Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 11 Mehefin 2019.
Yn rhy aml mewn dadleuon fel hyn sy'n canolbwyntio ar gyllid, gallwn ganolbwyntio gormod ar fanylion y canrannau a'r ffigurau yn y pellter sy'n ymddangos mor bell ei bod yn anodd olrhain eu perthynas â bywydau pobl. Mewn gwirionedd, bydd y cynigion yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw, hynny yw, sut y bydd cronfeydd yn cael eu dyrannu ar ôl Brexit i helpu ein cymunedau, yn cael effaith annileadwy ar fywydau pobl. Ac, fel sy'n digwydd yn rhy aml, y bobl sydd angen y cymorth mwyaf sy'n debygol o ddioddef y gwaethaf o ba ergydion bynnag y mae ein heconomi yn gorfod eu dioddef.
Un o brif feirniadaethau refferendwm 2016 oedd bod yr ochr 'aros' wedi methu â chyfleu'r manteision enfawr a gynigiwyd i ni o fod yn aelod o'r UE. Gellid dadlau bod awdurdodau lleol a chyrff eraill, gan gynnwys y lle hwn efallai, hefyd, am flynyddoedd, wedi methu â dweud hanes sut yr oedd cronfeydd penodol yn helpu ein cymunedau. Felly, gadewch inni ddweud y stori honno nawr. Gadewch i ni egluro sut mae cronfeydd strwythurol o fudd i Gymru a'n dinasyddion sydd â'r angen mwyaf am gymorth. Dosberthir y cronfeydd hanfodol hyn ar sail angen—dull sy'n ymddangos yn wrthun i Lywodraeth San Steffan, sy'n ffafrio'r boblogaeth fesul pen fel yr unig fesur o ddosbarthu cyfoeth. A nod y gronfa yw mynd i'r afael ag anghyfiawnder tlodi ac allgáu cymdeithasol.
Mae'r cronfeydd wedi cefnogi nifer o brosiectau yng Nghymru, megis STEMCymru 2, sy'n cefnogi pobl ifanc mewn pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i annog mwy o fenywod ifanc i fynd ar drywydd peirianneg. A'r rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth, sy'n helpu rhieni di-waith i gael gwaith neu hyfforddiant drwy eu helpu â chostau gofal plant. Mae'r rhaglen Gweithffyrdd+, yn y cyfamser, yn helpu'r rhai dros 25 oed nad oes ganddyn nhw swydd i mewn i gyflogaeth. Mae'r rhaglenni hyn yn achubiaeth i bobl pan fo'u hangen arnyn nhw fwyaf. Mae'n rhaid i'r gronfa ffyniant gyffredin anrhydeddu'r amddiffyniadau a gynigir gan y system bresennol, ac mae'n rhaid ei dosbarthu ar sail egwyddorion tebyg. Nid mater ariannol yn unig yw ffyniant; wrth gwrs dyna'r elfen ganolog, ond mae hefyd yn ymwneud â sicrhau lles a mynd i'r afael â gwahaniaethau strwythurol sy'n sail i annhegwch anghydraddoldeb yn ein cymdeithas.
Rydym ni'n gwybod y rhan hon o'r stori, o leiaf: mae Cymru'n cael cyfran uwch o gronfeydd strwythurol y pen na gweddill y DU. Yn wir, rydym ni yng Nghymru'n cael chwe gwaith yn fwy o gyllid yr UE y pen na Lloegr. Mae hynny'n gyfystyr â £230 y pen ar gyfartaledd yng Nghymru, o'i gymharu ag £85 y pen yn Lloegr. Ond mae Chwarae Teg wedi tynnu sylw at y ffaith mai menywod fydd yn dioddef waethaf os dilëir yr arian hwn, yn ogystal â grwpiau lleiafrifol eraill, pobl anabl, a phobl o gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dyma'r grwpiau sy'n elwa ar hyn o bryd o raglenni a ariennir gan yr UE, fel y rhai yr wyf newydd eu crybwyll. Nhw yw'r rhai y dylem ni fod yn meddwl amdanyn nhw yn y ddadl hon.
Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar effeithiau posibl Brexit, ond nid yw'n benodol i Gymru. Mae angen archwiliad sy'n benodol i Gymru arnom ni o effaith debygol Brexit—yn enwedig, yn awr, Brexit caled—ar ein heconomi. Unwaith eto, mae gan yr UE hanes cryf o amddiffyn rhannau o gymdeithas y mae angen eu hamddiffyn fwyaf, nid yn unig drwy weinyddu cronfeydd, ond hefyd drwy ddeddfu ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hawliau dynol a hawliau gweithwyr. Nid yw San Steffan wedi rhoi unrhyw sicrwydd y bydd yn amddiffyn pob un o'r hawliau hyn. Byddai tynnu ein hunain o'r system hon o dan yr amgylchiadau hyn yn debyg i dynnu'r sgaffaldiau o amgylch tŷ pan na fydd y sylfeini wedi'u gosod. Ni fydd dim yno i'n rhwystro rhag dadfeilio i'r ddaear.
Mae Llywodraeth y DU wedi addo na fydd ceiniog yn llai i'n cymunedau; rwy'n siŵr y bydd yr ymadrodd hwnnw'n eu plagio, ond mae'n rhaid inni beidio â gadael iddyn nhw ei anghofio.