rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hymdrechion. Mae GIG Cymru yn wynebu'r posibilrwydd brawychus o gael ei werthu gan Lywodraeth y DU ar un llaw, a gweld ei weithlu posib yn edwino ar y llall. Wrth gwrs, gellid osgoi'r ddau bosibilrwydd pe baem yn cael refferendwm ac yn penderfynu aros yn yr UE, sef yr hyn y mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn ei gefnogi.
Mae nifer anghymesur o weithwyr mudol hefyd yn y sector gofal cymdeithasol, sy'n bryder enfawr, gan fod newidiadau demograffig yn golygu y bydd y gymhareb o bobl hŷn o gymharu â gweithwyr iau yn cynyddu, sy'n golygu y gallwn ni o bosib fod mewn sefyllfa lle bydd mwy o bobl sydd angen gofal a llai o bobl o oedran gweithio i'w cefnogi, sy'n bryder difrifol.
Gweinidog, cred Plaid Cymru na ddylai fisâu addysg fod yn rhan o unrhyw gwotâu mewnfudo fel na fydd ein prifysgolion dan anfantais. Felly, dylai Llywodraeth Cymru gael pwerau dros reolau mewnfudo ar gyfer staff academaidd a myfyrwyr. Mae rhannau eraill o economi Cymru, yn enwedig gweithgynhyrchu, arlwyo a'r sector bwyd a diod, yn dibynnu'n helaeth ar weithwyr mudol a byddwn ni'n disgwyl i Lywodraeth Cymru ein sicrhau ni ei bod yn gwneud popeth priodol i ddiogelu eu buddiannau.
Mae Plaid Cymru yn anghytuno â Llywodraeth Lafur Cymru y dylai rhyddid i symud ddod i ben. Mae rhyddid i symud yn foesol gywir ac yn gwneud synnwyr economaidd. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU yn rhoi terfyn arno, cytunaf â'r Gweinidog na ddylai'r trothwy incwm arfaethedig o £30,000 fod yn berthnasol i Gymru, ac rwyf i, o leiaf, yn falch o glywed bod unfrydedd yn hynny o beth ar bob ochr i'r Siambr, gan fod cyflogau cyfartalog is yma yn golygu na fyddwn ni'n gallu denu'r gweithwyr sydd eu hangen arnom ni. Bydd nyrsys, meddygon iau, milfeddygon a llawer o rai eraill yn ei chael hi'n llawer anoddach dod i Gymru oni chaiff y cynigion hyn eu diystyru. Rydym ni eisiau Cymru sy'n croesawu pobl o bob cefndir, nid dim ond y rheini sy'n ddigon ffodus i allu ei fforddio. O ran yr hyn y carai Plaid Cymru ei weld, yn gyntaf oll, dylai Llywodraeth Cymru fod yn galw am ddatganoli polisi mewnfudo er mwyn inni allu rheoli'r broses o bennu'r cwotâu sydd yn fwyaf synhwyrol i'n heconomi. Ac, yn olaf, dylem yn sicr fod yn rheoli ein cyfran boblogaeth o fewnfudo i'r DU, sef 5 y cant, ac fe ddylem ni hefyd fod â'r hyblygrwydd i gynyddu hyn gyda newidyn canrannol os bydd angen hynny ar ein heconomi, neu os yw ein poblogaeth yn tyfu'n rhy araf. A wnewch chi gefnogi Plaid Cymru nawr wrth alw am hyn, Gweinidog?
Rwyf hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru greu cofrestr swyddi lle mae prinder sgiliau i nodi lle mae gennym ni fylchau sgiliau nawr, gan geisio rhagweld hefyd lle maen nhw'n debygol o ymffurfio mewn sectorau gwahanol, gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu cael y staff sydd eu hangen arnynt. Lle mae'r prinder yn ddifrifol, dylai Llywodraeth Cymru roi cynlluniau ar waith ar unwaith i hyfforddi gweithwyr ychwanegol gartref i atal diffygion niweidiol yn y dyfodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo o'r diwedd i wneud hyn?